Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/549

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wynebwyr, a phrofi mai perthyn i Ymneillduwyr y dyddiau hyny yr oedd y culni a'r rhagfarn, a'u bod yn llawn o'r cyfryw deimlad. Dyna a allesid ddysgwyl oddiwrth ddynion ffurfiol ac oer, pan welent bobl llawn tân a zel yn ymroddi i gyflawni gwaith ag yr oeddynt hwy wedi ei esgeuluso. Dywed Howell Harris ei fod yn boblogaidd iawn yn eu mysg ar y cyntaf, pan yr oedd nerth ei bregethu yn chwyddo eu cynulleidfaoedd ac yn gorlenwi eu capelau; ond pan welsant na ymadawai a'r Eglwys, ai fod yn ffurfio ei ddychweledigion yu seiadau, aethant i deimlo yn ddiflas ato, ac i'w gashau. Fel hyn," meddai, "yr oedd y Methodistiaid yn cael eu cashau gan Eglwyswyr ac Ym- neillduwyr." Aeth cyfeillachu a'r Methodistiaid yn drosedd i'w gospi âg esgymundod yn ngolwg yr Ymneillduwyr. Mewn llythyr o eiddo William Richards, arolygydd y cymdeithasau yn rhan isaf o Sir Aberteifi, dyddiedig Medi 12fed, 1742, ceir a ganlyn: "Y mae y diafol wedi cyffroi y Dissenters yn ein herbyn fel y cyffroa y gwynt y coed. Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan dynu y casgliadau mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae ein hanwyl chwaer Betti Thomas yn cael ei blino yn fawr ganddynt; bygythiant ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y Methodistiaid i'w thy. Y mae yn dyfod i'r seiat breifat, ac nis gwyddant beth i'w wneyd o honi (y seiat). Dywedant mai drws agored i Babyddiaeth ydyw, a llawer o bethau cableddus ereill." Os yw geiriau yr hen gynghorwyr yn wir, ac nid oes genyn un rheswm dros eu hanghredu, yr oedd yr Ymneillduwyr yn erlid y rhai a gyfeillachent a'r Methodistiaid, ac yn camddarlunio y seiat brofiad, trwy awgrymu weithiau ei bod yn dwyn cyffelybrwydd i gyffesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd; ac weithiau, fel yr awgryma y gair "cableddus," trwy honi fod gweithredoedd pechadurus yn cael eu cyflawni ynddi, ac mai dymna y rheswm paham ei dygid yn mlaen yn breifat. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol Glanyrafonddu, a gynaliwyd Ebrill 17eg 1744, ceir a ganlyn: "Yn gymaint a bod Thomas David wedi cael ei droi allan gan yr Ymneillduwyr am ymgyfeillachu â ni, ei fod i gael ei uno â seiat Erwd." Yr oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Benjamin Thomas, gweinidog Ymneillduol, yn bresenol pan y pasiwyd y penderfyniad hwn, a sicr yw fod ganddynt ffeithiau diymwad i syrthio yn ol arnynt. Ceir prawf o'r un ragfarn ddall yn nglyn ag ordeiniad Morgan John Lewis yn weinidog ar eglwys y New Inn. Gan na alwyd gweinidogion Ymneillduol i gyfarfod yr ordeiniad, ond i'r neillduad gael ei wneyd gan yr eglwys mewn modd difrifol wedi gweddi ddwys, sorodd yr Ymneillduwyr; ni fynent gydnabod Morgan John Lewis yn weinidog o gwbl; ac ymddygent ato, ac at yr eglwys a'i neillduasai, fel yr ymddygai yr Iuddewon gynt at y gwahanglwyfion. Mewn canlyniad i hyn, cyhoeddodd y gweinidog grynodeb o'r egwyddorion a gredai, ac yn y rhagymadrodd achwynai yn enbyd ar y driniaeth oedd yn gael. Yr oedd yr Ymneillduwyr yn credu mewn olyniaeth Apostolaidd gnawdol mor gryf a'r Eglwyswyr. Yr unig rai a gydnabyddent Morgan John Lewis a'i eglwys oedd y Methodistiaid. Ymwelent hwy ag ef, ac a'r gynulleidfa, gan loni eu hysprydoedd. Ni raid ond darllen Hanes Crefydd yn Nghymru, gan y Parch. D. Peter, er gweled y cyffro a achosodd gwaith y Parch. S. Hughes yn beiddio myned i'r Eglwys Wladol i wrando offeiriad yn pregethu, yr hwn gyffro a derfynodd mewn ymraniad, am na addawai y gŵr parchedig beidio cyflawni peth o'r fath eilwaith. Nid melus genym yw cofnodi y pethau hyn; buasai yn well genym eu claddu mewn hebargofiant; ond pan y gwarthruddir y Tadau Methodistaidd ar gam, angenrhaid a osodwyd arnom.

Cyn terfynu, rhaid i ni wneyd sylw neu ddau o natur fwy personol. Cyhuddir ni yn fynych o ddweyd pethau gwaradwyddus am y marw. Ai tybio yr ydis y dylasai camwri Dr. Rees gael ei adael yn ddisylw am ei fod ef yn ei fedd? I hyn atebwn, (1) Na weithredai Dr. Rees ei hun ar yr egwyddor yma. Yr oedd Williams, Pantycelyn, yn ei fedd er's ugeiniau o flynyddoedd pan y gwaradwyddid ef gan Dr. Rees, ac y dygid i'w erbyn gyhuddiadau nad oedd iddynt rith o sail. Sut na chododd yr Annibynwyr eu llef yn erbyn gwaith y Doctor yn ymosod ar y marw? A ydyw coffadwriaeth Dr. Rees yn fwy cysegredig nag eiddo yr "hen Williams?" (2) Dygwyd y cyhuddiad a wnaethom yn erbyn Dr. Rees yn ystod ei fywyd, a chafodd gyfleustra teg i'w ateb pe buasai ganddo ateb i'w gael. Hyn ni chafodd Williams, Pantycelyn. (3) Y mae ymddygiadau cyhoeddus dynion cyhoeddus yn eiddo cyhoeddus, ac i'w beirniadu pan fydd y rhai a'u cyflawnodd wedi marw, yn hollol ar yr un egwyddorion a phe buasent yn fyw. Oni chaniateir hyn, bydd hanesyddiaeth deg yn anmhosibl ni chaem gyfeirio at droseddau Mari Waedlyd, nac at ffolinebau Charles yr Ail. A'r troseddwr mwyaf yn Nghymru fyddai Dr. Rees, oblegyd yr oedd yr erlidwyr y cyfeiria atynt yn ei lyfr yn eu beddau oll pan yr oedd efe yn ysgrifenu. Yn mhellach, goddefer i ni ddweyd nad oes ynom y gradd lleiaf o deimlad eiddigeddus at yr Annibynwyr. Y mae i ni gyfeillion anwyl yn eu mysg. Yr ydym yn mawr lawenhau yn eu llwyddiant, ac yn dymuno iddynt Dduw yn rhwydd. Da genym weled eu pwlpudau yn cael eu llenwi gan ddynion mor alluog, mor efengylaidd, ac mor ymroddgar. A maddeuer i ni am ddweyd, yr ymddangosant i ni yn cyfranogi yn helaethach o yspryd Daniel Rowland a Howell Harris nag o yspryd y gweinidogion Yneillduol, y dywedai Dr. John Thomas am danynt, nad aent i'r anialwch i chwilio am y colledig. Nid oes i ni gweryl â Dr. Rees ychwaith, ond fel hanesydd. Yr ydym yn parchu ac yn mawrhau llawer o'i nodweddion. Nid ydynt yn ddall o gwbl i'r amryfal rinweddau a harddent ei gymeriad. Bu yn felus genym lawer gwaith ei wrando yn efengylu. Ond yr oedd a fynem ag ef yn Y Tadau Methodistaidd fel hanesydd; ac, yn y cymeriad hwn, rhaid i ni lynu wrth y darnodiad a roddasom o hono, er mor llym ydyw. A phan y pasia y ddadl, ac y caffo ein cyfeillion hamdden i feddwl, credwn y bydd iddynt ymwrthod a'i ddull anheg o ymwneyd a documents hanesyddol pwysig.


DIWEDD CYFROL I.