Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/528

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enaid ei hun ?' Ac mi ddois i toc i ddeall fy mod mewn perygl i golli peth anhraethol fwy gwerthfawr na fy marclod. Dyna yr amser y dechreuais i gyda chrefydd. A Dafydd Morris oedd y pregethwr hwnw." Diau fod y bregeth hono, a wnaeth y fath argraff ar feddwl genethig ieuanc, yn gystal ag ar bobl wedi tyfu i fynu, gan beri iddi hi a hwythau anghofio pob colled, yn mhresenoldeb "y golled fawr," yn rymus, tuhwnt i bob peth.

Coffeir am bregeth ryfedd arall, nid yn annhebyg o ran dylanwad i'r un yn Pont Rippont, a draddodwyd ganddo yn Llanarmon, Dyffrynceiriog. Pregethai dan goeden frigog, yn muarth Sarphle, ar y gair: "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth, canys ni elli mwy fod yn oruchwyliwr?" Tan y bregeth hon dywedir fod pawb yn gwaeddi neu yn wylo, yn molianu neu yn gweddio. Llefai y pregethwr, ag awdurdod o dragywyddoldeb yn ei lef, "Dyro "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth;" ac yn mhresenoldeb y cyfrif ofnadwy, crynai y caletaf, a churai ei liniau yn nghyd; toddai calonau creiglyd fel y tawdd cwyr o flaen tân. Golygfa ydoedd na welsid ei chyffelyb yn wlad hono; ac nid oedd gan baganiaid fro un cyfrif i'w roi am y fath beth, ond fod rhyw gyffroad o wallgofrwydd wedi wallgofrwydd wedi syrthio yn ddisymwth ar y gwrandawyr. Yr ydym yn barod wedi nodi ei fod yn deithiwr mawr. Am flynyddoedd cymerai Am flynyddoedd cymerai bedair o deithiau bob blwyddyn i Siroedd Môn ac Arfon, ac eraill o siroedd y Gogledd. Yr oedd mor adnabyddus yn y Gogledd ag oedd yn y Dê; a mawr fyddai y dysgwyliad am dano, a'r syched am ei glywed. Anaml y cynhelid Cymdeithasfa heb ei fod yn pregethu ynddi. Ar ei deithiau cyfarfyddai, o angenrheidrwydd, â llawer math o helynt, a chaffai mewn gwahanol leoedd bob math o dderbyniad. Pan ar daith yn Sir Ddinbych unwaith, ac yn myned o'r Bont Uchel i Adwy'r Clawdd, cafodd nad oedd ei gyhoeddiad, o herwydd rhyw anffawd neu gilydd, wedi cyrhaedd yr Adwy. Gan mai hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn y wlad, nid oedd yno neb a'i hadwaenai. Modd bynag, daeth o hyd i nifer o wragedd yn proffesu crefydd, i ba rai yr hysbysodd mai pregethwr o'r Deheudir ydoedd, a gofynai, ai nid oedd modd anfon gair ar led trwy y gymydog aeth a chasglu Ar hyn aeth, a chasglu pobl i wrando? cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda chryn sarugrwydd, "Pwy ydych? ydych yn werth anfon am wrandawyr i a chasglu pobl i wrando? Ar hyn cyrhaeddodd y blaenor, a gofynai, gyda chryn sarugrwydd, "Pwy ydych? ydych yn werth anfon am wrandawyr i chwi?" Ymddangosai y gŵr yn afrywiog ei dymher, a bustlaidd ei yspryd. Eithr rywfodd cafwyd cynulleidfa; dechreuodd Dafydd Morris bregethu, ac ar unwaith deallwyd mai nid dyn cyffredin ydoedd. Yn fuan dyma ryw nerth anorchfygol yn cael ei deimlo; cynhyrfid y bobl fel y cyffroir coedwig gan gorwynt; dyma deimladau dyfnion y galon yn ymdywallt allan, yn ocheneidiau uchel, ac yn afonydd o ddagrau, y rhai a redent i lawr yn llifogydd dros bob wyneb. Yr oedd yr hen flaenor sarug wedi cael ei orchfygu, fel pawb arall. Ar derfyn yr odfa aeth at y pregethwr, gan ymesgusodi, a dywedyd: "Dafydd Morris bach, gobeithio y gwnewch faddeu fy ymddygiad atoch cyn dechreu y cyfarfod." Meddai yntau yn ol: Y dyn, mi a welaf mai ci ydwyt; cyn i'r odfa ddechreu yr oeddit yn dangos dy ddanedd; yn awr yr wyt yn ysgwyd dy gynffon Profodd Dafydd Morris fod ganddo fedr arbenig i ddeall cymeriad, oblegyd yn fuan wedi hyn trodd y blaenor ei gefn ar yr achos, a gorphenodd ei yrfa mewn anfuchedd gyhoeddus, ac yn wrthwynebwr i'r efengyl.

Dyoddefodd lawer o erlidiau, ac nid yn' anfynych y gwaredodd yr Arglwydd ef yn rhyfedd. Un tro pregethai yn y Berthengron, a daethai cynulleidfa fawr yn nghyd i wrando. Ar ddechreu yr odfa gwelid haid o ddynion cryfion, a dibris, yn dynesu at y fan, wedi ymbarotoi i aflonyddu yr addoliad, ac o bosibl i niweidio y neb a feiddiai ddweyd gair yn eu herbyn. Ond pan yr oeddynt yn nesu at y tŷ, syrthiodd. eu blaenor, a thorodd ei goes, a hyny ar dir gwastad a thêg. Cafodd y fyntai ddigon o orchwyl i ymgeleddu y clwyfedig, a chafodd Dafydd Morris bob llonyddwch i gyhoeddi yr efengyl. Dro arall, yr oedd ar daith yn Arfon, ac aeth i'r Gwastadnant, lle yr arferid cynal pregethu. Yn anffodus, yr oedd gŵr y tŷ oddicartref, ac yr oedd y wraig yn wrthwynebol i'r efengyl. Pan y daeth y pregethwr at y drws, gan ofyn a oeddynt yn dysgwyl gŵr dyeithr yno, atebodd yn sarug: "Nac ydym; nid oes yma ond swp o boblach dlodion, ar eu heithaf yn ceisio magu eu plant." Dywedodd hyn mewn tymher mor chwerw fel y barnodd Dafydd Morris mai doethineb ynddo fyddai troi ymaith; a hyn a wnaeth heb iddo ef na'i anifail gael lluniaeth na llety; ac allan ar y mynydd, rhwng Llanberis a Llanrug, y buont, meddir, trwy ystod y nos.