ydynt felly mewn gwirionedd, ond eu bod yn cyfarfod mewn undod uwch. A'r peth sydd yn sicrhau hyn ydyw—nas gall yr un gwirionedd sefyll wrtho ei hun, ond mewn undeb â'r gwirionedd gwrthgyferbyniol, y rhai ydynt fel y meini yn mwa y bont tra gyferbyn â'u gilydd eto yn cynal eu gilydd, ac yn cydsefyll yn y maen clo. Profodd ac eglurodd Dr. Edwards yr egwyddor dra phwysig hon gyda golud o ddysg a dyfnder a chlirder meddwl na welwyd dim o'i gyffelyb yn ein gwlad; dangosodd ei bod yn treiddio trwy holl weithredoedd y Creawdwr ac yn dal yn holl diriogaethau gwirionedd. Dyma ddechreuad cyfnod newydd yn hanes duwinyddiaeth yn Nghymru tebyg i'r cyfnod newydd a grewyd yn hanes athroniaeth yn Lloegr trwy Novum Organum Arglwydd Bacon. Dyma Ddull newydd i efrydu duwinyddiaeth.
Tra yr edrychir yn gyffredin ar holl weithiau Duwinyddol a Llenyddol Dr. Edwards fel y trysorau gwerthfawrocaf yn yr iaith, credwn mai y tri hyn yw y rhai penaf: y Traethodau ar Gysondeb y Ffydd, Athrawiaeth yr Iawn, a Hanes Duwinyddiaeth. Nid ydym yn meddwl fod y gwaith claf wedi cael degwm y sylw a deilynga. Nis gellir ei ddarllen heb deimlo ei fod yn waith meistr trwyadl: nid un wedi casglu yn ddyfal ac yn gallu egluro yn dda wahanol olygiadau ; ond gwaith dyn mawr mewn dysg a meddwl, un yn meddu cydnabyddiaeth lwyr â llenyddiaeth dduwinyddol yr oesoedd, ac ar yr un pryd yn feddyliwr annibynol, gwreiddiol a dwfn, ac yn gallu barnu pob golygiad neu gyfundrefn yn ngoleuni hanes meddwl mewn duwinyddiaeth ac athroniaeth. Rywfodd neu gilydd, gadawyd allan y gwaith gorchestol hwn o'r argraffiad o Weithiau Dr. Edwards; ond cyhoeddwyd ef wedi hyny ar wahan yn llyfr prydferth a golygus.
Bwriadwyd y sylwadau hyn i fod yn benaf ar Dr. Edwards fel Pregethwr. Ond wrth ymwneyd â'r fath ddyn, ac â gwaith mor eithriadol o fawr a'r gwaith a gyflawnodd efe i'w Gyfundeb a'i genedl, teimlem y buasai yn anmhriodol, os nad yn wir yn anmhosibl, i edrych arno fel pregethwr yn gwbl annibynol ar y dyn a'i waith yn ei gyfanrwydd.
Ac y mae y sylw yna yn ein harwain yn naturiol i grybwyll fod Dr. Edwards yn engraifft nodedig o'r berthynas fywiol sydd i fod rhwng y bregeth a'r pregethwr. Teimlir rai gweithiau wrth