i'r llyn o dân. Arfaethodd hyny am mai hyny oedd ei ewyllys ben-arglwyddiaethol. Felly, y maent yn cael eu geni i'r pwrpas hwn, sef, fel y caent eu dinystrio enaid a chorph yn uffern." Gwelir fod Wesley yn camlliwio syniadau ei wrthwynebwyr yn enbyd; daliai hwy yn gyfrifol am gasgliadau oedd ef ei hunan yn dynu, ac a pha rai y buasent yn ymwrthod yn y modd mwyaf pendant. Yr oedd ei dduwinyddiaeth yn dra unochrog, ac fel y dywed Howell Harris wrtho yn un o'i lythyrau, yn ffrwyth addysg deuluaidd yn hytrach nag yn gynyrch astudiaeth ddyfal o Air Duw.
Ond yr oedd y coelbren wedi syrthio. Dyma y Methodistiaid wedi ymranu yn ddwy blaid. Glynodd Methodistiaid Cymru fel un corph wrth yr athrawiaethau Calfinaidd; ni pharodd yr ymraniad unrhyw rwyg, ac ni achosodd fawr dadleu, yn yr eglwysi; ac yn wir nid yw yn ymddangos i Wesley wneyd unrhyw ymgais i ledaenu ei olygiadau neillduol yn y Dywysogaeth. Digon tebyg mai y parch mawr a deimlai at ei frodyr yn Nghymru, yn arbenig Howell Harris, oedd y prif reswm am hyn. Fel y gallesid disgwyl, aeth Charles Wesley gyda ei frawd, ond glynodd Cennick wrth Whitefield. Aeth John Wesley i lawr i Kingswood, ger Bryste, ddechreu y flwyddyn 1741, a throdd John Cennick, a thros haner cant o aelodau eraill, allan o'r gymdeithas. Yn nghanol y terfysg hwn y glaniodd Whitefield o'r America. Ar unwaith cyhoeddodd atebiad i bregeth Wesley ar rad ras. Yn fuan cawn ef yn dwyn allan newyddiadur o'r enw Weekly History, y newyddiadur Methodistaidd cyntaf erioed, gydag un o'r enw John Lewis, Cymro o Lanfairmuallt, yn olygydd iddo, er gwrthweithio golygiadau y ddau Wesley. Fel y gallesid disgwyl, aeth y rhwyg yn fwy. Rhwystrwyd Whitefield i bregethu yn y capelau y bu efe ei hun yn foddion i'w hadeiladu. Ond yr oedd yni ei yspryd, a dysgleirdeb ei ddoniau yn gyfryw, fel nas gellid ei atal rhag cael cynulleidfaoedd i'w wrando; yn bur fuan codwyd capelau iddo mewn amrywiol barthau o'r wlad, ac adeiladwyd y Tabernacl ar y Moorfields yn Llundain, lle y tyrai y miloedd, ac y cafodd llawer afael ar fywyd tragywyddol. Ar yr un pryd cariai John Wesley yn mlaen ei gynlluniau yntau. Sefydlodd y cymdeithasau neillduol; rhoddodd ganiatad i leygwyr gynghori, a threfnodd iddynt i ymweled yn rheolaidd a'r aelodau yn eu cartrefleoedd; ac argraffodd docynau, y rhai a arwyddid ganddo ef ei hun, yn dangos hawl yr aelodau i agoshau at fwrdd y cymundeb. Cawn Charles Wesley hefyd am y tro cyntaf yn gweinyddu y cymun bendigaid mewn adeilad heb ei gysegru. Gellir dweyd mai yn y flwyddyn 1741 y dechreuodd Wesleyaeth yn ystyr briodol y gair.
Gwnaed amryw ymdrechion i gymodi ac i ail-uno Whitefield a Wesley. Howell Harris yn benaf oedd wrth wraidd yr ymgais; yr oedd ef ar delerau cyfeillgar a'r ddau, ac yn eu caru yn ddwfn; canmola Wesley droiau angerddoldeb a serch ei galon fawr Gymreig. Ni fu yr ymgais yn llwyddiant mor bell ag i gynyrchu undeb gweledig, ac undeb gweithrediadau; yr oedd y ddau yn rhy bell eu golygiadau oddiwrth eu gilydd i allu gweled lygad yn llygad, ac yr oedd pob un o'r ddau yn rhy gydwybodol i aberthu yr hyn a ystyriai yn wirionedd er mwyn cyfeillgarwch; ond llwyddwyd i'w cymodi. Cyfarfyddasant a'u gilydd; credodd pob un fod y llall yn awyddus am achub eneidiau a helaethu teyrnas y Cyfryngwr; cytunasant i wahaniaethu, a chyfeillion a fuont hyd eu bedd. Dywedai Whitefield am Wesley ar ol hyn: "Yr wyf yn tybio ei fod yn gyfeiliornus mewn rhai pethau, ond credaf y bydd yn llewyrchu yn ddysglaer mewn gogoniant." Meddai drachefn mewn llythyr at Wesley ei hun: "Bydded i'r hen bethau basio heibio; gwneler pob peth yn newydd. Gallaf ddweyd ' Amen ' wrth y rhan ddiweddaf o hono. Byw byth fyd do y Brenin, a threnged dadleuaeth. Y mae wedi trengu gyda mi er ys amser." Natur serchog, gariadlawn, oedd eiddo Whitefield; ni allai oddef digasedd at hen gyfeillion; ac y mae yn dra sicr y teimlai John Wesley yn gyffelyb ato yntau. Nid yw yn perthyn i ni olrhain cynydd a gweithrediadau y ddwy gangen Fethodistaidd yn mhellach. A Whitefield a'i ganlynwyr yn unig, y rhai a elwid ar ol hyny yn Gyfundeb yr Iarlles Huntington, y bu cyfathrach a Methodistiaid Cymru, er i'r ddau Wesley fod yma droiau yn pregethu. Daw y pethau hyny dan ein sylw eto.