ionedd. Gwirionedd yn ddeallol ac yn foesol—gwirionedd yn yr ystyr o truth, ac hefyd yn yr ystyr o reality. Nerth ei gariad at wirionedd a barai ei fod mor ochelgar rhag myned i eithafion gyda dim. Dyma a barai ei fod mor deg mewn dadl, ac mor gynil yn ei ymadroddion. Ni fynai gelu na gwanhau dim oedd i'w ddweyd o blaid y golygiad gwrthwynebol. Yr oedd ei lygad yn syml. A'r un cariad at wirionedd a barai iddo gashau mor lwyr bob ffug a rhagrith, pob ymgais i ymddangos heb fod. Teimlid y rhagoriaeth uchaf hwn yn treiddio trwy y bregeth, nes rhoddi iddi allu mawr ar gydwybod y gwrandawr. Yr oedd fel blaenbrawf o ddydd y farn.
Yn nglyn â hyn, ac fel rhan o hono, rhaid nodi difrifwch fel nodwedd arbenig yn nghymeriad y dyn mawr hwn. Yr oedd ei fywyd ef i raddau nodedig yn "fywyd o ddifrif." Gwelodd bethau mawr ; gosododd amcanion mawr o flaen ei lygad; a chyrchodd atynt drwy bob rhwystrau heb lwfrhau. Yr oedd ynddo gyfuniad nodedig o fawredd meddwl a mawredd ysbryd—nerth meddwl a difrifwch ysbryd. Ni welodd Cymru fywyd yn fwy o ddifrif.
Nis gellid gwrando Dr. Edwards heb weled fod cydnawsedd nodedig rhwng ei feddwl â gwirioneddau mawr yr Efengyl. Yr oedd wedi cyraedd "golud sicrwydd deall yn ei dirgelion mwyaf gogoneddus. Ac er hyn, neu yn hytrach am hyn, pwy yn fwy gwylaidd ac addolgar uwchben y dirgelion? Gwirid ynddo ef yn rhyfeddol eiriau yr Apostol :— I bob golud sicrwydd deall i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw a'r Tad a Christ." Yr oedd ei gydnabyddiaeth mewn cyfartaledd i'w adnabyddiaeth.
Tueddir ni i gredu pe buasai modd cymeryd barn y cynulleidfaoedd gawsant wrando Dr. Edwards am haner cant neu driugain mlynedd ar y cwestiwn—beth oedd y nodwedd amlycaf yn ei bregethu ?—y buasent bron yn unfrydol yn nodi allan un rhagoriaeth, a hwnw hefyd y rhagoriaeth (meddyliol) uchaf yn ei weinidogaeth. A dyna fuasai hwnw y cyfuniad rhyfeddol oedd yn ei bregethu o fawredd a symledd. Yr oedd efe yn ddigon mawr i fod yn syml. Ni ddefnyddiai efe eiriau mawr am bethau bychain; ond fel y gwna y Beibl defnyddiai eiriau bychain am bethau mawr. Yr oedd efe yn un o'r meddylwyr dyfnaf, ac ar yr un pryd yn un o'r rhai mwyaf clir. Ac yr oedd y rhagoriaeth uchel hwn yn ei weinidogaeth yn uno yr