wynodd ei yrfa gyhoeddus yn llygad y gwres Methodistaidd, ac arhcsodd argraff y tân hwnw arno byth. Ond ymdrech fawr fu arno yn y cychwyn. Blinid ef gan ryw fath o afrwyddineb ymadrodd, oherwydd yr hyn hefyd y ceisiodd amryw o'r dynion a barchai efe fwyaf ganddo roi heibio y bwriad o fod yn bregethwr. Ond yn ngrym yr ewyllys gref a'r penderfyniad anhyblyg a nodweddai ei gymeriad, medrodd orchfygu y gwendid hwn ynddo ei hun fel llefarwr cyhoeddus. Yn ddiweddarach, credai mai mewn atebiad i'w weddi y cafodd y waredigaeth hon. Yn Sir Gaerfyrddin, yn athraw yn nheulu boneddwr o'r enw Mr. Lloyd y ceir ei hanes nesaf. Yma y clywodd am y Brifysgol newydd yn Llundain, a phenderfynodd fyn'd iddi. Ond rhaid oedd gofyn caniatad y Gymdeithasfa i hyn. Anturiodd i Gymdeithasfa Woodstock yn 1831, a gosododd ei gais yn ostyngodig gerbron, er na ddysgwyliai geiniog o gynorthwy. Anhawdd ydyw credu mai gwawdiaeth. oedd yn ei aros, ond dyna'r gwir. A methodd y llanc atal ei ddagrau yn ngwyneb y driniaeth. Fodd bynag, tosturiodd rhai o'r blaenoriaid drosto, a chymhellent fod iddo gael y caniatad a ofynai i fyn'd i chwilio am addysg. Wedi treulio un tymor yn y Brifysgol yn Llundain, prinhaodd yr arian, a dychwelodd i Gymru. Yn 1832 cymerodd ofal bugeiliol eglwys fechan Lacharn, yn Sir Gaerfyrddin, lle y cafodd ymarferiad rhagorol mewn pregethu Saesneg; bu yno am tua 18 mis. Ond gan fod ei lygaid wedi eu hagor ar fyd mawr gwybodaeth, penderfynodd fyned i Brifysgol Edinburgh, a chafodd gwmni Mr. John Phillips, sylfaenydd y Coleg Normalaidd yn Mangor. Drwy ganiatad arbenig, cafodd sefyll ei arholiad am y gradd o M.A. ar derfyn ei drydedd flwyddyn yn lle aros yno am bedair blynedd. Pasiodd yn anrhydeddus, a dychwelodd i Gymru fel yr Ymneillduwr cyntaf o Gymro i enill gradd mewn Prifysgol. Wedi ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Castell Newydd Emlyn, yn 1837, cawn ef yn agor Ysgol y Prophwydi yn y Bala. Ymbriododd â Miss Jane Charles, wyres i'r enwog Charles o'r Bala. Yr hyn a roddodd fôd i'r ysgol yn y Bala oedd hoff syniad Mr. Edwards, oedd yn graddol addfedu, i sicrhau addysg drwyadl i weinidogion ieuainc Cyfundeb y Methodistiaid. Yn mhen ysbaid, mabwysiadwyd yr ysgol gan y Cyfundeb fel Athrofa, a phenodwyd yntau yn Brifathraw. Ac i gadw hon i fyny, hysbys i bawb am ffyddlondeb a medr y diweddar Barch. Edward Morgan o'r Dyffryn yn casglu at y drysorfa, drwy yr hyn y ffurfiwyd cronfa
Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/16
Prawfddarllenwyd y dudalen hon