Tudalen:Yn y Wlad.pdf/100

Gwirwyd y dudalen hon

uchaf ei geiniog. Ond cadw, a dal i ladrata, a wnaethant hwy. Gwyn fyd na fuasai'r ffriddoedd yn eiddo i'r Llywodraeth yn awr, i blannu coed.

Ond dyma ni'n myned heibio i'r Ysgol Ramadegol, ac i'r dre. Ar y chwith, yn Heol y Domen, gwelir Tomen y Bala dan ei choed byth-wyrddion; bu gynt yn wylfa ac yn gastell. Ar y dde, arwain ffordd i fyny at y colegau. Ar y rhiw acw gwelais Michael D. Jones, yn ei het befar lwydwen, a'i frethyn o liw cain y cen cerrig, ag ysgub fedw fawr yn ei law, yn ysgubo'r ffordd er mwyn dangos i'r byd mor bell oedd y Bwrdd Lleol o gyflawni ei holl ddyletswydd. Mae Bodiwan, hen gartref y Gymraeg a'r delyn, felly y clywais, i fynd o feddiant y teulu. Ac aeth fy meddwl i ar grwydr pell, at y fan y llofruddiwyd Llwyd ap Iwan yn yr Andes. Awn yn syth yn ein blaenau ar hyd y Stryd Fawr. Ar fore fel hyn rhydd ei choed olwg urddasol arni. A heol brydferth ydyw. Ond pe gwelech hi ambell fin nos eirlawog, a'i goleuadau nwy budr-felynion yn dal i ymladd yn wan a'r tywyllwch, caech olwg arall arni. Harddwch newydd iddi yw cofgolofn Thomas Ellis, y gofgolofn gyntaf yng Nghymru gerfiwyd i ddangos egni bywyd. Y tro diweddaf yr es ar daith fel hyn, yr oedd Tom Ellis yn fachgen bochgoch yn rhedeg a'i lyfrau i'r ysgol draw.

Cerddais yn hamddenol. Ychydig o newid fu ar adeiladau. Clywais fod tŷ Charles o'r Bala, a hen gartref Simon Llwyd, ar werth. Drwg oedd colli efail, nid drwg colli tafarn. Ond y bobl oedd yma hanner can mlynedd yn ol, pa le y maent hwy? Erbyn cyrraedd pen y dref gwyddwn fod llawer mwy o honynt yn huno yn Llanecil