Ei fod yn ysgolhaig pur wych, gan fod y llawysgrif yn rheolaidd, yr iaith yn ramadegol, gyda nifer mawr o dâlfyriadau yn yr iaith Ladin.
Wedi bod yn cadw ysgol am tua dwy flynedd, dechreuodd y cymylau glirio oddiar ei amgylchiadau; daethai i gydnabyddiaeth a dynion o ddylanwad, y rhai a addawent ei gynorthwyo i ymbarotoi am urddau; ac yr oedd Joseph, ei frawd, erbyn hyn wedi dyfod yn alluog i wneyd rhywbeth erddo. "Tra yr oeddwn fel hyn," meddai, "ac amryw ragluniaethau yn cyd-weithio o'm tu i'r dyben o gael dyrchafiad yn y bywyd hwn, am holl lygredigaethau cnawdol inau yn cael maeth oddiar hyny, i gynyddu gryfach gryfach ynof yn feunyddiol, gwelodd yr Arglwydd yn dda ogoneddu ei ras ynof." Daeth amgylchiad i'w gyfarfod, a newidiodd holl gyfeiriad ei fywyd.
Y mae hanes troedigaeth Howell Harris yn haeddu cael ei adrodd yn fanwl. Y Sul o flaen y Pasg, sef Mawrth 30, 1735, ac efe yn un-ar-hugain mlwydd oed, aeth yn ol ei arfer i eglwys Talgarth. Cyhoeddai yr offeiriad, y Parch. Price Davies, y gweinyddid y cymun bendigaid yno y Sabbath dilynol, gan ddarllen y rhybudd sydd yn y Llyfr Gweddi Cyffredin pan fyddo y bobl yn esgeulis am ddyfod i'r ordinhad. Nid ymfoddlonai ar ddarllen yr hyn oedd ysgrifenedig; aeth yn ei flaen i brofi ei fod yn ddyledswydd ar bawb i ddyfod at fwrdd y cymun, ac i ateb gwrthddadleuon cyffredin y rhai a esgeulusant y ddyledswydd. "Os nad ydych yn gymhwys," meddai, " i ddyfod at fwrdd yr Arglwydd, nid ydych gymhwys ychwaith i ddyfod i'r eglwys; nid ydych yn gymhwys i fyw, nac yn gymhwys i farw." Effeithiodd y gadwen hon o ymresymiad ar feddwl y llanc ieuanc o Drefecca Fach; penderfynodd cyn codi oddiar ei eisteddle roddi heibio ei ddifyrwch cnawdol a'i bechodau cyhoedd, ac ymddangos yn mysg y cymunwyr y Sul dilynol. Fel parotoad i hyn, galwodd ar ei ffordd adref heibio i gymydog, a'r hwn yr oedd mewn ymrafael, gan gyffesu ei fai, a dymuno maddeuant, ac estyn maddeuant iddo yntau. ond yr oedd yn enbyd o anwybodus am grefydd ysprydol; "yr oeddwn," meddai, " heb wybod dim am y wisg briodas, ac yn gwbl ddyeithr i grefydd dufewnol, a'm truenus gyflwr wrth natur." Penderfynodd, pa fodd bynag, geisio dilyn buchedd newydd; " er nas gwyddwn," meddai, "pa fodd y dechreuwn, na pha beth i'w wneyd." Y Sul canlynol y mae Harris yn yr eglwys mewn pryd, ac ar derfyn y gwasanaeth â yn ei flaen gyda'r lleill a fwriadent gymuno, gan syrthio ar ei ddeulin gerbron yr allor. Ond wrth gydadrodd a'r gweinidog y gyffes gyffredin: "Yr ym ni yn cydnabod ac yn ymofidio dros ein hamryw bechodau a'n hanwiredd, y rhai, o ddydd i ddydd, yn orthrymaf a wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy Ddwyfol Fawredd, gan anog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th lid i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifaru, ac yn ddrwg gan ein calonau dros ein cam-weithredoedd hyn. Eu coffa sydd drwm genym; eu baich sydd anoddefadwy," saethodd i'w feddwl nad oedd y geiriau yn wir yn eu perthynas ag ef; nad oedd y gradd lleiaf o alar yn ei galon oblegyd ei bechodau, nad oeddynt mewn un modd yn faich ar ei gydwybod, a'i fod yn myned at Fwrdd yr Arglwydd a chelwydd yn ei enau. "Y teimlad hwn," meddai, " ynghyd a golwg ar fawredd y wledd sanctaidd, a darawodd fy nghalon, fel y bum agos a chodi oddiar fy ngliniau, a sefyll yn ol, heb dderbyn y sacrament." Ond ceisiodd dawelu ei gydwybod, gan benderfynu dilyn buchedd newydd rhagllaw. Am ryw gymaint o amser gwedi hyny, ymdrecha fod yn ffyddlon i'w benderfyniad; ymrodda i weddi, a cheisia sefydlu ei fyfyrdodau ar Dduw. Ond yn mhen y pythefnos y mae yn cael ei fod wedi colli agos ei holl argyhoeddiadau, Eithr Ebrill 20, daeth llyfr i'w law a ail-adnewyddodd y teimlad o euogrwydd o'i fewn. Yr un diwrnod daeth o hyd i lyfr arall, a gawsai ei ysgrifenu gan Bryan Duppa ar y gorchymynion. " Wrth ddarllen hwn," cofnoda, " cafodd fy argyhoeddiadau argraff ddyfnach arnaf; pa fwyaf a ddarllenwn, mwyaf oll o oleuni ysprydol oedd yn llewyrchu o'm mewn, i weled mawr feithder a manylrwydd cyfraith Duw, yn fy ngalw i gyfrif nid yn unig am bechodau gwaradwyddus oddi allan, eithr hefyd am ein rhodiad, amcanion, a dybenion, yn yr hyn oll a feddyliom, a ddywedom, neu a weithredom. Yna y gwelais yn eglur, os wrth y gyfraith hono y'm bernid, y darfyddai am danaf yn dragywydd." Am ragor na mis bu yn ystorm enbyd arno, ei gydwybod yn rhuo fel arthes o'i fewn, ac yntau yn ceisio ei thawelu trwy ympryd, a gweddi, a chosbi ei gorff.