Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FEL PREGETHWR

GAN Y DIWEDDAR BARCH. HUGH JONES (HUW MYFYR).

Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich mysg, ond Jesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio."

𝕸ELUS gofion sydd am dano
Gyda'i sancteiddiolaf waith,
Nid ar faes Cymanfa 'n unig,
Nac mewn capel eang chwaith;
Digon mawr oedd DOCTOR EDWARDS
I ymweled yn ei dro
Ag addoldy bychan llwydaidd
Yn y gul fynyddig fro.

Athrawiaethwr efengylaidd
Uwchlaw pobpeth oedd efe,
Ac i'r Iesu croeshoeliedig
Rhoddai'r arbenicaf le;
Galwai 'n daer ar bawb i gredu
Heb ymaros i wellhau;-
Credu cyn cael calon newydd,
Credu cyn edifarhau.

Ferson Crist a'r Ymgnawdoliad,
Iawn a lwyr foddlonai 'r nef,
Swyddau Crist, a gwaith yr Ysbryd,
Oedd ei hoffus bynciau ef:
Minau geisiaf ei ddarlunio
Yn rhyfeddu dwyfol loes;
Nid oedd dim at ddeffro 'i ysbryd
Haner ffordd i waed y Groes.