iddynt symud iddo, sef Trefecca Fach; ar yr hwn y saif Coleg y Methodistiaid, perthynol i'r Deheudir, yn bresenol. Ond nid oeddynt mewn un modd yn gyfoethog. Ni fedrai y tad roddi i'w blant well addysg na'r hyn a dderbyniai plant ffermwyr yn gyffredin. Cafodd Howell Harris ei eni yn y flwyddyn 1714, ac felly yr oedd flwydd yn ieuangach nai gyfaill a'i gyd-ddiwygiwr Daniel Rowland, a thair blwydd yn hŷn na'i fab yn yr efengyl, sef Williams, Pantycelyn. Efe oedd yr ieuangaf o dri brawd, ac y mae yn anhawdd meddwl am frodyr a mwy o wahaniaeth rhyngddynt, a phob un er hyny wedi ymddyrchafu i enwogrwydd yn yr alwedigaeth a phaun yr ymgymerodd. Trwy ymdrech a dyfal bara, ymddyrchafodd Joseph, y brawd hynaf, o fod yn ôf y pentref i sefyllfa o gyfrifoldeb mawr yn y bathdy brenhinol. Arno ef y gorphwysai y cyfrifoldeb o weled fod yr argraff ar yr arian yn ddinam, a bod pob darn yn gyflawn o bwysau. Trwy ei gyrhaeddiadau gwyddonol, daeth yn adnabyddus i rai o brif ddysgedigion ei oes. Cyfansoddodd amryw draethodau seryddol a meintonol; ond wrth un yn unig y gosododd ei enw, sef traethawd ar dremofyddiaeth (optics), yr hwn a gyhoeddwyd ryw ddeng mlynedd gwedi ei farw. Llwyddasai i gasglu cryn gyfoeth, a chawn ef yn priodi merch i Thomas Jones, Tredwstan, hen gymydog i'w dad. Bu farw yn y Tŵr yn Llundain, ryw naw mlynedd o flaen ei frawd Howell. Darfu i Thomas, yr ail frawd, ymsefydlu fel dilledydd yn Llundain, a thrwy ddylanwad rhywrai mewn safle uchel, cafodd ei benodi i gyflenwi y milwyr yn y fyddyn a dillad milwrol. Llwyddodd i gasglu cyfoeth dirfawr, a chwedi ymneillduo oddiwrth ei fasnach, prynodd etifeddiaeth Tregwnter, yn gyfagos i Drefecca. Ymddengys iddo wasanaethu fel Uchel Sirydd Brycheiniog yn y flwyddyn 1768. Bu farw yn y flwyddyn 1782. Ychydig o gydymdeimlad oedd rhwng Joseph a Thomas a Methodistiaeth eu brawd. Ceir amryw o lythyrau o eiddo Howell at eu frodyr, pan oeddynt yn Llundain, yn y rhai y rhybuddia hwy yn ddwys rhag cael ei llyncu i fynu yn ormodol gan awydd am gyfoeth a phleserau y bywyd hwn. Y mae un llythyr o leiaf yn Nhrefecca, yn llawysgrif Joseph Harris, wedi ei anfon at Howell ei frawd, yn yr hwn y cwyna arno ei fod mor ffol ag ymgladdu mewn dinodedd yn mysg y Methodistiaid, tra y gallasai, ond cymeryd cyfeiriad gwahanol, gyrhaedd enwogrwydd, anrhydedd, a chyfoeth, a'i gwnelai yn gyd-stâd ag uchelwyr penaf ei wlad. Mor ddall oedd y brodyr? Y mae enw Howell Harris yn dysgleirio heddyw, fel seren yn ffurfafen hanesiaeth; tra y buasai eu henwau hwy wedi myned ar ddifancoll, oni bai am eu cysylltiad perthynasol ag ef.
Ychydig o hanes bachgendod Howell sydd ar gael, ond ymddengys iddo gael ysgol dda, ac yr amcenid ei ddwyn i fynu ar gyfer y weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd cario allan y bwriad hwn yn dreth drom ar amgylchiadau y teulu. Cawn Joseph yn ysgrifenu, pan yr oedd ei frawd ieuangaf tua phymtheg mlwydd oed, yn dymuno cael ei esgusodi rhag estyn cynorthwy at hyn ar y tir fod ei arian yn brin, oblegyd ei fod newydd gyhoeddi Llyfr, ond yn addaw gwneyd yr hyn a fedrai pan ddechreu y llyfr dalu. Dywed Howell yn ei Hunan-gofiant: "Cefais fy nghadw mewn ysgol gan fy rhieni hyd y ddeunawfed flwyddyn o'm hoed; erbyn hyn yr oeddwn wedi dyfod yn mlaen lawer mewn dysg—yna bu farw fy nhad." Rhaid fod yma ryw gymaint o gamsynied, oblegyd yn ol y dyddiad ar ei gareg fedd yn mynwent Talgarth, bu ei dad farw Mawrth 9, 1730, pan nad oedd Howell ond ychydig dros un mlwydd-arbymtheg. Yr oedd yr amgylchiad yn ergyd enbyd iddo; nid oedd ganddo unrhyw obaith bellach am ddringo i'r offeiriadaeth, a bu raid iddo fyned i gadw ysgol er cael defnydd cynhaliaeth. Awgryma fod ystyriaethau pwysig yn cael peth lle yn ei feddwl yn flaenorol i hyn; ond bellach nid oedd ganddo unrhyw gyfaill difrifol a'r hwn y gallai ymgynghori; aeth yr ymdeimlad a'i ryddid yn gymhelliad i lygredigaeth; a chariwyd ef i ffwrdd gyda ffrwd o wagedd y byd, balchder, a chwantau ieuenctyd. Gellir darllen gwagedd ei feddwl yn y rhes ganlynol o dreuliau, a gofnodir ganddo yn nechreu y flwyddyn 1732. Dywed ddarfod iddo wario arian am ddawnsio, ac am berwig, ellyn, menyg, chwip hela, ac amryw bethau di-lês o'r fath. Ynghanol ei ymroddiad i bleser, ni chaffai lonydd er hyny; yr oedd "rhyw reddf o argyhoeddiad" yn ymweled ag ef yn fynych; a chofnodai ei ffaeleddau ar bapyr, fel y byddent yn dystiolaeth yn ei erbyn. Dechreuodd ar y cyffesiadau hyn pan oedd tua dwy flwydd-ar-bymtheg oed, ac y maent ar glawr eto yn mysg ei ysgrifeniadau yn Nhrefecca. Dangosant nid yn unig fod ei gydwybod heb hollol galedu, ond hefyd ei