Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnai hyn ef yn arweinydd anmhrisiadwy yn yr Athrofa, yn yr Eglwys, ac yn y Cyfundeb.

Credwn nad oes ond un farn am arddull Dr. Edwards, pa un bynag ai mewn llafar ai mewn ysgrifen. Y mae yn gynllun o berffeithrwydd. Adlewyrchiad ydoedd o ragoriaethau uchel ac amryfal ei feddwl. Corff cyfaddas a gymhwysodd ei ysbryd iddo ei hun. Y mae yn syml, yn glir, yn nerthol, ac yn ffitio y meddwl a fynegir trwyddi yn berffaith. Y mae nid fel y gwydr lliwiedig yn tynu sylw ati ei hunan, ond yn bur fel y gwydr gloyw yn datguddio yn unig y gwrthddrychau sydd i'w gweled trwyddi. "Cenad o ladmerydd " oedd Dr. Edwards,—" un o fil." Un mawr mewn oes ydoedd, wedi ei gynysgaeddu á chymhwysderau anghyffredin i gyflawni gwaith anghyffredin, i roddi symudiad mawr yn mlaen i deyrnas Dduw yn y byd. Bydd ei gymeriad a'i waith yn llenwi lle mawr yn hanes y Weinidogaeth, ac yn hanes Llenyddiaeth a Chrefydd Cymru am yr haner canrif diweddaf.