a Howell Harris, ar wahan i'w gilydd, i sefydlu cymdeithasau neillduol er adeiladu y praidd a'u cadw rhag myned ar gyfeiliorn; ac erbyn hyn y mae y cymdeithasau yma yn elfen o'r pwysicaf yn mywyd ysprydol y genedl.
Amrywia haneswyr yn eu barn gyda golwg ar pa un ai Daniel Rowland ynte Howell Harris oedd y blaenaf o ran amser ynglyn a'r Diwygiad. Dywed y Parch. John Hughes, Liverpool, [1] ei fod yn ymddangos yn lled sicr ddarfod i Harris gael y blaenafìaeth o ychydig amser; ond ni rydd Mr. Hughes un rheswm dros ei dybiaeth, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifena yn nes yn mlaen yn ei lyfr, y mae yn amlwg ei fod mewn cryn betrusder gyda golwg ar ei chywirdeb. Maentymia y Parch. Hugh J. Hughes, Cefncoedcymmer, mai Harris yn ddiamheuol bia y blaen mewn amseriad, yn gystal ag mewn cymeriad beiddgar a diofn; ond nid yw yntau ychwaith yn dwyn yn mlaen unrhyw brawf. Geiriau Howell Harris ei hun ydynt: "Am y gweinidog arall, y dyn mawr hwnw dros Dduw, Mr. Daniel Rowland, deffrowyd ef tua'r un amser a minau, mewn rhan arall o Gymru, sef yn Sir Aberteifì; ond gan mai ychydig o ohebiaeth oedd rhwng y sir hono a Brycheiniog, aeth ef yn mlaen gan gynyddu yn raddol mewn doniau heb wybod dim am danaf fì, na minau am dano yntau, nes i ni gyfarfod yn Eglwys Defynog, yn y flwyddyn 1737.[2] Tuedda Williams, Pantycelyn, yn amlwg i roddi y blaen mewn amser i Daniel Rowland, a Dylid cofio fod Williams yn gyfaill mynwesol i'r ddau, ac agos yn gyfoed a hwynt; a'i fod yn mhellach nid yn unig yn fardd ardderchog, ac yn emynydd digyffelyb, ond hefyd yn hanesydd gwych. Nid ydym yn rhoddi cymaint pwys ar ei eiriau yn y farwnad i Rowland:—
"Pan oedd tywyll nos trwy Frydain,
Heb un argoel codi gwawr,
A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd
Wedi goruwch guddio'r llawr;
Daniel chwythodd yn yr udgorn."
Y mae yn amlwg nad yw yr ymadroddion hyn i'w gwasgu i'w hystyr eithaf, a defnyddia eiriau llawn mor gryfion gyda golwg ar Howell Harris:—
"Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na 'Ffeirad,
Nac un Esgob ar ddihun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca fach i maes."
Amlwg yw nad ydyw y difyniadau uchod yn penderfynu dim ar y mater; gellir gosod y naill farwnad ar gyfer y llall. Eithr y mae un llinell yn marwnad Rowland a ymddengys yn troi y glorian yn drwm o'i blaid:-
"Rowland startodd allan gyntaf,
A'i le gadwodd ef yn lân;
Ac nis cafodd, er gwisgied,
Ungwr gynyg cam o'i flaen."
I "Ond y mae perygl i ni fod yn rhy frysiog," meddai y Parch. Lewis Edwards, D.D., oblegyd nid yw yn sicr fod yma gyfeiriad at Howell Harris.[3] Er hyny, pe buasai Harris wedi 'startio' allan yn gyntaf, nid yw yn debyg y buasai Williams yn anghofio y ffaith wrth gyfansoddi ei farwnad, ac y mae yn ddiau y buasai hyny yn ei rwystro i ddefnyddio geiriau mor gryfion am Rowland."
Ymddengys yr holl amgylchiadau fel yn ffafrio y golygiad fod Rowland wedi tori allan i rybuddio pechaduriaid lawn mor fuan a Harris, os nad o'i flaen. Argyhoeddwyd Howell Harris yn y flwyddyn 1735. Hydref y flwyddyn hono aeth i Rydychain. Ond yr oedd yn flaenorol wedi dechreu cynghori ei gydwladwyr. Dychwelodd adref o gwmpas y Nadolig, ac nid aeth yn ei ol. Ail ymafla yn ei waith yn gynar yn y flwyddyn 1736. Y flwyddyn ganlynol, sef yn 1737, yr ydym yn cael Daniel Rowland yn pregethu yn Eglwys Defynog, ddeugain milldir o'i gartref fel yr hêd brân; a chawn ef yr un flwyddyn ar daith yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw yn debyg y buasai yn myned i bregethu i siroedd eraill, heb ei fod wedi treulio cryn lawer o amser yn y cymydogaethau o gwmpas ei gartref, a chael arwyddion amlwg fod bendith ar ei ymdrechion. Meddai Joshua Thomas, ei gydoeswr, gyda golwg arno:—[4] "Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ei glywed o gylch 1737 yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando; ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref. Yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn: "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Griffith Jones. Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni yn mhlith pobl yr
Eglwys." Dylid cofio mai gwr ieuanc,