Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrando ambell un fod y bregeth yn llawer mwy a gwell na'r pregethwr. Gall achosion gwahanol beri hyn, y rhai nad awn i'w holrhain yn bresenol. Ond ni theimlid hyn byth gydag ef. Pa mor odidog bynag a fyddai y bregeth, ni synem o gwbl ei bod yn dyfod oddiwrtho ef. Ffynon o ddwfr yn tarddu oedd yno. Y dyn da, o drysor da ei galon, oedd yn dwyn allan bethau da. A siarad yn ddynol, a chyda hen derm athronyddol, teimlid fod yna "achos digonol " i gynyrchu yr effaith. Ac hyd yn nod pe na buasai dim neillduol iawn yn y bregeth, teimlid fod mawredd y dyn y tu cefn iddi-mawredd meddyliol a mawredd ysbrydol. Cyfranai hyn fawredd a newydd-deb i'r bregeth. I ddefnyddio cymhariaeth y diweddar Barch. Joseph Thomas ar yr un mater, gwelid fod y creawdwr yn gynhaliwr. Attegid y bregeth a blaenllymid y sylwadau gan ragoroldeb yr hwn a'i traddodai. Dygai Dr. Edwards allan o'i drysor "bethau newydd a hen;" ond yr oedd ganddo hefyd y ddawn ryfedd yr hon y dywedai Mr. Roberts, Amlwch, oedd yn hynodi Ebenezer Morris-y ddawn "i ardderchogi pethau cyffredin." Ac eto, nid ei lais ef oedd yn gwneyd hyn, na'i ddawn (yn ystyr gyffredin y gair), na'i ddull o draddodi, ond rhywbeth mwy na'r cwbl-grym ei bersonoliaeth ef ei hunan.

Y mae yn rhydd i ni gyfaddef mai Dr. Edwards a wnaeth yr argraff ddyfnaf arnom ni o neb erioed o gymeriad gwirioneddol. Credwn ei fod yn un o'r dynion mwyaf real a welwyd. Yr oedd ei fawredd yn wir fawredd, a'i ddysgeidiaeth yn wir ddysgeidiaeth. Casai â chas cyflawn bob ffug a rhodres ac ymddangosiad. Bod ac nid ymddangos oedd y peth mawr yn ei olwg, a'r hyn a gymhellai yn wastad ar ei efrydwyr. Yr oedd y nodwedd hwn o reality fel seilwaith o dan ei holl gymeriad yn foesol a meddyliol. Ac yr oedd hyn yn rhwym o nodweddu ei bregethu. Ni cheid yn y bregeth ddim un sylw ysgafn, dibwys, llipa. Yr oedd gafael a sylwedd a phwysau yn mhob un. Ni cheid ganddo eiriau ystrydebol- gweddillion marwol wedi bod unwaith yn drigleoedd bywyd. Na teimlid grym a min yn y cwbl gan nerth y bywyd a gurai trwy ei ymadroddion. Megys y mae cyfodiad yr haul yn goleuo yr awyrgylch, felly y creai ei bregeth ef awyrgylch newydd o oleuni gwirionedd. Yr oedd efe mewn modd nodedig 'o'r gwirionedd," yn ddeiliad ffyddlon yn nheyrnas gwirionedd, yn wir addolwr yn nheml gwir-