eithafion yn mhlith ei wrandawyr i'w edmygu—y rhai deallus a'r rhai bychain.
Buasai dechreuad gweinidogaeth Dr. Edwards yn rhoddi gwedd newydd ar bregethu yn Nghymru pe na buasai am ddim ond y ffaith mai efe a ddygodd ddysgeidiaeth uchel i wasanaethu yr Efengyl. A gwnaeth hyny yn yr iawn ffordd. Ni bu pregethu neb erioed yn mhellach o wneyd arddangosiad o ddysg. Ni bu erioed bregethu mwy syml a dirodres. Ffrwyth dysg oedd yn y bregeth—canlyniadau diwylliad meddyliol uchel, ac nid y grisiau ar hyd pa rai y cyrhaeddwyd hwynt. Darlun perffaith a welid, a'r blychau lliwiau a'r offerynau o'r golwg results ac nid processes. Ond pwy all draethu gwerth y driniaeth a gafodd y fath feddwl a'r eiddo ef gan addysg uchel, i'w gyfoethogi, ei nerthu, ei loewi a'i finio at waith ei oes? Dyrchafodd hyn ei weinidogaeth i level uwch na'r eiddo neb bron o'i frodyr pan oedd efe yn cychwyn; rhoddodd newydd—deb ac arbenigrwydd arni. Dygodd Athroniaeth, Beirniadaeth Ysgrythyrol, yr ieithoedd gwreiddiol, Hanes yr Eglwys a Hanes yr Athrawiaeth—a hyny mewn dull mor ddiymhongar fel mai prin yr oedd neb yn ameu eu bod yno, ond yn eu ffrwyth
"I'w hongian yn offrwm ar drostan y groes."
Cyfuniad nodedig o ran ei natur a'i raddau yn Dr. Edwards oedd y ddwy elfen—y resymegol a'r gyfriniol. Nid oedd neb yn adnabod yn well derfynau Rheswm a Ffydd. Ymresymai gyda llymder a manylrwydd diail, gan uno treiddgarwch a thegwch, yr hyn y gellid, ac mor bell ag y gellid, ei ymresymu. Ond pan y byddai y Gwirionedd yn pasio allan o afaelion Rheswm ac yn dechreu ymgolli yn nyfnder mawr yr Anfeidrol, plygai gyda gras prydferth ac addolgar. Anfynych y gwelwyd y fath allu ymresymiadol a'r fath gydnawsedd â'r cyfriniol wedi cyd—gyfarfod. Ac yr oedd hon yn dystiolaeth nodedig i gwmpas ac ansawdd y meddwl a allai ragori cymaint yn y fath eithafion.
Meddai Dr. Edwards mewn graddau nodedig y rhagoriaeth gwerthfawr a phrin hwnw—meddwl o fantoliad da. Yr oedd ynddo gydbwysedd rhagorol. Ni cheid ynddo byth wendid ar un ochr yn difuddio y nerth ar yr ochr arall. Oblegyd hyn yr oedd ei farn yn addfed ac yn gywir, yn un y gellid ymddibynu arni bob amser.