Ceisir amheu ein gosodiad fod y gogwydd mor gryf at Ariaeth, yn y ganrif ddiweddaf, fel y mae lle i ofni y buasai Cymru oll yn Undodaidd heddyw oni buasai i'r diwygiad Methodistaidd dori allan. Mater o opiniwn ydyw hyn; ond dyna ein barn ni, wedi edrych mor ddiragfarn ag y medrwn ar ffeithiau. Yr oedd Ariaeth yn yr awyr yn y ganrif ddiweddaf; ymledai syniadau anffyddol neu Ariaidd gyda chyflymdra dirfawr, a deuent i mewn i eglwysi Ymneillduol Cymru gyda rhuthr, fel llanw y môr. Nid oedd dim gyda golwg ar athrawiaeth yn trust deeds y capelau. Yr oedd Athrofa Caerfyrddin, lle yr addysgid ymgeiswyr am y weinidogaeth, wedi cael ei tharo yn drwm gan yr haint; anfonai allan flwyddyn ar ol blwyddyn weinidogion i gymeryd gofal eglwysi a goleddent syniadau anefengylaidd, ac yn raddol aeth yr athrofa i raddau mawr yn Undodol. Beth oedd y dylanwad a drodd y llanw hwn yn ol, OS nad y diwygiad gychwynodd yn gyntaf gyda'r Methodistiaid? Rhydd amddiffynwyr Dr. Rees ddau reswm dros amheu hyn; yn
(1) Fod Dr. Rees yn tystio nad oedd ond un eglwys yn proffesu Arminiaeth cyn 1735. Ра eglwys oedd hono, ni ddywedir. Ond y mae yn sicr fod cryn nifer o eglwysi wedi ymlygru yn ddirfawr. Yn eglwys Cwmyglo, ger Merthyr Tydfil, yr oedd yr adran Arminaidd yn ddigon cref yn y flwyddyn 1732 i fynu ordeinio Richard Rees yno yn gydweinidog a'r Parch. James Davies, a bu y ddau yno am bymtheg mlynedd yn pregethu yn erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. O'r eglwys hon yr aeth Undodiaid Cefncoedcymmer allan, a chwedi hyny Undodiaid Aberdar. Yn 1750, cawn fab Parch. James Davies yn cael ei ordeinio yn gydweinidog a'i dad yn yr Ynysgau; yr oedd y tad yn Galfin da, ond y mab yn Armin rhonc, ac yno y bu y ddau am amser yn pregethu athrawiaethau croes. Bu eglwys Ynysgau yn llygredig gan yr haint Arminaidd oedd yn ymylu ar Ariaeth hyd yn nghof rhai sydd yn fyw. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at eglwys Cefnarthen fel lle yr oedd yr Arminiaid yn gryfach na'r Calfiniaid ynddo, ac ar adeg yr ymraniad llwyddasant i gadw y capel, a'r Calfiniaid a fu raid ymadael. Mewn llythyr at Howell Harris, dyddiedig Awst 7fed, 1741, dywed Edmund Jones: "There are more of our Dissenting ministers who are friends to the Methodists than you mention. And I cannot but observe that they are our best men who are favourable to you: and that they are for the most part dry and inexperienced, or Arminians, that are against you-at least who are bitter." Prawf y difyniad hwn fod nifer o weinidogion Arminaidd ar eglwysi Ymneillduol yr adeg hono, a'u bod yn chwerw yn erbyn y diwygiad.
(2) Fod amddiffyniad galluog i'r ffydd Galfinaidd wedi cael ei wneyd ar wahan i'r Methodistiaid. Efallai hyny, ond ychydig o allu a fedd dadleuaeth i wrthsefyll cyfeiliornad. Rhaid cael rhywbeth cryfach na rhesymau i droi yn eu holau syniadau anefengylaidd. Er gwaethaf "yr amddiffyniad galluog," ymlygru fwyfwy a wnaeth yr eglwysi Ymneillduol na chyfranogodd o yspryd y diwygiad, ac erbyn heddyw y maent yn gyfangwbl Undodaidd. Nid â rhesymau, ac nid trwy ddadleuaeth, y trowyd yn ol y llanw Arminaidd, ond trwy fod dynion fel Howell Harris, a Daniel Rowland, wedi eu gwisgo â'r Presenoldeb Dwyfol, ac yn ymddangos mor ofnadwy a phe y baent yn genhadau yn dyfod o dragywyddoldeb, yn cyhoeddi llygredd dyn, a'r anmhosiblrwydd i ddynion achub eu hunain, nes cario argyhoeddiad i feddyliau pawb, ac nes peri i bechaduriaid yswatio a gwladeiddio yn eu presenoldeb. Fel y dywedasom, nid ydym am honi yr holl glod am hyn i'r Methodistiaid; ymaflodd y tân nefol hefyd yn yr Ymneillduwyr oedd ar y maes yn barod, ac yr oedd angerddolrwydd y gwres mor ofnadwy fel y gorfu i Arminiaeth anefengylaidd gilio.
Yr unig beth ychwanegol y galwn sylw ato yn yr ysgrif hon yw llythyr y Parch. Edmund Jones, dyddiedig Hydref 26ain, 1742, yn mha un y rhydd gipdrem ar sefyllfa crefydd yn Nghymru. Gwna efe rif eglwysi yr Ymneillduwyr yn y Dywysogaeth yr adeg hono yn gant a saith. Ond nid yw yn ymddangos i ni fod y llythyr hwn yn y gradd lleiaf yn profi honiadau Dr. Rees. Yn
(1) Yr oedd y Methodistiaid wedi bod ar y maes am dros saith mlynedd, yn cyffroi, ac yn cynhyrfu, ac yn chwyddo eglwysi yr Ymneillduwyr â dychweledigion, yn gystal ag yn eu galluogi i blanu eglwysi newyddion, pan ysgrifenwyd y llythyr hwn. Nid teg cymeryd cynyrch llafur y Methodistiaid i ddangos mor grefyddol oedd y wlad cyn i'r Methodistiaid godi. Gellir dadleu nad yw saith mlynedd ond cyfnod cymharol fyr. Ond ar adeg o gyffro fel a fodolai ar y pryd, cyffro na welwyd ei gyffelyb yn Nghymru, pan yr oedd yr holl wlad yn cael ei hysgwyd gan nerthoedd Dwyfol, gwneid gwaith mawr mewn ychydig fisoedd, chwaethach mewn saith mlynedd. Fod llafur y Methodistiaid, a'r llwyddiant a ddilynai eu pregethu, yn cael ei ddwyn i mewn i'r cyfrif sydd eglur oddiwrth y llythyr ei hun. Am Sir Faesyfed dywed: "One of our six congregations there was gathered lately, partly by the labours of the Methodists." Eto am Brycheiniog dywed: "There are eight congregations of our Dissenters, two of whom I had the favour, upon the late reformation, to gather and set up." Y diwygiad a gynyrchwyd trwy Howell Harris oedd y "late reformation," ac am ladrata ei ddychweledigion yn y lleoedd yma, a ffurfio eglwysi Annibynol o honynt y cwynai Howell Harris arno, mewn llythyr tra christionogol a anfonodd ato. Yn ystod y saith mlynedd yma manteisiodd Ymneillduwyr yn fawr ar lafur y Methodistiaid. Yr ychwanegiadau trwy weinidogaeth Howell Harris a alluogodd Edmund Jones i adeiladu capel Annibynol Pontypwl yn y flwyddyn 1739; dychweledigion yr un Diwygiwr nerthol a alluogodd David Williams i adeiladu capel Watford. Meddai David Williams mewn llythyr at Howell Harris, Mehefin 12fed, 1738: "L The two days' service with us has been attended with marvellous success. The churches and meetings are crowded, Sabbath breaking goes down." Eto, llythyr dyddiedig Tachwedd 17eg, 1738; Things have a comfortable aspect here at present. Praying societies go up everywhere. Seventeen have been admitted to communion last time; more have been proposed." Eto, llythyr dyddiedig Chwefror 7fed, 1739: "The society in Cardiff present their love and service. We have received nine to our communion since you were here, and about so many more to propose." Tebyg y cyfeiria y llythyr diweddaf at ail neu drydydd ymweliad o eiddo Howell Harris, a bod y naw a dderbyniwyd i gymundeb yn ychwanegol at y dau-ar-bymtheg y cyfeirid atynt yn y llythyr blaenorol. Yn ngwyneb ffeithiau fel hyn, nid oes rhith o reswm dros wneyd agwedd crefydd yn Nghymru, ddiwedd y flwyddyn 1742, wedi dros saith mlynedd o lafur digyffelyb o lwyddianus gan