Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/539

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol pob tebyg Annibynwraig zêlog a fu ei fam hyd ddydd ei marwolaeth, er i'w mab droi yn Fethodist. Iddo ef byddai diraddio yr Ymneillduwyr yn debyg i aderyn yn aflanhau ei nyth ei hun. Ac y mae yn anmhosibl credu y byddai yr awen hono, a esgynai mor uchel i'r ysprydol, nes bron cyhaedd y goleuni pur lle y mae Duw yn cartrefu, yn ymostwng i gamddarluniad ac anwiredd.

Y drydedd dystiolaeth yw eiddo Charles o'r Bala, tad Cymdeithas y Beiblau, a thad Ysgol Sabbothol Cymru. Y mae y darluniad a rydd ef yn y Drysorfa Ysprydol o gyflwr moesol y Dywysogaeth pan yr ymddangosodd Methodistiaeth yn nodedig o ddu. Yr oedd Mr. Charles yn ŵr mor bwyllog, mor gymedrol ei eiriau, ac mor rhydd oddiwrth bob math o eithafion, fel nad yw hyd yn nod Dr. Rees yn meiddio ei gyhuddo ef o gamddarlunio. Ond dywed mai Gogledd Cymru a ddarluniai. Nage, yn gyfangwbl, yn sicr. Cawsai Mr. Charles ei ddwyn i fynu hyd nes yr aeth i Rydychain yn y Dê, a hyny o fewn ychydig filltiroedd i Gaerfyrddin, lle yr oedd athrofa gan yr Ymneillduwyr, ac yn yr hwn le mewn undeb & Bwlchnewydd, yr oedd cynulleidfa o Ymneillduwyr, yn rhifo 1,200, yn ol Dr. Rees, yn y flwyddyn 1715. Rhaid felly y gwyddai Mr. Charles yn dda am ansawdd grefyddol y De yn ogystal a'r Gogledd. Tystiolaeth arall y gallem gyfeirio ati ydyw eiddo Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, yr hwn lyfr sydd yn nodedig o ddyddorol, ac yn rhoddi lle mawr i waith y Tadau Ymneillduol oeddynt yn byw cyn i'r Methodistiaid ymddangos.

Os dadleuir mai Methodistiaid yw yr oll o'r tystion hyn, ac felly nad ydynt i'w credu, gallwn ddwyn yn mlaen gwmwl o dystion yn sicrhau yr un peth, heb fod yn Fethodistiaid. Dyna un, Griffith Jones, Llanddowror. Cawsai yntau ei ddwyn i fynu gyda'r Ymneillduwyr; i gapel Annibynol Henllan yr arferai fyned i wrandaw gyda ei rieni pan yn ieuanc, ac y mae yn anhawdd credu y gwnelai gam a'r enwad mewn modd yn y byd. Dywedai efe fod anwybodaeth y wlad yn gyfryw, fel pan y caffai gynulleidfa o driugain neu bedwar ugain yn nghyd, na fyddai ond ryw dri neu bedwar yn medru Gweddi yr Arglwydd, nac yn deall pwy oedd eu Tad yr hwn oedd yn y nefoedd. A ellir dychymygu am anwybodaeth mwy dybryd? Faint o grefydd allasai fod yn mysg gwerin felly? Tyst arall yw y Parch. John Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn y Rhaiadr. Y mae y darluniad a rydd ef o gyflwr Cymru lawn mor ddu ag eiddo Williams, Pantycelyn. Ac yn sicr, ni fwriadai leihau clod yr enwad i'r hwn y perthynai efe ei hun. Yr ydym yn Y Tadau Methodistaidd hefyd wedi difynu tystiolaethau Dr. Erasmus Saunders, ac eiddo Mr. Pratt, y rhai ydynt yn hollol i'r un perwyl. Yn awr, yr ydym yn dadleu fod y cyfangorph yma o dystiolaethau yn gyfryw nas gellir eu troi yn ol. Nis gellir dychymygu am brawf cryfach; y mae can gadarned ag unrhyw brawf yn Euclid. Y mae nifer mawr o dystion yn dwyn tystiolaeth i'r hyn ydoedd o fewn cylch eu sylwadaeth, a hyny i raddau mawr yn annibynol ar eu gilydd, ac eto y cyfryw dystiolaeth yn cydredeg mewn cysondeb; y mae hyn, meddwn, yn ffurfio y math uchaf o brawf. Ofer ceisio ei wrthbrofi â damcaniaethau. Cyn y gellir ysgubo i ffwrdd y prawf ydym wedi ei ddwyn yn mlaen, rhaid cael nifer mwy o dystion, gyda mwy o sicrwydd o'u geirwiredd, i dystiolaethu i'r gwrthwyneb. Ond nid yw Dr. Rees na neb o'i amddiffynwyr wedi dwyn yn mlaen gymaint ag un tyst felly.

Teimla Dr. Rees ei hun fod y tystiolaethau am gyflwr gresynus Cymru, adeg cyfodiad Methodistiaeth, yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, ac felly, darpara loches arall i ddianc iddi, trwy ddweyd iddynt adael rhanau helaeth o'r wlad yn hollol yn yr un cyflwr. Defnyddia un o'i amddiffynwyr ymadrodd cryfach fyth, a dywed y buasai y tystiolaethau uchod ydym wedi ddifynu yn wir agos oll yn mhen can' mlynedd wedi i Fethodistiaeth gychwyn. Y mae yn anhawdd genym dybio iddo feddwl y frawddeg hon cyn ei hysgrifenu. Os oes ystyr i eiriau, golyga ddarfod i'r diwygiad Methodistaidd basio heb adael nemawr ddim o'i ôl ar y wlad. Wedi i Howell Harris daranu, ac i Daniel Rowland gynhyrfu, ac i Williams, Pantycelyn, ganu ei emynau bendigedig, dywedir iddynt farw gan adael Cymru agos yn hollol fel yr oedd! Dianc o loches i loches yw peth fel hyn. I gychwyn, honir nad oedd y nos mor dywyll ag y myn y Methodistiaid; wedi gorfod cydnabod fod y nos yn ddu dros ben, dywedir nad oedd nemawr ddim goleuach wedi i'r Methodistiaid lafurio yn galed am haner cant o flynyddau. Tybed fod hyn yn wir? A ellid cael cynulleidfa o bedwar ugain mewn unrhyw ardal, wedi i'r Methodistiaid fod yn cynhyrfu am haner can' mlynedd, ac yn pregethu y gwirionedd i'r bobl, yn mysg pa rai na fyddai ond pedwar yn gwybod pwy oedd eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd? Tybed fod y llygredigaethau mor uchel eu pen, y drygfoes mor amlwg, y cynulliadau annuwiol mor lliosog, a'r wlad mor ddifater gyda golwg ar grefydd? Beth mewn difrif a wnaeth y Methodistiaid yn ystod yr haner can' mlynedd hyn? A pheth a wnaeth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, y rhai oeddent ill dau wedi cyfranogi yn helaeth o dân y diwygiad, yn ystod y tymhor hwn? Ai y nesaf peth i ddim? Os felly, cyfyd y gofyniad yn naturiol, Gan bwy y newidiwyd moesau y trigolion? Pwy gondemniodd y cyfarfodydd llygredig, yr halogi Sabbathau, y difrawder gyda golwg ar wrando yr efengyl, a'r holl ddrygfoes, gyda'r fath nerth ac angerddoldeb, nes eu gwneyd yn anghymeradwy yn ngolwg y werin? Canmolir Howell Harris a Daniel Rowland fel dynion anghyffredin; cyfeirir atynt fel dynion o ysprydolrwydd a brwdfrydedd eithriadol; cydunir fod pellder mawr rhyngddynt fel Diwygwyr â bron bawb o'u cydoeswyr yn Nghymru, a'u bod wedi eu tanio yn llwyrach; ac eto, dywedir y buasai y desgrifiad a roddwyd am ddrygfoes y werin Gymreig cyn i'r dynion anghyffredin hyn ddechreu llafurio yn wir agos oll wedi iddynt fol ar y maes am haner can' mlynedd! Os felly, cyfododd dynion cryfach na hwy ar eu hol, ac anrhaethol mwy llwyddianus. Y mae genym hawl i ofyn pwy oedd yr enwogion hyn? Beth oedd eu henwau? Ac yn mha le yr oeddynt yn preswylio? Nid ydym yn gwybod ddarfod i neb yn Nghymru, heblaw Daniel Rowland, dynu tair mil o gymunwyr i bentref anhygyrch bob Sul pen mis, o eithaf Môn yn y Gogledd hyd eithaf Morganwg yn y De, a hyny am haner can' mlynedd! Ac eto dywedir iddo adael wlad agos mor annuwiol ag y cafodd hi. Rhaid i ni addef nad ydym yn credu yr honiad hwn. Y mae yn rhedeg yn ngwddf pob tystiolaeth sydd genym, ac yn groes i farn gyffredinol y Bedyddwyr, yr Eglwyswyr, a'r Annibynwyr eu hunain, heblaw y Methodistiaid. Ni wnawn ei dderbyn ond ar sail y profion cadarnaf, ac nid oes rhith o brawf wedi cael ei roddi eto.

Y gwir yw, i gyfodiad Methodistiaeth ddwyn