o'r hyn a eilw y Saeson, "damning with faint praise." Meddai Dr. Rees: "Dywedai Harris a'r clerigwyr " - a diau y cynwysa y "clerigwyr " Daniel Rowland—"lawer o bethau yn eu pregethau difyfyr, a dramgwyddent chwaeth ddiwylliedig yr Ymneillduwyr, ac a roddai i'r digrefydd o bob dosparth destunau i gellwair halogedig," Sicr yw y defnyddiai Rowland, pan yr oedd ei holl natur yn berwi gan gyffro, a'r gynulleidfa wedi cael ei chodi i hwyl, ymadroddion cryfion; ac yr oedd yn hollol gyfreithlon iddo wneyd hyny; cyfiawnhäi yr amgylchiad y cyfryw eiriau; ond yr oedd gwaith rhai Ymneillduwyr—os bu y cyfryw—yn tramgwyddo wrth ymadroddion o'r fath yn brawf, nid o ddiffyg chwaeth yn Rowland, ond o gulni eu hysprydoedd a mursendod eu clustiau hwy eu hunain. Syniad unfrydol y rhai a glywsant yr Efengylydd o Langeitho, ac a feddent gymhwysder i farnu, oedd ei fod yn ardderchog mewn mater ac ardull. Meddai Christmas Evans: "Byddai wynebpryd, agweddiad, a llais Rowland yn cyfnewid yn fawr yn y pwlpud, yn ol fel y byddai ei deimladau; ond nid oedd dim yn isel ac yn annymunol ynddo; eithr oll yn weddaidd ac urddasol odiaeth."Dyna dystiolaeth Ymneillduwr, ac un o gedyrn y pwlpud Cymreig. Cymerer eto dystiolaeth Charles o'r Bala, gŵr o'r chwaeth buraf. "Yr oedd," meddai, " urddas ac ardderchawgrwydd, yn gystal a phob rhagoriaeth arall, yn noniau gweinidogaethol Rowland; meddyliau dyfnion a gogoneddus, llais nerthol a melus, ac eglurder a bywiogrwydd wrth arddangos dyfnion bethau Duw, er syndod, deffroad, a budd ei wrandawyr lliosog."[1] I bob dyn diragfarn y mae y tystiolaethau hyn yn ddigonol brofion o burdeb chwaeth ac ardderchawgrwydd mater Daniel Rowland.
Cafodd ei gyhuddo hefyd o gulni yspryd at yr Ymneillduwyr, ac o ymlyniad dâll wrth yr Eglwys Sefydledig. Profa ei holl hanes yn amgen. Ni anghofiodd drwy ei oes ei ddyled i Mr. Pugh, gweinidog Ymneillduol Lwynynpiod. Y mae yn bur sicr fod ymlyniad Howell Harris wrth yr Eglwys yn llawer cryfach nag eiddo Rowland. Ar anogaeth bendant Rowland, fel y cawn ddangos eto, y darfu i amryw eglwysi yn Morganwg a Mynwy, oeddynt yn perthyn i'r Methodistiaid, ordeinio gweinidogion iddynt eu hunain, yn ol trefn yr Ymneillduwyr. Awyddai ThomasGray, olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, am ymuno a'r Methodistiaid, yn benaf, o herwydd ei fawr serch at Rowland. "Gwell i chwi," meddai yntau wrtho, "barhau i weithio yr ochr yna i'r mynydd, âf finau yn mlaen yr ochr yma; efallai y cyfarfyddwn mewn amser, pan yn cloddio dan deyrnas Satan." Yr oedd, fel y mae yn amlwg, yn rhyddfrydig ei galon at Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, ac yn hollol amddifad o yspryd proselytio.
Ond y cyhuddiad mwyaf enllibaidd yn erbyn Daniel Rowland, oedd yr un a ymddangosodd yn y Quarterly Review, Medi, 1849, agos i driugain mlynedd gwedi ei farw. Yn yr ysgrif hono, a gyfansoddwyd gan Ficer Meifod, haerid ei fod yn euog o yfed i ormodedd, y teimlid anhawsder weithiau i gelli yr effeithiau, pan y byddai ar fedr pregethu; ac mai yn ngrym cynhyrfiad diodydd cryfion y byddai yn traddodi ei bregethau gyda'r fath nerth ac awdurdod. Seilid y cyhuddiad gwaradwyddus hwn ar dystiolaeth cuwrad meddw a digymeriad, o'r enw W. Williams, yr hwn oedd yn fab i Siôn y Sgubor, hen wâs Rowland; ac yr oedd y cuwrad yma yn gyfryw fel na dderbyniasid ei dystiolaeth fel prawf o unrhyw beth, heblaw achwyniad ar Anghydffurfiwr. Yn ffodus, gwnaed yr ymosodiad ar ei gymeriad yn ddigon cynar i'w droi yn ol yn effeithiol, ac i beri i'r gwarth syrthio ar y rhai a'i gwnaeth. Cymerodd y Parch. John Griffiths, Rheithor Aberdâr ar y pryd, Rheithor Merthyr gwedi hyny, ran flaenllaw mewn chlirio y mater i fynu. Trwy gymorth Mr. David Jones, yr hen flaenor duwiol o Dolau-bach, casglodd dystiolaeth yr hen bobl oeddynt yn cofio Rowland yn dda, yn mysg pa rai yr oedd un 84 mlwydd oed, ac wedi bod am saith mlynedd yn ei wasanaeth; datganent un ac oll nad oedd rhith o sail i'r cyhuddiad, ond ei fod yn enllibo'r fath fwyaf maleisus. Dywedai y Parch. T. Edwardes, Rheithor Llangeitho, a'r hwn a adwaenem yn dda, ei fod dros driugain mlwydd oed, na fu erioed yn byw allan o'r plwyf, fod cymunwyr amryw wedi bod ganddo a fuasai yn cymuno gyda Daniel Rowland; fod yn eu mysg un hen ŵr a fuasai farw yn bedwar ugain ac wyth mlwydd oed, a'u bod oll yn tystio, nid yn unig nad oedd y Diwygiwr yn yfed i ormodedd, ond ei fod yn un tra chymedrol. Casglodd y Rheithor Griffiths hefyd dystiolaethau gwyr eglwysig o gryn
- ↑ Trysorfa Ysprydol