Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y Clwb Sanctaidd

cymerasant wahanol gyfeiriadau, ond gwnaethant yr ardaloedd trwy ba rai y ífrydient yn ffrwyth- lawn ac yn iach, a hyfrydwch nid bychan i'r hanesydd crefyddol ei yspryd ydyw olrhain eu dylanwad.

Bywyd ac enaid y "Clwb Sanctaidd" yn ddiau oedd John Wesley. Yn aml fe briodolir cychwyniad y mudiad hwn iddo ef; ond nid yw hyny yn gywir. Perthyna yr anrhydedd i Charles Wesley a William Morgan, a chymerodd hyn le pan yr oedd John Wesley wedi gadael Rhydychain er mwyn gwasanaethu ei dad fel cuwrad. Pan ddychwelodd yn ol yn mhen amser, a chael fod y mudiad yn gydnaws a'i feddwl, taflodd holl frwdfrydedd ei natur iddo; ac yn y man disgynodd arweiniad y blaid newydd yn hollol naturiol i ddwylaw John Wesley. Cawsai ei ddwyn i fynu tan ddisgyblaeth lem; er fod ei dad yn ficer Epworth, ac yn ddyn tra rhagorol, yr oedd ei fam yn hynotach am ei synwyr cryf a'i duwioldeb personol; ac nid ymryddhaodd John oddiwrth ddylanwad ei fam tra y bu byw. Yr oedd yntau yn ddyn o yni a bywiogrwydd diderfyn; perchenogai ewyllys gref, anhyblyg; meddai lygad barcud i adnabod ei gyfleusterau, a chyflymder dirfawr i fanteisio arnynt. Mae yn amheus a anwyd i'r byd ragorach trefniedydd; gwnaethai gadfridog digyffelyb pe y cymerasai gyfeiriad milwraidd; gwnaethai ail Napoleon neu ail Wellington. Nid oedd yn athronydd dwfn, ac nid oedd ei ddirnadaeth o wirioneddau mawrion y Beibl yn eu cysondeb a'u gilydd mewn un modd yn eang. Bu am ran fawr o'i oes yn sigledig yn ei olygiadau duwinyddol, weithiau yn Uchel-eglwysyddol, bryd arall yn tueddu at y Morafiaid, ac yn cael ei ddylanwadu yn fawr ganddynt; ond am y rhan olaf o'i fywyd, yr oedd yn fath o Arminiad efengylaidd. Llafuriodd yn galed; teithiodd a phregethodd am oes faith yn ddidor; a chyn iddo farw, cafodd weled y Cyfundeb Wesleyaidd, a sylfaenwyd ganddo, wedi gwasgar ei gangau tros yr holl fyd adnabyddus. Charles Wesley, ei frawd, oedd emynydd y Cyfundeb Wesleyaidd, er i John gyfansoddi rhai emynau tra rhagorol, y rhai a genir ac a ystyrir yn safonol hyd heddyw, Dyn siriol a charedig oedd Charles Wesley, llai galluog na John; ac fel math o is-filwriad i'w frawd mwy penderfynol, yn ei gynorthwyo gyda ei drefniadau, ac yn cario allan ei gynlluniau, y treuliodd ei oes. Pregethwr y Diwygiad Saesneg oedd George Whitefield, Ni ymunodd ef a'r " Clwb Sanctaiddd " hyd ar ol rhai blynyddoedd gwedi ei sefydliad. Oblegyd tlodi amgylchiadau, math o Wasanaeth efrydydd (servitor) oedd yn y Brifysgol; cynhallai ei hun yno yn benaf a'r arian a dderbyniai am weini ar blant boneddigion a dynion arianog. Felly