Tudalen:Yn y Wlad.pdf/102

Gwirwyd y dudalen hon

feddwl am dano; ac wedi ail feddwl, tybiwn mai dyna'r ateb priodol. Bendith oreu'r nefoedd i ardal yw cael dynion o gymeriad ac amcanion fel rhai William Roberts i fyw ynddi.

Yn y Plase, parhad o Stryd y Domen, yr oedd cartref John Thomas. Gŵr byr cydnerth oedd ei dad, ysgrythyrwr da, a'i eiriau'n glir a phendant; gwraig dawel, bryd du, lygat-ddu oedd ei fam, yn pryderu llawer am ei bachgen, oherwydd ei fod yn canu cymaint. Yn Nhalsarnau, ac ar hyd ochrau môr Meirionnydd bu yntau'n athraw cydwybodol a llwyddiannus, a thrwy fiwsig rhoddodd dynerwch i gymeriad a phurdeb i chwaeth cenedlaethau o blant. Tybia'r wlad fod y môr a'r gwyntoedd wedi colli rhyw dynerwch pan fu farw ef.

Pwy, a'i gwelodd unwaith, fedr anghofio Robert Jones? Y cerddediad gwisgi ysbonciog, y llygad cyflym siriol, y siarad ffwdanus ffraeth, y chwerthin siaradus caredig, y mae heolydd y Bala fel pe'n fwy cyffredin a marw wedi ei golli ef. Yr oedd tair nodwedd ganddo a'i gwnai, i mi, yn un o'r gwŷr mwyaf hynod yn hanes y Bala. Cefais gynnyg siarad â gwŷr ienainc y Bala y Nadolig. Collais y cyfle. Pe bawn yn fwy ffortunus, gwasgwn arnynt efelychu nodweddion Robert Jones.

Yn un peth, yr oedd yn rhoi ei enaid yn ei grefft. Ei allu, ei ddarllen eang, ei chwaeth bur, ei ynni, —rhoddai'r cwbl yn ei grefft. Lliwiedydd oedd; ac, os lliwiedydd, y goreu y medrai fod. Yr oedd ganddo lygad arlunydd at liwiau; hawdd adnabod ei waith mewn tŷ a chapel a neuadd. Yr oedd ei liwiau'n hyfryd, yn toddi i'w gilydd fel cydgord hyfrytaf miwsig. Ymhyfrydai yn ei waith. Daeth holl blant y Bala i weld crud ei blentyn, yr oedd