ddawn. Ac os oedd y pregethwr yn wylo, unai yr holl gynulleidfa yn galonog, fel na chafodd Green y Bala ei gwlychu yn ddwysach gan ddagrau saint Duw erioed. Gorchfygodd y dyrfa yn llwyr, yn gystal a'r pregethwyr a'r offeiriaid ar y stage, a choffheid am y bregeth yn yr holl odfaeon dilynol. Hyd ddydd ei farwolaeth bu Mr. Richard yn un o etholedigion Cymdeithasfa y Bala, ac anaml y byddai yn absenol o honi.
Y dydd cyntaf o Dachwedd, 1809, priododd Mr. Richard â Miss Mary Williams, Tregaron. Yr oedd Mrs. Richard yn wyres o du ei mam i David Evan Jenkins, o Gyswch, un o gynghorwyr boreuaf y Methodistiaid, a gŵr nodedig am ei dduwioldeb a'i zêl o blaid yr athrawiaeth. Yr oedd hithau yn dwyn arni yn amlwg ddelw ei theulu, gan fod wedi ymroddi i wasanaethu crefydd. Oblegyd fod rhieni ei briod yn hen ac yn fethedig, fel nad oedd yn bosibl iddi eu gadael, daeth Mr. Richard i'r penderfyniad i symud i fyw i Dregaron. Cynyrchodd y penderfyniad yma o'i eiddo deimlad dwfn yn rhan isaf y sir; ni fynent ar un cyfrif ollwng eu gafael arno; buont yn dadleu ac yn ymhwedd âg ef yn bersonol, a chwedi methu ei ddarbwyllo, aed â'r achos i'r Cyfarfod Misol. Aeth Cadben Bowen, ac un o flaenoriaid eglwys Aberteifi, i fynu yr holl ffordd i Gyfarfod Misol Aberystwyth; buont yn dadleu y mater yn frwd, ond trodd y fantol yn y cyfarfod o blaid Tregaron. Yr oedd Colonel Lloyd, o'r Bronwydd, hefyd yn y Cyfarfod Misol, ac yn dadleu yn gryf, ond mewn Cymraeg doredig, dros rwystro Mr. Richard i adael Aberteifi. Rywsut, yn ei anfedrusrwydd, gwnaeth ddefnydd o'r geiriau: "Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glyn wrth ei wraig." Cymerodd Mr. Williams, Lledrod, y geiriau oddiarno, gan eu defnyddio yn ddadl yn ei erbyn; a gwelodd yr hen foneddwr ei fod wedi defnyddio adnod nad oedd yn perthyn iddo. Wedi methu yn y Cyfarfod Misol, ceisiodd Cadben Bowen gan Mr. Charles, o'r Bala, ysgrifenu at Mr. Richard; ond yr oedd Mr. Charles yn meddu gormod o ddoethineb i ymyraeth, yn enwedig gan na wyddai yr holl amgylchiadau; eithr ysgrifenodd lythyr hynod o synwyrol a chrefyddol, yr hwn sydd eto ar gael, at Cadben Bowen, gan awgrymu iddo y gallai fod gan Ragluniaeth amcanion pwysig i'w cyflawni yn y symudiad. Mor ddiollwng a phenderfynol oedd cyfeillion Aberteifi, fel y gwnaeth Cadben Bowen a'r blaenor crybwylledig un cynyg arall; aethant i fynu i Dregaron i geisio dylanwadu ar Mrs. Richard; ond wedi cyrhaedd yno, a gweled sefyllfa pethau, yn neillduol methiant ei rhieni, daethant yn foddlawn i'r trefniant, ac ymadawsant yn hollol dangnefeddus.
Yn Nhregaron y treuliodd y Parch. Ebenezer Richard weddill ei oes. Ac yn ddiau rhodd Duw i ran uchaf Sir Aberteifi ydoedd. Cymerodd ei le ar unwaith fel arweinydd, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond yn yr holl eglwysi o gwmpas; edrychai pawb i fynu ato fel tywysog Duw, ac yr oedd ei air yn gyfraith, i'r hon y telid ufudd-dod diamodol. Yn mysg y pregethwyr a drigianent y rhan yma o'r wlad yr oedd fel brenhin mewn llu, heb neb yn cenfigenu wrtho, nac yn amheu ei awdurdod. Enillodd y safle hon trwy odidowgrwydd ei ddawn, synwyr a doethineb uwchraddol, medr anarferol i drin amgylchiadau dyryslyd, ac yn arbenig llwyr ymroddiad i wasanaeth yr Arglwydd Iesu. Ymdaflodd i'r gwaith yn ei holl ranau ar unwaith. Mewn canlyniad, daeth bywyd newydd i'r seiadau ac i'r cynulleidfaoedd; adfywiodd yr Ysgolion Sabbothol trwy y broydd, a phlanwyd Ysgolion newyddion yn y conglau lle nad oeddent. Yn y man, daeth y canghenau ysgolion yn achosion crefyddol; magai yntau hwynt pan oeddent yn weiniaid fel mamaeth dyner, a chaent bob cefnogaeth ganddo pan y dymunent gael capel. Trwy hyn cymerodd feddiant o'r wlad i Grist ac i Fethodistiaeth; yn wir, nid ydym yn tybio fod un rhan o Gymru mor drwyadl Fethodistaidd a phen uchaf Sir Aberteifi. Y flwyddyn y symudodd i Dregaron penodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir, yr hon swydd a lanwodd hyd ddydd ei farwolaeth.
Nid hir y bu yn ei gartref newydd cyn ymosod ar anfoesoldeb y wlad. Un ffurf ffrwythlawn ar lygredigaeth oedd y priodasau gwawdd. I'r priodasau hyn byddai yr holl gymydogaeth yn ymgasglu; gwerthid ynddynt ddiod gadarn er budd y pâr ieuainc oeddynt yn dechreu eu byd; a'r rhai a yfent fwyaf byd sicr a ystyrid y cyfeillion goreu iddynt. Nid yn unig yr oedd yr arferiad yn groes i'r gyfraith, yr oedd hefyd yn arwain i anfoesoldeb gwarthus. Byddai y bobl ar yr achlysuron hyn yn ymroddi, heb fesur na rheol, i gyfeddach, maswedd, a meddwdod; ac nid anfynych dygwyddai ynddynt ymladd-