Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/537

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ATTODIAD I'R GYFROL GYNTAF.
Y TADAU METHODISTAIDD A'U CYHUDDWYR.

FEL y dysgwyliem, darfu i'r benod gyntaf yn Y Tadau Methodistaidd, ar sefyllfa foesol Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn nghyd a'r dadleniad a wnaethom ynddi o'r modd y darfu i'r diweddar Dr. Rees, Abertawe, gam ddifynu taflen Dr. John Evans, beri cryn gyffro mewn rhai cylchoedd. Daeth cyfeillion Dr. Rees allan i'w amddiffyn; ysgrifenwyd erthyglau ar y mater yn y newyddiaduron, a phasiwyd penderfyniadau yn ein condemnio mewn cynadleddau. Teimlwn fod hyn yn galw arnom i ail gerdded y tir mewn dadl, ac ymdrechwn wneyd hyny gyda phob boneddigeiddrwydd. Ar yr un pryd, teimlwn ei fod yn gorphwys arnom i wneyd cyfiawnder a chofadwriaeth Sylfaenwyr y Cyfundeb, y rhai sydd wedi huno er ys ugeiniau o flynyddoedd bellach, ac wedi gadael eu cymeriadau dysglaer, yn ogystal â ffrwyth eu llafur, ar ol i ni, eu holynwyr, yn etifeddiaeth werthfawr.

Nid anfuddiol adgofio ein darllenwyr o'r modd y cychwynodd y ddadl. Dechreuodd trwy i Dr. Rees, yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales, gyhuddo y Tadau Methodistaidd o gamddarlunio yn wirfoddol sefyllfa foesol y Dywysogaeth, naill ai o ragfarn at yr Ymneillduwyr, neu ynte o awydd am gael iddynt eu hunain yr holl glod o efengyleiddio Cymru. Fel na byddo unrhyw amheuaeth ar y pen hwn difynwn ei eiriau: It seems that the early Methodists, either from prejudice against their Nonconforming brethren, or a desire to claim to themselves the undivided honour of having evangelized the Principality, designedly mispresented or ignored the labours of all other sects. Mr. W. Williams, of Pantycelyn, in his elegy on the death of Mr. Howell Harris, printed in 1773, asserts, without any qualifying remark, that all Wales was enveloped in thick darkness" (tudal. 279, ail argraffiad). Cyhuddiad mwy difrifol na hwn nis gellid ei ddwyn yn erbyn unrhyw ddosparth o bobl. Gesyd y Tadau Methodistaidd allan fel dynion dibarch i wirionedd, llawn o ymffrost ac o awydd am wag-ogoniant, gan fod wedi ymlenwi o genfigen a rhagfarn yn erbyn eu brodyr Ymneillduol. Gyda golwg ar hyn, meddai un Ysgrifenydd, "Temtiwyd y Doctor i ysgrifenu eu bod wedi camgyfleu pethau yn fwriadol." Temtio dyn, yn ol ystyr gyffredin yr ymadrodd, yw ei fod yn cael ei orddiwes gan brofedigaeth sydyn, yr hon yn aml a'i gorchfyga, ac a bar iddo, mewn byrbwylldra, gyflawni gweithred y bydd yn edifar ganddo am dani yn ol law. Ond, yn sicr, nid dan amgylchiadau felly y dygodd Dr. Rees ei gyhuddiad yn erbyn y Methodistiaid. Daeth yr argraffiad cyntaf o'i lyfr allan yn y flwyddyn 1861; ni ddygwyd yr ail argraffiad allan hyd y flwyddyn 1883; felly, cafodd y Doctor ddwy-flynedd-ar-hugain i feddwl uwchben yr hyn oedd wedi ysgrifenu, a phe y teimlai ei fod wedi gwneyd unrhyw gamwri, i wella ei eiriau. Dywed, yn ei ragymadrodd i'r ail argraffiad, ei fod wedi ceisio peidio ysgrifenu brawddeg i ddolurio teimlad neb; ond y mae y cyhuddiad gwaradwyddus yn erbyn y Tadiu Methodistaidd yn cael ei gadw i mewn; parheir i'w dal ger bron y byd fel pobl ymffrostgar, trachwantus am glod, ac yn ddigon diegwyddor i bardduo cymeriad eu cenedl eu hun er mwyn gwag-ogoniant; ac aeth Dr. Rees i'w fedd gan adael yr ystaen ddu hon ar gymeriad Sylfaenwyr y Cyfundeb. Pa ryfedd fod Methodistiaid y dyddiau presenol yn teimlo yn ddolurus, ac, i raddau, yn ddigllawn? Os oes unrhyw chwerwder wedi cael ei ddwyn i mewn i'r ddadl, ac os oes geiriau caledion wedi cael eu llefaru a'u hysgrifenu, ceir y rheswm am hyny yn yr ymadroddion celyd ydym wedi ddifynu.

Er mwyn edrych ar y pwnc yn gymharol gyflawn, cymerwn i fynu o un i un y gwahanol ddadleuon, pha rai y ceisir cyfiawnhau ymosodiadau Dr. Thomas Rees ar y Methodistiaid. I gychwyn, honir na ddywedodd erioed fod Cymru wedi cael agos ei chwbl grefyddoli cyn i'r Methodistiaid gyfodi, a honir fod ddadl hon yn tynu y tir yn hollol odditan ein traed. Ein geiriau ni, yn Y Tadau Methodistaidd, ydynt fod Dr. Rees yn honi fod rhanau helaeth o'r Deheudir wedi cael agos eu llwyr feddianu gan yr Ymneillduwyr cyn cyfodiad y Cyfundeb Methodistaidd (gwel tudal. 10 a 14). Dyna a ddywedasom, "yn ei hyd, a'i led, a'i drwch," ac yr ydym yn glynu wrtho. Y mae yn wir nad yw Dr. Rees yn defnyddio y cyfryw eiriau, ond dyna y casgliad anocheladwy y rhaid dod iddo oddiwrth yr hyn a ysgrifena. Gwna rif yr Ymneillduwyr yn Nghymru yn y flwyddyn 1715, yn ol taflen Dr. John Evans, yn haner can' mil (History of Nonconformity, tudal. 266); dywed yn mhellach (tudal. 279), nad oedd Ymneillduwyr Gogledd Cymru, ar y pryd, ond prin un ran o ugain o holl Ymneillduwyr y Dywysogaeth; felly, rhaid fod rhif Ymneillduwyr y Deheudir, o leiaf, yn saith-mil-a-deugain a phum' cant. Ac yn ol cyfrifiad Dr. Rees, rhif holl drigolion y Dywysogaeth yr adeg hono oedd pedwar can' mil, o ba rai yr oedd dwy ran o dair yn perthyn i'r Dê. ydym yn teimlo yn gwbl sicr fod ei ffigyrau yn anghywir; fod poblogaeth Cymru yr adeg hono yn nes i dri chan' mil nac i bedwar can' mil; a chan nad oedd y fath wahaniaeth y pryd hwnw ag sydd yn awr rhwng poblogaeth y Deheudir ag eiddo Gwynedd, mae yn amheus genym a oedd dau can' mil o drigolion yn Neheudir Cymru yr adeg hono. Ond hyd yn nod pe y cymerem gyfrif y Doctor o boblogaeth Cymru fel un cywir, ni a welwn ei fod yn gwneyd Ymneillduwyr y Dalaeth Ddeheuol yn agos i un ran o bump o'r holl boblogaeth. Nis gallai hyn fod, heb i ranau helaeth o'r