Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/6

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

[Dymunir galw sylw y Darllenydd fod y Pregethau a
gynwysir yn y Gyfrol—oll oddigerth tair—wedi eu
hysgrifenu wrth eu gwrandaw, mewn Llaw Fer,
(Phonographia). Gwnaed hyny gan Mr. Jno. R.
Evans, Pontricket Board School, Tregeiriog; a nodir
y lle a'r adeg y gwrandawyd hwynt.

Hyderwn y bydd y desgrifiad o nodweddion y gwahanol
Weinidogion, a geir yn y Gyfrol, yn gynorthwy
i'r ieuenctyd hyny na chawsant y fraint o fwynhau
eu gweinidogaeth, i'w hadnabod a'u parchu. I'r
Darllenwyr a gawsant y fraint hono, diau y bydd i
eiriau y Pregethwyr, fel yr ysgrifenwyd hwy ar y
pryd, felysu a pharhau eu coffadwriaeth am danynt.]