dau, pan yn pregethu ar lan y môr mewn rhan o Sir Aberteifi. Daeth cwmni o ddhirwyr, wedi eu harfogi a phastynau ac a drylliau, gan ymosod arnynt a'u curo yn ddidrugaredd. Trwy ofal y Pen Bugail, dihangasant heb dderbyn niwed mawr, ond cafodd y brawd Rowland un clwyf ar ei ben. Cawsent eu cyflogi i hyn gan foneddwr o'r gymydogaeth. ond nid rhyfedd fod y gelyn yn myned yn gynddeiriog wrth weled y fath ymosodiad yn cael ei wneyd ar ei deyrnas."[1] Nid anfynych y bu mewn perygl am ei fywyd. Dyrysid yr addoliad weithiau, a byddai raid iddo ef a'i wrandawyr ffoi rhag ffyrnigrwydd eu herlidwyr, dan gawodydd o laid a cherig, nes dianc allan o'u cyrhaedd i ryw gilfach ddirgel; ac yno mewn tawelwch mwynhaent y fath gysur a thangnefedd ag a dalai yn dda am y dirmyg a'r gorthrymderau. Ymosodwyd yn enbyd arno unwaith yn Aberystwyth, gan ryw greadur haner meddw, yr hwn a dyngai y byddai iddo ei saethu. Anelodd y dryll ato, a thynodd y gliced, ond ni thaniai. Wedi methu yn hyn, curodd ef yn greulawn a'r pen arall i'r dryll.[2] Darllenwn am ymgais dieflig mewn man penodol i'w ddinystrio ef a'r bobl a wrandawent arno.
Deallid ei fod i bregethu yn yr awyr agored, a pheth wnaeth rhyw greadur mileinig ond cuddio swm mawr o bylor o dan y fan yr oedd ef a'r bobl i sefyll, gan wneyd llinyn main o bylor oddiyno hyd ryw bellder, yr hwn linyn a derfynai mewn ychydig wellt. Y bwriad oedd gosod tân yn y gwellt, a chwythu y pregethwr a'i gynulleidfa i fynu i'r awyr. Ond yn rhagluniaethol, daeth rhywun yno cyn i'r odfa ddechreu, a darganfyddodd y brâd. Yn mhob man braidd, byddai mewn perygl o gael ei faeddu, ond ni phali ai. "Ymosodwyd ar y brawd Rowland ryw bythefnos yn ol gan nifer o feddwon," meddai Howell Harris, mewn llythyr at Whitefield, dyddiedig Mawrth i, 1743, "ond llanwodd Duw Ei enaid yn odiaeth." Buy Diwygwyr droiau mewn cydymgynghoriad gyda golwg ar y priodoldeb o ddwyn y rhai a'u baeddent i'r llys gwladol; ond peidio a wnaethant; yn hytrach gwnaent eu herlidwyr yn wrthrychau arbenig eu gweddïau. Pa 'fodd bynag, nid oedd Rowland yn ei weled yn anmhriodol defnyddio ychydig ystryw weithiau er dianc rhag eu erlidwyr. Un tro, pan yn myned i bregethu mewn tref yn y Gogledd, daeth i'w glistiau fod haid o oferwyr wedi penderfynu na chai fyned i mewn o gwbl i'r lle. Daethant allan yn llu i'w gyfarfod. Pan wybu wrth y swn eu bod yn agos, gosododd ei het ar ei goryn yn y dull mwyaf ffasiynol, gan yru y ceffyl ar garlam. "Dyma fo'n dod," meddai rhai, " Na, nid y fo ydyw," meddai'r lleill; "nid yw y Methodistiaid byth yn gyru fel yna." Pan ddaeth i'w cyfer, dywedodd, "Blant y diawl, beth ddaeth a chwi allan mor foreu?" Penderfynodd hyn y cwestiwn; " y mae wedi dweyd enw'r diawl," meddent, a chafodd basio yn ddirwystr.
Yn ngwyneb gwrthwynebiad mwyaf pendant yr awdurdodau eglwysig y cariai Daniel Rowland ei waith yn mlaen. Nid yn unig meddai yr esgobion Saesneg, a'r nifer amlaf o'r clerigwyr, wrthwynebiad cryf at yr hyn a ystyrient yn annhrefn yn ei ymddygiad; ond yr oedd yr athrawiaethau Calfinaidd a bregethid ganddo yn gâs ganddynt. Yr oedd Eglwys Loegr, a'i holl offeiriaid yn mron, wedi cael eu llygru gan yr heresi Arminaidd. iachawdwriaeth yn gyfangwbl o râs, a bregethai yntau, a holl gyfiawnderau dyn ond megys bratiau budron. Dyrchafai Grist fel yr unig Waredwr, a ffydd ynddo fel unig foddion cyfiawnhad gerbron Duw. Oblegyd hyn nid oedd ond erledigaeth a phob ammharch yn ei aros yn yr Eglwys. I gychwyn, rhwystrwyd ef i pregethu yn nghapel Ystrad-ffin. Mewn llythyr at Mrs. James o'r Fenni, yr hon, wedi hyny, a ddaeth yn wraig i Mr. Whitefield, dyddiedig 1742, dywed:—[3] "Ni oddefir fi i bregethu yn Ystrad-ffin yn hwy. Pregethais fy mhregeth ymadawol yno, oddiwrth Actau XX. 32. Cyrhaeddodd eu calonau. Nid wyf yn credu i'r fath wylo uchel gael ei glywed mewn unrhyw angladd yn nghôf
dynion. Clywed yr Arglwydd eu llef, ac anfoned iddynt weinidog galliog, yr hwn a gyfrana iddynt air y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu. Yn awr yr wyf i ymsefydlu yn Llanddewi-Brefi, yr hon sydd eglwys helaeth, yn abl cynwys amryw filoedd o bobl Daw amryw o'm cymunwyr yn Ystrad-ffin ac Abergwesyn yno ddiwedd y mis nesaf." Y mae y gair "ymsefydlu" wedi ei osod mewn llythyrenau Italaidd, er dangos ddarfod i Rowland gael awgrym cryf na oddefid iddo grwydro o gwmpas fel yr arferai, Er mor boblogaidd ydoedd, ac