Tudalen:Yn y Wlad.pdf/103

Gwirwyd y dudalen hon

y lliwiau y tu mewn iddo mor brydferth, ac yn adlewyrchu cymaint o dlysni ar wyneb baban bach. Byddaf yn ofni weithiau nad oes crefftwr tebig iddo wedi ei adael ar ei ol. Blant y Bala bach, sut mae hi arnoch? Argraffwyr, gofaint, seiri, oriadurwyr, pob un sydd mewn crefft gain a chynnil, a ydyw eich gwaith mor berffaith, mor brydferth, ag y gall fod? A ydyw eich enaid chwi ynddo? Ni ddylai gwaith bler ail law, gwaith diofal ac anhardd, ddod o dref y bu cymaint o egni braich a cheinder meddwl ynddi.

Credai Robert Jones mewn llyfr. Ac yr oedd ganddo sel genhadol ysgol dros lyfr. Cyfarfyddai weithiau a bachgen penwan yn ysmygu myglysen. Taflai'r bachgen y bonyn llosgedig ymaith wrth ddod ato, dim ond llwch ac ychydig fwg, heb adael dim ar ol ond ychydig ychwaneg o awydd am un arall, a dyfnhau ychydig ar gaethiwed yr ysmociwr diofal. "Dyma i ti, fy ngwas i," ebai Robert Jones, yn ei ddull prysur, sydyn, "gad lonydd i'r hen sigarets yna, cadw dy bres, a phryn lyfr da." Ac unwaith y dechreuai son am lyfr da fel cyfaill i ŵr ieuanc, yr oedd ei hyawdledd yn llif. Gwelodd wasg y Bala'n cyhoeddi llyfrau bywyd Cymru, ac ni wnaeth neb fwy, yn ei gylch ei hun, i roi llwybr iddynt at bobl ieuainc. Credai, nid yn unig mewn meddwl a darllen, ond hefyd mewn cyfnewid meddyliau, ac ennill awch newydd trwy ymgom a dadl. Yr oedd Ysgol Sul a Chyfarfod Llenyddol, dau sefydliad nodweddiadol y Bala, wrth ei fodd; ac y mae'n debig fod toraeth hanes yr hen gyfarfodydd llenyddol wedi mynd i'r bedd gydag ef. A thra'n credu ym mhethau goreu hen Fala ei ieuenctid, yr oedd hefyd yn dal ar y blaen o hyd.