Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haelioni—Ei nodweddion fel pregethwr—Yn cymeryd rhan yn yr ordeiniad cyntaf—Ei hoffder o'r Methodistiaid—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth— Ychydig o hanes John Evans, Cilycwm, ar gael—Melusder arbenig ei ddawn —Efe yn un o'r cyntaf i bregethu yn y Wyddgrug—John Evans a Dafydd Morris—Tywyllwch yn gorchuddio boreu oes Morgan Rhys—Dim crybwylliad am dano yn nghofnodau seiat Cilycwm—Yn byw yn Llanfynydd Yn emynydd nodedig, a'r agosaf at Williams—Ei gyfansoddiadau—Rhai o'i emynau annghyhoeddedig.

XXX.—THOMAS CHARLES, B.A., BALA ...

Rhieni Thomas Charles—Helyntion ei ieuenctyd—Mater ei enaid yn dyfod i wasgu arno yn foreu—Rhys Hugh—Thomas Charles yn myned i Athrofa Caerfyrddin Yn gwrando Daniel Rowland yn Capel Newydd, ac yn cael ei ddwyn i oleuni yr efengyl—Yn myned i Rydychain—Rhagluniaeth yn cyfryngu ar ei ran—Ei ymweliad cyntaf a'r Bala —Ei urddiad i fod yn guwrad yn Ngwlad yr Haf—Difyniadau o'i ddydd—lyfr—Ei newynu allan o Queen Camel—Y mae yn symud i guwradiaeth Milbourn Port—Ei briodas a Miss Sarah Jones—Yn ymsefydlu yn y Bala—Yn cael ei droi allan o ddwy eglwys —Ei yru o Lanymawddwy—Apelio yn ofer at Esgob St. Asaph—Ei bryder— Y mae yn ymuno a'r Methodistiaid—Na edifarhaodd byth—Yn gweled yn hyn arweiniad amlwg Rhagluniaeth.

XXXI. THOMAS CHARLES, B.A., BALA—(parhad)

Llafur Mr. Charles wedi ymuno a'r Methodistiaid—Ei ymdrech i gael capel yn Nolgellau—Thomas Pugh, Brynbella—Sul cymundeb yn y Bala—Yr eglwysi yn dewis blaenoriaid am y tro cyntaf—Mr. Charles yn cael ei erlid yn Nghorwen—Esgob Llanelwy yn bygwth cyfraith arno Y mae yn dyfod yn arweinydd yn Ngwynedd—Desgrifiad y Parch. Roger Edwards o hono fel pregethwr—Sefydlu yr ysgolion cylchynol Cymreig — Yn dilyn yn ol traed Griffith Jones—Lewis Williams, Llanfachreth—Sefydlu yr Ysgol Sabbothol— Mr. Charles yn dad y symudiad—Gwrthwynebiad yr hen bobl dda—Eu rhag— farn yn cilio yn raddol—Y Cymanfaoedd Ysgolion—Eu dylanwad ar y wlad.

XXXII. THOMAS CHARLES, B.A., BALA—(parhad)

Newyn am Feiblau yn Nghymru —Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol yn gwrthod argraffu ychwaneg o Feiblau Cymraeg—Ystori Mary Jones—Y ferch fechan yn y Bala—Mr. Charles yn penderfynu cael Cymdeithas i ddiwallu Cymru a Beiblau— Gosod y mater gerbron Cymdeithas y Traethodau Crefyddol—Sefydliad Cymdeithas y Beiblau—Mr. Charles yn dad y Gymdeithas —Ei lafur dibaid Ei afiechyd peryglus—Gweddi am arbed ei oes bymtheg mlynedd—Ei lafur llenyddol "Y Drysorfa Ysprydol"—"Y Geiriadur Ysgrythyrol"—Taith Mr. Charles i'r Iwerddon—Dadl yr ordeiniad—A edifarhaodd Mr. Charles ?—Helynt Peter Williams — Diwedd oes Mr. Charles —Ei farwolaeth.

XXXIII.—O GYMDEITHASFA GYNTAF WATFORD HYD Y NEILLDUAD

Methodistiaeth yn gwreiddio yn Ngwynedd —Adeiladu Capelau—Cymdeith asfa y Gogledd agos a dyfod i brofedigaeth—Teuluoedd cyfrifol yn ymuno a'r Cyfundeb, yn arbenig yn y De—Dylanwad yr offeiriaid Methodistaidd yn gwanychu—Erlid y Methodistiaid dan Ddeddf y Tai Cyrddau Mr. Corbett yn anrhreithio y wlad o gwmpas Towyn, Aberdyfi, a Chorris —Lewis Morris yn ffoi i Lwyngwair—Y pregethwyr yn gorfod cymeryd trwyddedau fel Ymneillduwyr—Cyfodiad Wesleyaeth yn y Dywysogaeth—Y dadleuon dilynol.

XXXIV.—Y NEILLDUAD CYNTAF A'I GANLYNIADAU

Anniddigrwydd yn dechreu yn foreu yn mysg y Methodistiaid oblegyd cymuno yn yr Eglwys—Cais am ordeinio lleygwyr yn dyfod i'r Gymdeithasfa —Gwrthwynebiad cryf Howell Harris —Ordeinio gweinidogion ar Eglwysi y Groeswen, New Inn, Mynyddislwyn, ac Aberthyn—Cyfranu mewn lleoedd annghysegredig—Yr ail do o offeiriaid yn mysg y Methodistiaid yn gulach na'r rhai cyntaf—Cymuno yn yr Eglwys yn dyfod yn ammhosiblrwydd—Rhaid neillduo gweinidogion neu i'r Cyfundeb ddarfod—Y cwestiwn yn dechreu cael ei ddadleu yn mhen isaf Sir Aberteifi—Evan Davies, Pensarn, yn dwyn y mater gerbron y Gymdeithasfa —Cyffro Mr. Jones, Llangan—Yr offeiriaid yn gwrthwynebu yn gryf—Ebenezer Morris yn gadarn o blaid —Agwedd Mr. Charles, o'r Bala—Mr. Thomas Jones, Dinbych, ar gais yr eglwys yn bedyddio baban—Argyhoeddi Mr. Charles—Marwolaeth Mr. Jones, Llangan—Cymdeith— asfaoedd y De a'r Gogledd yn penderfynu o blaid ordeinio—Y Neillduad cyntaf yn y Bala, ac yn Llandilo Fawr—Amryw o'r offeiriaid yn gadael y Methodist— iaid—Capelau yn cael eu colli mewn canlyniad—Erlid y Methodistiaid—Y "Welsh Looking—glass."