Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/536

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"William Llwyd a'i ddalen wyrdd."

Rhaid ei fod yn areithiwr wrth natur; a phan y cysylltir hyn â chyffro ei yspryd, nid rhyfedd iddo enill enwogrwydd dirfawr fel pregethwr, a bod y wlad yn tyru i'w wrando. Er y pregethai weithiau yn argyhoeddiadol, prif destun ei weinidogaeth oedd Crist a'i iachawdwriaeth, golud gras, eangder yr addewidion, a pharodrwydd trugaredd ddwyfol i ymgeleddu y pechadur gwaelaf a thruenusaf.

Tangnefeddwr, carwr heddwch,
Meddyg mwyn at glwyfau'r gwan;
Ond dwrn o blwi ar ben rhagrithiwr,
I'w guro i lawr, i'w gael i'r lan."


Yn ei amser bendithiwyd Cymru a nifer o ddiwygiadau grymus. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod, yn hanes Howell Harris, at yr un a gymerodd le tua'r flwyddyn 1763, pan ddaeth hymnau Williams, Pantycelyn, allan gyntaf, ac y llanwyd y wlad a'r hyn a eilw Harris yn yspryd canu. Ymddengys iddo weled chwech o rai ychwanegol. Cymerodd un le yn 1773, yr ail yn 1780, y trydydd yn 1789, y pedwerydd yn mhen blwyddyn gwedi, sef yn 1790, y pumed yn 1894, a'r chwechfed yn 1805. Mewn cysylltiad â'r diwygiadau hyn yr oedd Mr. Llwyd yn dra gweithgar. Porthai yr ieuenctyd â didwyll laeth y Gair; fel bugail ffyddlawn gwyliai drostynt, a chadwai ddysgyblaeth fanwl arnynt. Meddai Mr. Charles: "Ei bwyll, ei arafwch, a'i ddoethineb, yn nghyd â'i ffyddlondeb yn ymdrin â chyflyrau dynion, oedd yn nodedig o werthfawr." Nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef yn ei sir ei hun; a phrawf o'r lle uchel a feddai yn syniad ei frodyr yw y ffaith mai efe a gafodd yr anrhydedd o bregethu pregeth angladdol y Prif-fardd o Bantycelyn.

Bu yn y weinidogaeth am tua phum'mlynedd-a-deugain. Yn ystod y cyfnod maith hwn pregethodd lawer yn yr ardaloedd o gwmpas ei gartref, heblaw, fel y darfu i ni sylwi, deithio holl Gymru lawer gwaith ar ei hyd a'i lled. Parhaodd yn boblogaidd hyd derfyn ei oes, ac ni fu ystaen ar ei gymeriad. Yn ei ddyddiau diweddaf, ystyrid ef, a hyny yn hollol deilwng, yn un o dadau y Cyfundeb. Sul olaf y bu byw, pregethodd yn Llanddeusant a Llansadwrn. Daeth adref yn glaf, a chwedi pum' niwrnod o gystudd gorphenodd ei yrfa, Ebrill 17, 1808, yn 67 mlwydd oed. Caniataodd yr Arglwydd iddo ei ddymuniad, sef cael marw heb fod yn hir yn sâl. Drwy ystod ei gystudd byr yr oedd ei feddwl yn hollol dawel, gan bwyso yn gyfangwbl ar haeddiant a ffyddlondeb Iesu Grist. Pan y gofynodd un o'r brodyr iddo, beth oedd yn feddwl am yr athrawiaeth y bu yn ei phregethu am gynifer o flynyddoedd. Atebai: "Yr wyf yn mentro fy mywyd arni i dragywyddoldeb."

"Yn foreu, foreu, aeth i'r winllan,
Yn lân fe weithiodd hyd brydnhawn."


Dygwyd yr hyn oedd farwol o hono, o Henllan, lle y treuliasai y rhan fwyaf o'i oes, i fynwent Cayo, ac yno rhoddwyd ef i orwedd hyd ganiad yr udgorn.

Y mae yr un sylw ag a wnaethom am Dafydd Morris yn wir hefyd am William Llwyd, sef iddo enill poblogrwydd cyffredinol yn nyddiau Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Jones, Llangan, ac y mae hyn yn brawf o dalentau llawer rhagorach na'r cyffredin, a medr arbenig i draddodi yr efengyl.

Gyda golwg ar y tri phregethwr hyn, William Davies, Castellnedd, Dafydd Morris, a William Llwyd, y mae pob lle i gasglu na chymerwyd darluniau o honynt; o leiaf, er dyfal chwilio, yr ydym ni wedi methu darganfod yr un; ond gan y meddent y fath enwogrwydd, ac felly fod pob peth cysylltiedig a hwy o'r fath ddyddordeb, yr ydym wedi gosod i mewn amryw ddarluniau o leoedd y dalient gysylltiad â hwynt.