Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y mae ei weinidogaeth, yr wyf yn credu, yn un o'r bendithion mwyaf y mae eglwys Dduw yn y parth hwn yn eu mwynhau." Yr oedd Harris, pan yn ysgrifenu fel hyn, wedi gwrandaw prif bregethwyr Cymru a Lloegr; clywsai Griffith Jones, a Whitefield, a'r ddau Wesley, a'r enwogion eraill a gyfodasent yn yr oes ryfedd hono; ond yn ei farn ef nid oedd un o honynt wedi ei ddonio yn gyffelyb i Rowland.

Cyffelyb y barnai ac y dywedai Mr. Charles o'r Bala, a gwyddis pa mor bwyllog a chymedrol ei ymadroddion oedd efe. Yn y Drysorfa[1] ysgrifena fel y canlyn: "Yr oedd ucheledd a phob rhagoriaethau yn noniau Mr. D. Rowland, dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, er syndod a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr." Eto, yn yr ymddiddan rhwng Scrutator a Senex, dywed Senex:— [2] "Yr oedd gweinidogaeth y gŵr hwn, fel y gwyddoch, yn ardderchawg dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd a'i hawdurdod ar neb a glywais erioed." Eto,[3] "Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowland y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynwys dim amgyffred am danynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw yn mhlith cedyrn Dafydd; efe oedd benaf o'r tri; ac er godidoced oedd y lleill, eto, ni chyrhaeddasant y tri chyntaf. O rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda ei weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr! Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, ai y werin i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annrhaethol." Meddai Mr. Charles am dano unwaith, wrth geisio ei ddarlunio i gyfaill o Sais: "Pregethai Rowland edifeirwch, nes y byddai dynion yn edifarhau; pregethai ffydd nes y byddai dynion yn credu. Darluniai bechod mor wrthun nes psri casineb ato; a Christ mor ogoneddus nes peri dewisiad o hono." Mewn llythyr a ysgrifenodd yn y flwyddyn 1780, at yr hon a ddaeth wedi hyny yn wraig iddo, dywed: " Yr wyf yn credu fel chwithau, nid yn unig fod y Bala bach, ond hefyd Cymru, yn dra breintiedig. Y mae y cenad oedranus hwnw i Frenin y Gogoniant, Daniel Rowland, yn anrhydedd bythol iddi, ac efe a fydd felly. Anaml y gallaf grybwyll am dano mewn ymadroddion cymhedrol. Yr wyf yn ei garu yn fawr, fel fy nhad yn Nghrist; ac nid heb reswm, oblegyd iddo ef, tan fendith Duw, yr wyf yn ddyledus am gymaint o oleuni a phrofìad a feddaf o'r iachawdwriaeth ogoneddus trwy Grist." Byddai yn anhawdd defnyddio ymadroddion cryfach, a phan y cofir eu bod yn dyfod oddiwrth Mr. Charles, amlwg y rhaid eu cymeryd yn eu llawn ystyr.

Yn gyffelyb y tystiolaetha Mr. Jones, Llangan. Mewn llythyr o'i eiddo at yr Iarlles Huntington, dyddiedig, Penybont, Mai 14, 1773, efe a ddywed: [4] "Buasai yn wir dda genym eich gweled yn ein cymdeithasfa. Yr ydoedd mewn gwirionedd yn ddiwrnod tra arbenig. Cyflawnodd yr Arglwydd Iesu ei addewid werthfawr i'w weision, 'Wele, yr wyf fi gyda chwi.' Yr oedd gallu mawr oddi uchod yn cydfyned a'r gair a bregethid. Aeth llawer adref i'w cartref yn llawen; a phwy na lawenhai wrth weled Tywysog ein Hiachawdwriaeth ei hunan yn ymddangos ar faes y frwydr, ac yn sicrhau i galonau ei bobl druain, y byddai iddo ef fuddugoliaethu ynddynt a throstynt? Yr wyf yn hyderu fod rhai diofal wedi eu dwysbigo yn eu calon. Pregethodd Mr. Rowland yr ail bregeth yn y boreu, oddiar Actau ix. 4: ' Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Pregethodd Mr. William Williams o'i flaen ef. Ni a gawsom ddwy bregeth hefyd yn y prydnhawn. Y gyntaf gan Mr. William Llwyd (o Gaio), pregethwr diurddau, a'r ail gan Mr. Peter Williams. Gwnaeth rhai o'r bobl i'n tref fechan adsain Gogoniant i Fab Dafydd,' ' Hosana trwy'r nefoedd,' 'Hosana hefyd trwy'r ddaear,' Amen, Amen. Y mae digon yn eich cyrhaedd i gyfieithu y geiriau Cymraeg i chwi. Pregethodd Mr.Rowland, y dydd canlynol, mewn tref fechan, ryw ddeuddeg milltir i'r gorllewin i ni; lle y cafodd odfa felus mewn gwirionedd. Llefarodd yn rhyfeddol am Abraham yn dyrchafu ei lygaid ac yn edrych, Genesis xxii. 13. Ni chlywais y fath bregeth erioed o'r blaen. Yn sicr, efe yw y pregethwr mwyaf yn Ewrob.

  1. Llyfr 1af tudal 103
  2. Ibid tudal 136
  3. Ibid tudal 137
  4. The Life and Times of Selina, Countess of Huntingdon Cyf II tudal 118