Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd gychwyn ar ei waith oedd Daniel Rowland y pryd hwn; a bod ei ddoniau pregethwrol heb ymddadblygu eto i'w gogoniant uchaf; felly y mae y ganmoliaeth a roddir iddo, fel agos yn gyfartal a Griffith Jones, yn dra nodedig.

Efallai nas gellir profi fel ag i'w osod y tu hwnt i amheuaeth mai Rowland a bia y blaen, ac nid yw hyny o gymaint pwys. Eithr yr oedd ei gyd-gyfarfyddiad ef a Howell Harris yn Defynog, yn 1737, yn amgylchiad o'r pwys mwyaf. Eu hanes hwy iU dau yw hanes Methodistiaeth Cymru am y pymtheg mlynedd nesaf. Meddai Harris, yn y llythyr a ddifynwyd yn barod, " Pan y clywais y bregeth, ac y gwelais y doniau a rodded iddo, ynghyd a'r nerth a'r awdurdod rhyfeddol gyda pha un y llefarai, a'r effeithiau ar y bobl, yr oeddwn yn wir ddiolchgar, a llosgai fy nghalon o gariad at Dduw ac ato ef. Dyma ddechreu fy nghydnabyddiaeth ag ef, ac i dragywyddoldeb ni bydd diwedd arno." Aeth Harris gyda Rowland i Langeitho, "a phan y clywais ragor am ei athrawiaeth a'i gymeriad " meddai, " mi a gynyddais yn fwy mewn cariad tuag ato." Ni fedrai Daniel Rowland fyned oddicartref ar deithiau gweinidogaethol i'r un graddau a rhai o'i gyfeillion, oblegyd yr eglwysi oeddynt dan ei ofal, ond ymddengys iddo yntau deithio y rhan fwyaf o'r Dywysogaeth, a hyny lawer gwaith, fel y tystia Williams, Pantycelyn:—

"Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd un plwyf sy'n berchen crêd,
Na bu Rowland yn eu teithio
Ar eu hyd ac ar eu lled;
Dros fynyddau, drwy afonydd,
Ac aberoedd teithio' sydd,
O Dyddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaerdydd."

Fel y darfu i ni sylwi, pregethu y ddeddf a wnelai ar y dechreu; [1] "ond nid y ddeddf fel crynodeb o drefniadau," meddai Dr. Lewis Edwards, "eithr y ddeddf fel y mae yn ddatguddiad o sancteiddrwydd Duw. Yr oedd Rowland wedi gweled Duw, ac yn teimlo ei fod wedi derbyn cenadwri oddiwrtho, ac am hyny yn llefaru fel un ag awdurdod ganddo. Deallodd y bobl yn fuan fod yno ffynhonell o fywyd anorchfygol wedi tarddu allan o Langeitho. Yn raddol, trwy ei lafur ef ac eraill, ymdaenodd y sŵn trwy Gymru; ac ar y rhai oedd yn credu y dystiolaeth yr oedd yn effeithio yn lled gyffelyb i'r hanes yn ein dyddiau ni am ddarganfyddiad cloddfa o aur yn Awstralia." Pa hyd y parhaodd ei weinidog aeth yn daranllyd ac ofnadwy, ni wyddis; ond yr oedd wedi teithio cryn lawer o'r Dywysogaeth cyn i'w thôn gyfnewid. Meddai Williams yn ei farwnad:—

"Pump o siroedd penaf Cymru,
Glywsant y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachâd,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed."

Tybir mai am ryw dair blynedd y bu fel Mab y Daran yn genad dychryn; yn y flwyddyni73g,cyhoeddodduno'ibregethau, dan yr enw " Llaeth Ysprydol," oddiar I Petr, ii. 2; ac er ei fod yn y bregeth yma yn tueddu at fod yn ddeffrous a thanbaid, eto y mae yn dra efengylaidd a chysurlawn o ran tôn, a'i gymhwysiadau yn ddyddanus, yr hyn a brawf fod ei yspryd wedi tyneru i raddau mawr. Dywedir mai yr hên Mr. Pugh, gweinidog Annibynol Llwynpiod, a f u y prif foddion i effeithio y cyfnewidiad ynddo. "Mr. Rowland bach," meddai, "pregethwch yr efengyl i'r bobl; cymhwyswch y Balm o Gilead at eu clwyfau ysprydol; a dangoswch iddynt yr angenrheidrwydd am ffydd yn yr iachawdwr croeshoeliedig." Atebai yntau, "Yr wyf yn ofni nad yw y ffydd hono, yn llawn nerth ei gweithrediad, genyf fi fy hunan." Meddai Mr. Pugh yn ol, " Pregethwch hi hyd oni theimlwch ei bod genych; os ewch yn y blaen i bregethu y ddeddf yn y modd yma, byddwch yn fuan wedi lladd haner pobl y wlad! Yr ydych yn taranu melldithion y gyfraith, ac yn pregethu mor ofnadwy fel nas gall neb sefyll o'ch blaen." Nis gellir meddwl am olygfa fwy dyddorol; gweinidog Ymneillduol, heb nac eiddigedd na rhagfarn, yn cynghori gŵr ieuanc o offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig; un oedd wedi ei ddisodli o ran poblogrwydd yn y wlad, ac wedi lladratta ei gynulleidfa i raddau mawr oddiarno. Yr oedd Rowland o'r tu arall yn ddigon gostyngedig a syml ei galon i dderbyn y cyngor caruaidd yn yr yspryd yr oedd yn cael ei roi, ac i weithredu yn ei ol. O hyn allan, daeth yn Fab Dyddanwch. Meddai Williams, Pantycelyn, eto:—

"'Nol pregethu 'r ddeddf dymhestlog,
Rai blynyddau yn y blaen,
A rhoi llawer yn friwedig,
'Nawr, cyfnewid wnaeth ei gân;
Fe gyhoeddodd iachawdwriaeth
Gyflawn, hollol, berffaith, llawn,
Trwy farwolaeth y Messiah
Ar Galfaria un prydnawn."

  1. Traethodau Llenyddol tudal 479-480