Nis gall un dyn diragfarn ameu na ddarfu i Dr. Edwards, trwy ei wasanaeth ardderchog i'w Gyfundeb a'i genedl, agor cyfnod newydd yn hanes Addysg, Llenyddiaeth a Duwinyddiaeth Cymru. Os bu dim erioed yn ddechreuad pennod newydd yn hanes gweinidogaeth yr efengyl yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, agoriad Athrofa y Bala oedd hyny. Drychfeddwl Dr. Edwards oedd y Traethodydd, ac efe yn benaf a'i sylweddolodd. Efe oedd ei enaid a'i rym, er fod ganddo gynorthwywyr medrus a galluog. Daeth y cyhoeddiad hwn a byd newydd o wirioneddau i olwg darllenwyr ieuaingc Cymru. Cawsant drwyddo gychwyn marsiandïaeth â rhandiroedd pell, a dechreu cydnabyddiaeth â thrysorau gwychaf llenyddiaeth yr oesoedd. Nid gormod yw dweyd fod Dr. Edwards wedi rhoddi ffurf a chyfeiriad newydd i efrydiau duwinyddol yn Nghymru. Treiddiodd i haenau dyfnach o feddwl. Newidiodd i fesur mawr destynau yr hen ddadleuaeth dduwinyddol, trwy ddangos yn mha le yr oedd y gwir anhawsderau Symudodd y tir o danynt. Gwnaeth fyr waith o lawer o'r hen ddadleuon, nes yr oeddynt yn ymddangos yn bethau anhymig, allan o amser ac allan o berthynas â'r materion y cedwid cymaint o drwst yn eu cylch. A gwnaeth hyn nid trwy ymosod arnynt, ond trwy ddangos ffordd fwy rhagorol. Ciliodd llawer o'r hen ddulliau o feddwl a dadleu ar bynciau duwinyddol yn ddistaw o'r golwg, fel y mae y tywyllwch yn graddol ddiflanu o flaen cynydd tawel a sicr goleuni y dydd.
Creodd Dr. Edwards y chwyldroad dystaw ond effeithiol hwn yn meddwl duwinyddol Cymru yn benaf trwy ddau waith o'i eiddo :yr erthyglau godidog ar " Gysondeb y Ffydd" neu "Wirioneddau Gwrthgyferbyniol," ac hefyd ei lyfr ar "Athrawiaeth yr Iawn," yr hwn o ran gwreiddiolder a nerth, dyfnder ac eglurder, sydd yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr iaith Gymraeg. Llewyrchodd egwyddor yr erthyglau Cysondeb y Ffydd," ar y wlad fel darganfyddiad. Nid oedd neb o'r dadleuwyr pybyr ar yr athrawiaethau wedi meddwl am ddim o'r blaen, wrth gwrs, ond fod yr holl wirionedd ar eu hochr hwy, a dim ond cyfeiliornad ar yr ochr arall. Ond dyma brophwyd wedi cyfodi a chanddo weledigaeth newydd. Dengys hwn fod gwirionedd Duw yn rhy fawr i gael ei wasgu i fewn i gyfundraethau bychain dynion. Y mae rhan o'r gwirionedd gan bob ochr. Ac os ydynt yn ymddangos yn anghyson à'u gilydd, gallwn fod yn sicr nad