Gyda'r cyfnewidiad hwn yn nhôn ei weinidogaeth, cyfnewidiodd y dylanwadau ar y gwrandawyr. Yn flaenorol, llewygent gan ofn, dychrynid hwy gan arswyd y Barnwr nes y toddai eu heneidiau ynddynt fel cwyr; nid oedd yr effeithiau gwedi hyn yn llai rhyfeddol, nac yn llai nerthol, ond bellach torent allan mewn gorfoledd a chân. Dyma ddechreuad y molianu am ba un y daith Llangeitho yn enwog. Ymddengys fod Rowland ei hun ar y dechreu yn anfoddlawn i'r molianu a'r neidio; ofnai nad oedd yn hollol bur, y gallai roddi achlysur i'r cnawd, a pheri i'r gelyn gablu. Ò herwydd hyn ceisiai gan y bobl ymatal, a chadw ei teimladau danodd. Ond buasai lawn mor hawdd cadw y dwfr rhag berwi tra y llosgai y tân o dano gyda gwres. Wedi i'r gynulleidfa gael ei gwasgu i ymylon anobaith, a chanfod uffern yn agor ei safn i'w llyncu; pan y canfyddent yr Arglwydd Iesu yn ei ogoniant fel Gwaredwr holl-ddigonol ar eu cyfer, ac yn ewyllysio i'w hachub, torai y teimlad dros bob restraint, a mynent foli am y waredigaeth. Dywedir mai o'r braidd y daeth Rowland yn gymodlawn a'r peth hyd ddiwedd ei oes. Ond amddiffynai y rhai oeddynt yn molianu rhag gwawd y Saeson clauar. "Yr ydych chwi yn galw arnoni ni," meddai, ' Neidwyr, Neidwyr,' gallwn ninau alw arnoch chwithau, ' Cysgaduriaid, Cysgaduriaid. Efallai nad oedd y cyffro a'r llefain a'r bloeddiadau o fawl yn hollol rydd oddiwrth gnawd yn mhawb; fod y teimladau weithiau pan y rhedent dros y llestri heb fod yn gyfangwbl yn gynyrch Yspryd Duw; ac nid annhebyg fod rhai dynion annuwiol yn cael eu cario i ffwrdd, mewn ffordd nas gwyddent, gan y dylanwad, ac yn ymuno yn y gân. Ond wedi 'r cwbl, rhaid ystyried fod y goleuni wedi tywynu ar y bobl yn nodedig o sydyn, fod y rhyddhâd adeimlent yn rhyddhâd oddiwrth ddigofaint yr Anfeidrol oedd yn pwyso fel mynydd ar eu cydwybodau; ac mewn canoedd yr oedd y gorfoledd, er yn eithafol, ac yn cymeryd ffurfiau anarferol, mor bur ac ysprydol ag y geill unrhyw deimlad duwiolfrydig fod ar y ddaear hon. Profodd llawer o'r rhai a fu yn gorfoleddu yn Llangeitho, trwy eu bywydau duwiol, eu dyoddefiadau oblegyd eu crefydd, a'u hymroddiad i wasanaethu yr Arglwydd Iesu er gwaethaf pob gwrthwynebiad, eu bod wedi cael eu hail-eni i fywyd tragywyddol.
Yr oedd yr effeithiau a ddilynent ei weinidogaeth bellach yn nodedig iawn. Meddai Howell Harris, mewn llythyr a ysgrifenodd at Whitefield, Mawrth 1af, 1743: '[1] " Yr oeddwn y Sul diweddaf yn ngwasanaeth y cymundeb gyda y brawd Rowland, He y gwelais, y clywais, ac y teimlais y fath bethau na allaf roddi i chwi un syniad am danynt ar bapyr. Y mae y gallu sydd yn parhau gydag ef yn rhywbeth anghyffredin. Y fath waeddu allan, y fath ocheneidiau calonrwygol, a'r wylo dystaw, a'r galaru sanctaidd, a'r fath floeddiadau o lawenydd a gorfoledd ni chlywais erioed. Gwnai eu hamenau, a'u gogoniant, osod eich enaid yn fflam pe baech yno. Pan y pregetha, peth arferol yw fod ugeiniau yn cwympo i lawr tan ddylanwad y Gair, wedi eu gwanu a'u clwyfo; neu wedi cael eu gorchfygu gan gariad Duw a phrydferthwch a gogoniant yr Iesu. Llethir natur, fel pe bai, gan y mwynhâd o Dduw a deimlir ganddynt, fel na allant ddal ychwaneg. Braidd nad yw yr yspryd yn dryllio y tŷ o glai i gael hedfan i'w gartref. Cynwysa ei gynulleidfa, mi dybiaf, yn mhell dros ddwy fil, o ba rai y mae y rhan fwyaf wedi cael eu dwyn i ryddid gogoneddus, a rhodiant yn gadarn mewn goleuni clir." Trachefn a thrachefn, bron yn yr holl o'i lythyrau, cawn Howell Harris yn cyfeirio at y dylanwadau gogoneddus oedd yn cydfyned a gweinidogaeth Rowland yn y cyfnod hwn. Dywed drosodd a throsodd fod yr effeithiau yn annesgrifiadwy. Ddiwedd y flwyddyn 1742, ysgrifena o Langeitho, at ei frawd,[2] Heddyw clywais yr anwyl frawd Rowland, a'r fath olygfa ni welodd fy llygaid erioed. Nis gallaf anfon i chwi un syniad am dani. Yr oedd y fath oleuni a nerth yn y gynulleidfa fel nas gellir ei fynegu. Elai y bobl wrth y canoedd o'r naill eglwys blwyfol i'r llall, dair milldir o bellder (o Langeitho i Lancwnlle, yn ol pob tebyg) dan ganu a llawenychu yn Nuw; a chwedi cyfranogi o'r Swper Sanctaidd, dychwelasant gynifer o filldiroedd trachefn i'm gwrando i y nôs; a galluogwyd fi i lefaru, gyda nerth nad wyf yn arfer gael, ar y ffordd fawr, hyd wyth o'r gloch, i tua dwy fil. Y mae rhai o'r proffeswyr cnawdol, oeddynt wedi adeiladu ar y tywod, yn dyfod yn feunyddiol dan
argyhoeddiad. Y mae yr wyn (y dychweledigion) yn tyfu, a llawer yn rhodio