amgylchiad hwn, y mae yn rhaid mai yr Esgob a'i trodd ef allan oedd yn euog; ac nid ydym yn gwybod nad yw yr euogrwydd hwnw yn gorwedd hyd heddyw ar yr Eglwys o'r hon y cafodd ei ddiarddel."
Dyma Daniel Rowland bellach yn ddyn rhydd. Nis gall yr Esgob bellach ymyraeth ag ef, na chlerigwyr cenfigenllyd gwahanol blwyfau Cymru ei niweidio a'u hachwynion; y mae at ei ryddid i bregethu yr efengyl dragywyddol yn y lle a'r modd a ddewisa, heb fod gan neb rith o hawl i'w alw i gyfrif. Gwnaethid paratoadau yn flaenorol i adeiladu capel helaeth iddo yr ochr arall i afon Aeron, ac ar gongl pentref Gwynfil, yr hwn yn aml a gamenwir yn bentref Llangeitho; yn awr gwnaed pob brys i fyned yn mlaen a'r adeilad. Gwedi ei orphen, gelwid ef " Yr Eglwys Newydd." Yr oedd tua 45 troedfedd o hyd, yr un faint o lêd, ac heb un oriel; yr oedd y pwlpud gyferbyn a'r drws yn mhen pellaf y capel, a mynedfa iddo o'r cefn, fel na fyddai raid i'r pregethwr ymwthio trwy y gynulleidfa. Dyma lle y bu yn gweinidogaethu mwy hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oeddid wedi troi yr ysgubor cedd ar dir Rowland, yn mha un yr arferid cadw seiadau, yn fath o gapel yn mhell cyn hyny, yn yr hwn yr arferai y cynghorwyr di-urddau bregethu. Adeilad gwael a diaddurn oedd yr hen ysgubor, ei muriau o bridd a chlai, a'i thô yn gymysg o wellt a brwyn; ac nid oedd ei mesuriad ond rhyw ddeg llath o hyd wrth chwech o led. Aeth yr ysgubor yn rhy fach, trowyd hi yn dŷ anedd, a chyfodwyd capel bychan tua'r flwyddyn 1760, ryw dair blynedd cyn diarddeliad Rowland. Muriau pridd a thô gwellt oedd i hwn eto, ac yr oedd yn dra diaddurn. " Ty Seiat " y gelwid y naill a'r llall o'r rhai hyn. Byddai Rowland yn y cyfarfodydd a gynhelid ynddynt yn fynych, naill yn y gyfeillach grefyddol, neu yn gwrando'r cynghorwyr; ond elai iddynt yn ddirgel, rhag i'w elynion gael achlysur i achwyn arno wrth yr Esgob. Dywed Edward Morgan, Ficer Syston, ei fod mewn amgylchiadau cyfyng wedi ei droi allan; nad oedd ganddo ddim at gynal ei wraig a'i blant; ac nad oedd gan y Methodistiaid yr adeg yma unrhyw gynllun tuag at gynal eu pregethwyr. Er prawf o hyn, adrodda ddarfod i Rowland, yn fuan gwedi hyny, gerdded ar ei draed yr holl ffcrdd i Landdowror, i ymgynghori a'r Hybarch Griffìth Jones, ac nad oedd ganddo i gynal natur ond teisen yn ei logell, yr hon a fwytai efe ar y ffordd, gan yfed dwfr o'r ffynon i dori ei syched. Nis geill yr ystori hon fod yn wir. Yn 1763, mor bell ag y gwyddis, y diarddelwyd Rowland; ond yr oedd Griffìth Jones wedi marw yn ngwanwyn y flwyddyn 1761, sef ddwy flynedd cyn hyny. Yr oedd Daniel Rowland wedi priodi i un o'r teuluoedd goreu yn yr amgylchoedd, ac yr oedd Mrs. Rowland yn cael ei chyfrif yn ddynes "lew iawn," fel y dywedir yn Sir Aberteifi. "Teg ydyw dweyd," meddai y Parch. John Hughes, "fod lle i feddwl fod Rowland yn derbyn llawer mwy oddiwrth ei Fethodistiaeth nag y dywedir ei fod oddiwrth ei guwradiaeth. Dywedir y cymunai rhai miloedd yn Llangeitho bob mis, cyn, ac ar ol ei droad allan; ac arferol ydoedd i'r cymunwyr gyfranu rhyw gymaint o'u heiddo ar ddiwedd y cymundeb. Yr oedd llawer o honynt yn dlodion yn ddiau; ond yr oedd cryn nifer yn eu niysg yn alluog, ac yn ewyllysgar i gyfranu yn helaeth. Pa faint a allasai y cyfanswm fod, sydd anmhosibl dweyd, ac afreidiol ymofyn. Teilwng iawn i'r gweithiwr hwn ei gyflog, pa faint bynag ydoedd. Yr oedd arian y cymun, mewn amrywiol leoedd yr oedd cyfranu ynddynt, heblaw Llangeitho, yn cyrhaedd cryn swm." Ar yr un pryd, nid oes sail i dybio iddo ar unrhyw gyfnod o'i oes fod yn gyfoethog, na bod casglu arian yn amcan ganddo o gwbl.
Daeth y capel newydd bellach yn gyrchfan y miloedd; deuent yno o bob parth o'r Dywysogaeth, a pharhaodd felly dros ystod oes Rowland, ac am flynyddau lawer wedi iddo farw. Elai yr holl wlad yno o fewn cylch o rhyw bymtheg milldir, a deuai tyrfaoedd yn rheolaidd bob Sul cymundeb o eithafoedd y Gogledd, ac o gyrau pellaf y Dê. Am rai milldiroedd o gwmpas, byddai yr holl dai yn llawn o ddyeithriaid. Yn fynych, byddai dros bum' mil o bobl yn bresenol. Gofalai yntau am fod gartref ar Sul y cymundeb; pregethai fath o bregeth paratoad y Sadwrn blaenorol am un-ar-ddeg yn y boreu, a chan amlaf byddai rhai o'r gweinidogion dyeithr, neu o'r cynghorwyr, yn pregethu am dri yn y prydnhawn. Yn gyffredin, cynorthwyid ef yn y gwaith o gyfranu gan ddau neu dri o weinidogion, ac weithiau gan saith neu wyth. Dywedir fod y cynulliad yn Llangeitho yr adeg yma yn gyffelyb i ffair fawr; yr heolydd a'r ffyrdd yn dew o bobl, ond heb ddim o derfysg a dadwrdd ffair; yn hytrach,yr oedd difrifwch tragywyddoldeb yn eistedd ar wedd y dyrfa. Ni chanfyddid