Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/535

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neillduol gan y Methodistiaid yn Nghayo. Prin y geil hyn fod yn gywir, oblegyd dengys cofnodau Trefecca fod yno seiat gref, yn rhifo 44 o aelodau, yr hon oedd dan arolygiaeth James Williams, mor foreu a 1743. Tybia Mr. Hughes, awdwr Methodistiaeth Cymru, i'r seiat yn Nghayo ddiflanu o fod, neu ynte wanhau yn ddirfawr, yn ystod enciliad Harris, a'r terfysg a ddilynodd. "Y pryd hwnw," meddai, "y llaesodd dwylaw llawer o'r cynghorwyr cyntefig, y dyrysodd ysgogiad y peiriant crefyddol a osodid i fynu gan y Diwygwyr, ac y chwalwyd lliaws o'r mân eglwysi a gasglesid at eu gilydd y blynyddoedd blaenorol." Digon tebyg mai felly y dygwyddodd yn Nghayo, a darfod i'r achos gael math o ail gychwyniad tua'r flwyddyn 1760.

Nid hir y bu William Llwyd gydag Annibynwyr Crugybar; trwy offerynoliaeth y Methodistiaid y cawsai ei ddwyn i adnabyddiaeth o'r Gwaredwr, a chyda hwy yr oedd am gyfaneddu. Felly, pan yr ail gychwynwyd yn Nghayo, er mai tua. deunaw oedd rhif yr aelodau yno, ymunodd a'r gymdeithas ar unwaith. Ar yr un pryd, ni fu unrhyw deimlad anngharedig rhyngddo a'r eglwys Annibynol; parhaodd mewn cyfeillgarwch â hi, ac a'i gweinidog, tra fu byw. Er yn ddyn newydd, yr oedd arno angen am fagwraeth ysprydol, ac ymddengys mai tan weinidogaeth Daniel Rowland yn benaf y caffai hyny. Cyrchai yn fisol i Langeitho tros ei holl ddyddiau, oni fyddai amgylchiadau yn ei luddias; ac fel y lliaws a ymgasglai yno, cyfranogai yn helaeth o'r danteithion ysprydol a arlwyid mor ddibrin. Pan oedd tua dwy-ar-hugain oed, penderfynodd ymroddi i waith yr efengyl, a daeth yn bur fuan yn nodedig o boblogaidd. Ei brif nodwedd fel pregethwr oedd tân, yn nghyd â llais soniarus a nerthol. Yr oedd ei hun o deimladau cyffrous, ac yn nodedig o danbaid; a thuedd ei weinidogaeth oedd cyffroi eraill. Nid oedd dim a safai o'i flaen pan gaffai y gwynt o'i du. Lledai ei hwyliau i'r awelon; a byddai ei lestr yn morio yn ogoneddus. Nid oedd yn amcanu goleuo y deall yn gymaint; at y galon yr anelai yn benaf. Nid oedd i'w gymharu â Rowland a Harris o ran dirnadaeth o ddyfnion bethau Duw; ac yr oedd yn mhell o fod i fynu â hwy mewn mater a meddwl; ond meddai yntau ddawn arbenig, hollol annhebyg i eiddo pawb arall, a bendithiwyd ef i ddychwelyd canoedd at Grist. Meddai Mr. Charles: "Yr oedd ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau Mr. Daniel Rowland, dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr. Yr oedd Mr. Llwyd yn fwy arwynebol, ond yn efengylaidd, yn wlithog, yn hyfryd, ac yn doddedig iawn; a pheth sydd fwy, ac yn coroni y cwbl, yr oedd Duw yn ei arddel ac yn mawr lwyddo ei lafur."

Priododd ferch i un Mr. John Jones, o'r Black Lion, Llansawel, ac aethant i gyfaneddu i Henllan, fferm yn ymyl Cayo oedd yn eiddo iddynt. Yr oedd Mrs. Llwyd yn ddynes o dduwioldeb amlwg, ac o yspryd tanbaid; yn ei ffordd ei hun, yr oedd lawn mor hynod a'i phriod. Teithiai Mr. Llwyd lawer: ymwelai yn fynych â phob ran o Gymru; a chan fynychaf byddai Mrs. Llwyd yn ei ganlyn fel cyfaill," a dywedir y byddai yn arfer dechreu yr odfaeon iddo. Yn ngwres ei deimlad, byddai Mr. Llwyd ei hun yn tori allan yn aml i folianu yr Iesu ar ganol ei bregeth; a chyfranogai ei wraig yn yr hwyl nefol, a byddai yn fynych yn neidio ac yn molianu ar lawr y capel. Clywsom am dano unwaith wedi myned allan i dŷ'r capel, gan adael y dorf ar ol yn gorfoleddu yn hyfryd, ac yn mysg y llu, ei briod. Yn mhen ychydig dilynwyd ef gan un o'r blaenoriaid, yr hwn a ddywedai wrtho:—"Y mae Mrs. Llwyd yn molianu yn ogoneddus yn y tŷ cwrdd." Meddai yntau yn ol: "Gadewch iddi; un gyfrwys iawn yw hi; nid yw byth yn gwthio ei llestr i'r môr, nac yn codi hwyl, ond pan fyddo yr awel o'i thu; ond am danaf fi, rhaid i mi forio yn aml yn erbyn y gwynt a'r tonau." Yn mhen amser gwedi hyn, os nad ydym yn camgymeryd, dangosodd y Gymdeithasfa ryw gymaint o anfoddlonrwydd i bregethwyr gymeryd eu gwragedd o gwmpas ar eu teithiau, oblegyd y teimlid anhawsder yn fynych i gael llety priodol iddynt.

Diau fod "Llwyd, o Gayo," yn meddu cymhwysder arbenig ar gyfer yr oes yr oedd yn byw ynddi. Daeth yn fuan yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd. Dywed Mr. Charles am dano yn mhellach: "Yr oedd yn mhob ystyr yn enillgar, ei berson yn hardd, ei ystymiau yn addas, ei lais yn beraidd, a'i areithyddiaeth yn barod, yn fywiog, yn hysain, ac yn weddus." Ac meddai Christmas Evans:—

{{nop}