๐ ๐ป๐๐๐๐. ๐ท๐๐๐๐ ๐ฐ๐๐๐๐๐๐, ๐ฏ.๐ฏ.
๐ฏYNION mawr pob os yw y rhai sydd yn creu cyfnod newydd. A'r mwyaf yn ei oes ydoedd Dr. LEWIS EDWARDS, Y Bala. Edrycher o'r cyfeiriad a fyner ar Gymru o hanes sefydliad Athrofa y Bala hyd ei farwolaeth ef, ceir fod dylanwad Dr. Edwards wedi bod y symbylydd mwyaf i dyfiant bywyd Cymru, yn wladol a chrefyddol. Arddelir ei ddylanwad gan arweinwyr presenol Cymru. Ni chadwai drwst o gwbl gydag un symudiad a gefnogai neu a gychwynai,-dylanwad dystaw ond cryf a threiddiol ydoedd oll, a hyn a'i gwnaeth yn arweinydd dyogel ac o ymddiried gan y wlad. Yr oedd teithi naturiol ei feddwl, ei allu digymhar i ragweled, a grym ei gymeriad pur a'i dduwiolfrydedd, yn ei gymhwyso yn arbenig i fod yn gychwynydd symudiadau cyhoeddus yn mysg ei gydgenedl.
Ganwyd Dr. Lewis Edwards mewn ffermdy o'r enw Pwllcenawon, oddeutu pedair milldir o Aberystwyth, ar y 27ain o Hydref, 1809. Efe oedd cyntafanedig ei rieni. Gartref ac yn y capel, breintiwyd ef a'r plant eraill ag addysg grefyddol drwyadl. Yr oedd y tad yn flaenor yn nghapel Penllwyn, a nodweddid ef gan dynerwch duwiol ac arafwch doethineb. Mewn ysgol yn Mhenllwyn a Llanfihangelgenau'r-glyn y cafodd y llanc ychydig o addysg foreuol. Tybiodd y tad fod hyny yn ddigonol iddo, ond drwy eiriolaeth hen deiliwr ddigwyddai fod yn gweithio yno ar y pryd, a gredai fod gallu eithriadol yn y bachgen, perswadiwyd y tad i'w anfon i'r ysgol at yr enwog John Evans, Aberystwyth. Yn Llangeitho y bu ar ol hyn, yn ysgol y Parch. John Jones. Yma y dechreuodd bregethu; felly cych-