Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwogrwydd, oeddynt wedi cael ei dwyn i fynu yn nghymydogaeth Llangeitho, yn datgan na chlywsent air am y cyhuddiadau yn erbyn Rowland, nes iddynt ymddangos yn y Quarterly Rcview. Yn mysg y rhai hyn, ceir Canon Jones, Tredegar; Canon Jenkins, Dowlais; a'r Parch. D. Parry, Llywel. Teimlwn ein bod tan ddyled ddifesur i'r diweddar Reithor Griffìths am y boen a gymerodd i glirio cymeriad gŵr Duw. Nid yn unig nid oedd Rowland yn euog o anghymedroldeb ei hun, ond medrai gondemnio yn ddifloesgni y cyfryw ffaeledd mewn eraill. Yr oedd offeiriad yn nghymydogaeth Llangeitho unwaith yn awyddus am gael ei anfon fel cenhadwr i le penodol, ond nid oedd Rowland yn credu yn mhurdeb ei fuchedd. Trôdd ato, a dywedodd: "Yr wyf yn cofio amser, Syr, pan nad oedd i ni ond derbyniad a bywoliaeth go wael, wrth deithio dros fryniau a mynyddoedd ar ein merlod, heb ddim ond bara a chaws yn ein pocedau, na dim i'w yfed ond dwfr o'r ffynhonau; ac os caem lymaid o laeth enwyn yn rhai o'r bythynod, cyfrifem hyny yn beth mawr. Ond yn awr, Syr, y mae ganddynt eu tê, a'u brandi, ac os nad wyf yn camsynied, yr ydych chwi wedi cael gormod o'r brandi hwn." Rhaid fod yr hwn a fedrai lefaru mor gryf a difloesgni ar bwnc o'r fath o fuchedd ddiargyhoedd ei hunan.

Ond dyddiau Rowland a nesasant i farw. Gwanychasai ei iechyd yn ddirfawr yn ystod y flwyddyn olaf o'i fywyd, eithr yr oedd yn parhau i bregethu yn Llangeitho. Dydd Gwener, Hydref 15, 1790, cymerwyd ef yn glâf, a thranoeth gorphwysodd mewn tangnefedd, ac efe yn 77 mlwydd oed. Cyrchasai miloedd y Sadwrn hwnw i Langeitho ar gyfer y cyfarfod paratoad; disgwylid Rowland yno i'w cynghori fel arfer; eithr ar ganol y gwasanaeth, cyrhaeddodd y newydd ei fod ef wedi marw, a chyffrodd hyny y fath deimhidau o alar fel y methwyd myned yn mlaen a'r cyfarfod. Claddwyd ef yn mynwent Llangeitho, wrth ffenestr ddwyreiniol yr eglwys. Ac yn ddiweddar cyfodwyd cofadail ardderchog iddo, ger capel Gwynfil, y fan a wnaed yn gysegredig ganddo i galon pawb a garant yr Arglwydd Iesu. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu rhanau o'r farwnad ardderchog a ganwyd iddo gan ei hen gyfaill, Williams, Pantycelyn:

"Nid rhaid canu dim am dano,
Nid rhaid marble ar ei fedd;
Ofer tynu dim o'i bictiwr
Ar bapyr yn sâl ei wedd;
Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd,
Rhodd e'i farble yn ei le,
'Fe 'sgrifenodd arno 'i enw
A llyth'renau pur y ne'.

Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd, gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
' De'wch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddi yma mewn mynydyn,
Ynte ewch yn ulw mân.'

Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Waeddi dystryw 'r anwir fyd,
Miloedd ffôdd o'r Dê a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd;
Arswyd, syndod, dychryn ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gwr,
Fel y gwelwyd ef o'r blaen.

Gliniau 'n crynu gan y daran,
Fel pe buasai angeu 'i hun,
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
'Beth a wnawn am safìo 'n henaid? '
Oedd yr unrhyw gydsain lêf;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.

Pump o siroedd penaf Cymru
Glywodd y taranau mawr,
A chwympasant gan y dychryn,
Megys celaneddau i lawr;
Clwyfau gaed, a chlwyfau dyfnion,
Ac fe fethwyd cael iachad,
Nes cael eli o Galfaria,
Dwyfol ddwr a dwyfol waed.

Deuwch drosodd i Langeitho,
Gwelwch yno ôl ei law,
Miloedd meithion yno 'n disgwyl,
Llu oddi yma, llu o draw;
A'r holl dorf yn 'mofyn ymborth,
Amryw 'n d'weyd, ' Pa fodd y cawn? '
Pawb yn ffrostio wrth fyn'd adref,
Iddo gael ei wneyd yn llawn.

Gwelwch Daniel yn pregethu
Yn y tarth, y mwg, a'r tân,
Mil ar unwaith yn molianu,
Haleluwia yw y gân;
Nes bai torf o rai annuwiol
Mewn rhyw syndod dwfn, a mud,
Ac yn methu rhoi eu meddwl
Ar un peth, ond diwedd byd.

Bywiol oedd ei athrawiaethau,
Melus fel yr hyfryd win,
Pawb a'u clywai a chwenychai
Brofi peth o'u nefol rin;
Pur ddyferion bythol fywyd,
Ag a roddai iawn iachâd,
I rai glwyfodd cyfraith Sinai,
Ac a ddrylliodd dan ei thraed.

Crist ei hunan ar Galfaria
Yn clirio holl hen lyfrau 'r nef,
Ac yn talu 'n llwyr bob hatling
O'r holl ddyled ganddo ef;
Mae 'r gwrandawyr oll yn llawen,
Oll yn hyfryd, oll yn llawn,
Wedi bwyta 'r bara nefol,
O lâs foreu hyd prydnhawn."