Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/527

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd yr addoldy yn Twrgwyn wedi myned yn rhy fychan, a bu raid cael adeilad helaethach. Yn mhen tua chwech mlynedd gwedi agoriad y capel newydd, torodd adfywiad grymus allan. Dechreuodd foreu Sabbath, pan oedd Dafydd Morris yn pregethu, ac ymledodd dros y wlad, gan ddwyn canoedd i broffesu crefydd. Ac er i rai wrthgilio, parhaodd y nifer fwyaf yn ffyddlawn, gan roddi profion annghamsyniol eu bod wedi cael eu dychwelyd at Dduw. Dywedir ddarfod i'r diwygiad hwn barhau am amser maith.

Nis gallwn roddi hanes bywyd Dafydd Morris yn gyflawn; nid oes ar gael ddefnyddiau at hyny; rhaid ymfoddloni ar hanesion sydd wedi aros mewn gwahanol ardaloedd; ond prawf y rhai hyny ei fod yn bregethwr anghyffredin. Er dangos tuedd athronaidd ei feddwl adrodda Dr. Owen Thomas, yr hanesyn a ganlyn: Rhyw Sabbath yn y flwyddyn 1834, elai Dr. Thomas o Lanllyfni, gwedi odfa'r boreu, i Dalsarn, at ddau yn y prydnhawn. Yn cydgerdded âg ef yr oedd un o hen frodyr Llanllyfni. Er byrhau y ffordd croesent gae; ac yn y man, meddai hen ŵr, "A welwch chwi y gareg hon? Wyddoch chwi beth? Mi glywais i Dafydd Morris yn pregethu yn y fan yma, ac ar y gareg yna yr oedd yn sefyll." Cyffrowyd Dr. Thomas: "Aie," meddai, "a ydych yn cofio y testun?" "O, ydwyf, yn eithaf da; y geiriau yna yn y Salm: O drugaredd yr Arglwydd y mae'r ddaear yn gyflawn.'" "A ydych yn cofio rhywbeth o'r bregeth?" "Ydwyf, yr wyf yn cofio fod ganddo drugaredd mewn creadigaeth, trugaredd mewn rhagluniaeth, a thrugaredd mewn iachawdwriaeth. Ac wrth sôn am drugaredd mewn creadigaeth, yr wyf yn cofio ei fod yn tybio rhyw rai yn codi gwrthddadleuon yn erbyn hyny, am fod cymaint o'r ddaear yma yn anialwch diffaeth, cymaint o honi yn foroedd diffrwyth, a chymaint o honi yn fynyddoedd gwylltion." "Wel, sut yr oedd o yn ateb y gwrthddadleuon?" "Nid wyf yn cofio," meddai yr hen flaenor, "sut yr oedd o yn ateb gwrthddadl yr anialwch a'r môr, ond yr wyf yn cofio yn dda sut yr atebai wrthddadl y mynyddoedd: 'Cistiau Duw ydyw y mynyddoedd yma, bobl,' meddai, yn llawn o'i drysorau; ac fel y bydd o yn gweled ar ei blant eu heisiau, fe deifl ef yr allwedd i ryw un i'w hagor hwy.'" Byddai yn anhawdd cael prawf cryfach o feddylgarwch, yn enwedig pan feddylir fod gwyddoniaeth y pryd hwnw yn ei mabandod, ac mai prin yr oedd gwerth cynwys y mynyddoedd wedi cael ei ddatguddio.

Nid yn anfynych byddai rhyw nerth digyffelyb yn cydfyned â'i weinidogaeth, fel nas gallai y caletaf sefyll o'i blaen. Sonir yn Sir Fôn, hyd y dydd hwn, am bregeth ryfedd a draddodwyd ganddo yn Pont Rippont, o fewn rhyw bedair milltir i Gaergybi, yr hon a elwir, "Pregeth y golled fawr." Y testun ydoedd: "Pa leshad i ddyn os ynill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?" Wrth feddwl am enaid wedi ei golli, yr oedd yspryd Dafydd Morris wedi ei gyffroi i'w ddyfnderoedd, a bloeddiai ar y gynulleidfa oedd ger ei fron: "Ow! Ow! Plant y golled fawr." Yna darluniai fawredd y golled, ac fel byrdwn ar derfyn pob sylw deuai y floedd galon-rwygol, "Y golled fawr!" Gan mor uchel a threiddgar oedd ei lais, a'r fath effeithiolrwydd oedd yn cydfyned â'r traddodiad, rhedai y bobl yno o bob cyfeiriad; a gyda eu bod yn cyrhaedd y lle, yr oedd difrifwch annaearol y pregethwr, a nerth y floedd am y golled fawr," yn eu sobri ar unwaith, ac yn eu cyffroi i fin gwallgofrwydd. Bernir i bawb a wrandawent y noson hono gael eu hachub. Ceir yn Nghofiant John Jones, Talsarn, gan Dr. Owen Thomas, hanesyn tra dyddorol, yn dal cysylltiad â'r odfa hon. Un nos Sabbath, pregethai y diweddar Barch. David Roberts, Bangor, yn Llanerchy. medd; gwedi y bregeth cynhelid seiat, ac aeth y gweinidog o gwmpas i holi rhai o'r aelodau am eu profiadau. Aeth at un hen chwaer, gan feddwl y caffai rywbeth ganddi, a gofynodd, er ys pa faint o amser yr oedd gyda chrefydd. Nid oedd yr hen chwaer yn gallu dweyd. Ond," meddai, "yr oeddwn yn hogen go fechan, yn agos i Bont Rippont; a rhyw ddiwrnod, wrth fyned i rywle, mi gollais fy marclod (ffedog). Yr oeddwn wedi myned i chwilio am dano, ac yn teimlo yn fawr, bron a chrio, os nad oeddwn yn crio, am fy mod i wedi ei golli. Pan yr oeddwn i felly yn chwilio am dano, mi a glywn ryw lais uchel, cryf, yn swnio yn fy nghlustiau: 'Y golled fawr! Y golled fawr!' Mi a feddyliais mai sôn am fy marclod yr ydoedd o. Ond mi a ddilynais y swn, nes yr oeddwn yn y lle. Erbyn dyfod yno, yr oedd yno lawer o bobl wedi ymgasglu, a dyn yn pregethu ar yr adnod: Pa leshad i ddyn, os ynill efe yr holl fyd, a cholli ei