nglyn â'r Ysgol Sabbothol, ysgrifenai y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin, at feibion Mr. Richard yn y modd a ganlyn: "Yr wyf yn meddwl mai yn New Inn y gwelais eich tad gyntaf. Byddai yn dyfod atom bob mis o Aberteifi. Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom am anog, cyfarwyddo, a holi Ysgolion Sabbothol. Dangosai serchawgrwydd diffuant tuag atom, a chyd-ddygai â ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth (oblegyd nid oedd yr Ysgol Sul yr amser hwnw ond braidd ddechreu yn y wlad) gyda llawer o diriondeb, fel plant yr Ysgol Sabbothol, a ninau a'i carem ef agos fel ni ein hunain. Yr wyf yn cofio yn berffaith mai prif bynciau ei weinidogaeth, a'r hyn a lanwai ei feddwl sanctaidd wrth holi yr ysgolion, oedd Person, Aberth, ac Iawn Crist. Dyrchafai ei lais peraidd a nerthol ar y pethau mawrion hyn, nes y byddem ni ag yntau yn wlyb gan ddagrau. Llawer gwaith y dywedodd, flynyddau lawer ar ol hyny, pan fyddem mewn cyfeillach, a'r ymddiddan yn troi ar yr amser uchod: Dyma fe, mi a'i holais ef lawer gwaith nes oedd yn chwysu.' A gwir ddywedai, mi a chwysais lawer gwaith wrth geisio ei ateb."
Yn ei ymdrechion gyda'r Ysgol Sabbothol caffai bob cymhorth gan y Parch. Ebenezer Morris. Cydweithiai y ddau yn ardderchog, gan gyffroi yr ardaloedd, planu ysgolion, trefnu cymanfaoedd i adrodd y pwnc ac i holi y plant, ac athrawiaethu ar y pwysigrwydd o hyfforddi yr ieuainc yn Ngair Duw. Fel engrhaifft o'r dyddordeb a deimlent yn yr Ysgol Sul, gosodwn i mewn yma lythyr o eiddo y Parch. Ebenezer Morris, pan ar daith yn Sir Frycheiniog, at Mr. Richard:
"Aberhonddu, Mai 30, 1808. Anwyl Frawd, Mae rhagluniaeth yn agoryd i mi ddyfod adref nos Sadwrn Sulgwyn, ac yn gyfleus i ni ddydd Llun i ddyfod i'r cyfarfod y mae rhyw siarad am dano i fod yn Blaenanerch, Llun y Sulgwyn, a phlant yr ysgolion i gyfarfod. Dymunaf arnoch hysbysu y manau a feddylioch yn addas. cyn y Sabbath. Mae yn sicr y byddai da i ddeg neu ragor o ysgolion gydgyfarfod. Os gellwch hysbysu Twrgwyn, a Phenmorfa, cyn y deuaf adref, fe fydd yn dda genyf. Nid rhaid enwi wrthych y manau eraill. Y mae Owen a minau yn golygu i'r cyfarfod ddechreu am naw neu ddeg y boreu, ni setlwn y canlyniad pan gyfarfyddom. Eich gwir gyfaill, EB. MORRIS.
O.Y.-Byddai yn llesiol i ddau bregethu ar ol yr holiad; mae yn debygol mai chwi a minau fyddant. Os cewch dueddu eich meddwl i draethu am y lles o gateceisio, minau soniaf am y gwerth o dduwioldeb boreuol. Cystal fyddai ei gyhoeddi yn Gymanfa y Plant."
Diau mai Owen Enos oedd yr "Owen " y cyfeiria Mr. Morris ato, efe a fyddai yn fynych yn gydymaith iddo ar ei deithiau. Y mae yn hawdd deall oddiwrth y llythyr nad oedd trefniant yr Ysgol Sul wedi cael ei berffeithio eto yn y Dê; nad oedd y cyfarfodydd dau-fisol, a'r cymanfaoedd blynyddol, wedi cael eu sefydlu, ond eu bod yn awr o gwmpas cael eu dwyn i fod. Y mae yr un mor amlwg mai y ddau allu mawr, a yrent y peiriant yn ei flaen, oedd Mr. Morris a Mr. Richard. Y ddau force ysprydol mwyaf aruthrol a fu yr un pryd yn Sir Aberteifi, ac, yn wir, yn y Dê, oedd y ddau hyn, a chyflawnai y naill ddiffyg y llall. Ebenezer Morris oedd y mwyaf llewaidd, y mwyaf penderfynol, a'r mwyaf beiddgar yn y cyhoedd; o'i flaen ef nid oedd gelyn a safai; ond Ebenezer Richard oedd y trefniedydd goreu, y doethaf ei gynlluniau, a'r mwyaf hirben i ganfod i'r dyfodol. Rhyngddynt ill dau gosodwyd yr Ysgol Sabbothol yn y rhan hon o'r wlad ar sylfeini cedyrn ac ansigladwy.
Yn y flwyddyn 1807 yr ymwelodd Mr. Richard gyntaf a'r Gogledd. Cymaint oedd parch Cadben Bowen iddo fel yr aeth gydag ef yr holl ffordd, gan ei gludo yn ei gerbyd ei hun. Ychydig o hanes y daith sydd genym, ond gwnaeth Mr. Richard yn enwog trwy holl Wynedd, ac o hyn allan ystyrid ef fel un o brif gewri y Deheudir. Dywedir iddi fyned yn lle rhyfedd yn ngwesty Pont-ar-fynach, pan yr oedd y ddau yn cadw addoliad teuluaidd. Y fath oedd y dylanwad ar ŵr y tŷ nes y gorfu iddo redeg allan o'r ystafell a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, gan floeddio dros lle: "O! Beth a wnaf, beth a wnaf!" Buont mewn dwy Gymdeithasfa, sef Cymdeithasfa Llanidloes, a Chymdeithasfa y Bala. Cafodd Mr. Richard odfa hynod yn y Bala. Am ddeg y llefarai, a'i destun, 2 Cor. x. 4: "Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol." Pan yn son am werth yr arfau, ac yn anog y dorf i'w defnyddio, ffrydiau y dagrau o'i lygaid; ond nid ei dagu na'i rwystro a wnelai y dagrau, ond rywsut gweithredent fel olew ar ei beirianau llafar, gan rwyddhau ei ymadrodd, tyneru ei lais, a melysu ei