gais bydol, a chymhella ef i frysio i Rydychain. Meddai Howell yn ol: "Nid wyf yn bruddglwyfus, fel yr ydych yn tybio. Yr wyf yn mwynhau trysor na fedraf roddi syniad i chwi am dano. Y mae galar bron a bod yn estron i mi." Nid yw yn cael ei ddallu ychwaith gan y rhag-olygon dysglaer a ddelir o'i flaen. "Bydded i'r rhai sydd yn caru gweled, a chael eu gweled," medd, "afaelu yn hudoliaethau Madam Ffawd. Goddefer i mi gymaint a hyny o ddifrifwch fel ag i ddelio yn onest a fy enaid." Nid yw yn gweled ei lwybr gyda golwg ar y dyfodol yn glir; ond dywed nad oes arno ofn na bydd iddo enill bywioliaeth, ei fod yn gobeithio ei fod wedi cael ei fwriadu i fod o ryw lês, ac na chyfrifa unrhyw drafferth na phoen yn ormod er eì gymhwyso ar gyfer hyny. Nifwriadaidderbynurddau bellach. "Peidiwch a'm cymhell i fod yn ddyn cyhoeddus, meddai wrth ei frawd, "oblegyd os goddefir i mi farnu gyda golwg arnaf fy hun, ni feddaf unrhyw gymhwysder at hyny." Gwelir nad oedd yn adnabod ei hun, na'i gymhwysderau, ac nad oedd ganddo syniad am y gwaith y galwyd ef i'w gyflawni. Dechreu Tachwedd, 1735, aeth i Rydychain, gan ymrestru fel efrydydd yn Neuadd Sant Mair, tan addysg Mr. Hart. Gobeithiai ei gyfeillion a'i frodyr y cai ei ddiwygio yn y brifysgol oddiwrth yr hyn a alwent hwy yn benboethni. Ac os bu unrhyw le neu sefydliad yn meddu dylanwad er angrefyddoli dynion ieuainc, a pheri iddynt golli pob difrifwch ysprydol, yr oedd Rhydychain felly y pryd hwn. Dywed John Wesley[1] fod y lle yn llawn o ieuenctyd anfoesol, mwy niweidiol na phe buasent yn arwain bywyd drwg cyhoeddus, y rhai a wisgent glogyn o weddeidd-dra allanol, ond a dreulient eu holl amser mewn oferedd, ac a arhosent mewn ymyfed a chyfeddach hyd haner nos. Ni feddent rith duwioldeb, chwaethach ei grym. I ganol y rhai hyn y taflwyd Harris druan, a theimlai bron fel pe bai wedi ei daflu i uffern. Yr oedd anfoesoldeb y lle yn ei ddychrynu, a threuliai y rhan fwyaf o'i amser mewn gweddi ddirgel ac yn yr addoliad cyhoeddus. Dylid nodi fod Methodistiaid. Rhydychain y pryd hwn wedi cael eu gwasgar; yr oedd John a Charles Wesley, ynghyd a Benjamin Ingham, ar Fôr y Werydd, yn croesi i Georgia, gyda'r amcan o efengyleiddio yr Indiaid; torasai iechyd Whiteheld i lawr, ac aethai adrefi Gaerloyw; ymsefydlasai John Clayton yn Manchester, a John Gambold, y Cymro o Sir Benfro, yn ficeriaeth Stanton-Harcourt. Felly, nid oedd braidd neb o fewn y Brifysgol yn ceisio atal y llifeiriant o lygredigaeth oedd yn cario pob peth o'i flaen. Dibynai Harris am gynhaliaeth tra yn Rhydychain ar ei gyfeillion, ac yn arbenig ar ei frawd Joseph. Y mae llythyr ar gael a anfonwyd ato yr adeg hon gan Joseph Harris yn profi hyny. "Chwi a gewch yn y gist hon," meddai y llythyr, "hen bâr o ddillad i mi wedi ei gyfnewid ar eich cyfer gan fy mrawd, gyda dau bâr o glôs (breches) perthynol iddo, hefyd fy hen glôs lledr i, y rhai a fyddant yn wasanaethgar i chwi yn y wlad neu yn Rhydychain." Ymddengys fod ei ragolygon bydol yn awr yn dra dysglaer, ond iddo fyned yn ei flaen i gymeryd urddau. Addewid lle iddo fel athraw ar ysgol fawr, ac yr oedd rhyw foneddwr yn cynyg bywioliaeth eglwysig iddo, gwerth saith ugain punt y flwyddyn. Ond meddai: "Yr oedd yr Arglwydd Iesu yn awr wedi meddianu fy nghalon, fel nad oedd yr holl addewidion teg a osodent o'm blaen yn cael fawr effaith arnaf." Gwelodd nas gallai dreulio allan y tymor priodol yn Rhydychain; taflodd ymaith yr holl ragolygon am ddyrchafiad; a phenderfynodd ddychwelyd adref, gan dreiglo ei ffordd ar yr Arglwydd.
Gadawodd Howell Harris y Brifysgol ddiwedd y flwyddyn 1735, ac ni ddychwelodd yno mwyach. Mor fuan ag y daeth yn ei ol dechreuodd fyned o gwmpas i gynghori, a gwnai hyn gyda zel angerddol. Ai o dŷ i dŷ yn ei blwyf ei hun, a'r plwyfydd cyfagos, i rybuddio y trigianwyr i ffoi rhag y llid a fydd; cyfarchai y bobl a gyfarfyddai ar y ffordd fawr; pan y gwelai was ffermwr yn aredig ar y maes ymwthiai trwy y berth ato, a cherddai gydag ef o'r naill dalar i'r llall, er argraffu ar ei feddwl y pwys o ddianc rhag uffern. Buan y cynyrchodd ei ymddygiad gyffro trwy yr holl wlad. Aeth y tai anedd yn mha rai y cynghorai yn rhy fychain i'r bobl a ddeuent i'w wrando. Dywed yn ei Hunan-gofiant: "Yr oedd y fath awdurdod yn cydfyned a'r Gair, fel y byddai amryw yn y fan yn gwaeddu allan ar Dduw am faddeuant o'u pechodau, a'r cyfryw ag oedd yn byw mewn llid a chenfigen yn cyffesu eu beiau y naill i'r
llall, ac yn ymheddychu a'u gilydd, gan
- ↑ Oxford Methodists, gan Tyerman, tudal. 18.