Tudalen:Yn y Wlad.pdf/104

Gwirwyd y dudalen hon

Daeth arnaf awydd pregethu wrth dref y Bala. Anfon eto athrawon, fel yn y dyddiau gynt. Llawer William Roberts elo ohonot, i nawseiddio ardal ag addfwynder ei enaid serchog a phur, Anfon eto lawer John Thomas, a'i gariad at fiwsig yn ei wneud yn allu i wareiddio. Ond nac anghofia godi ambell Robert Jones, fu'n aros ynnot, ac yn ddiamynedd wrthyt oherwydd dy ddiffyg ymgais. Y mae ysgolion a cholegau'n codi yng Nghymru heddyw, ac y mae cyfoethogion y tir yn taflu eu rhoddion wrth y deng mil, a'r ugain mil, a'r can mil o bunnau. Ond blodau'r gerddi sydd ynddynt; ac nid ydynt hwy ond ychydig nifer o'u cymharu â blodau gwylltion y cymoedd sydd y tu allan iddynt. Ar y rhai sy'n aros gartref y mae dyfodol ein gwlad yn dibynnu,—ar grefftwyr ei heolydd, ac yn enwedig ar fechgyn meddylgar ei chymoedd.

Mae llu o fechgyn goreu'r Bala a Phenllyn wedi dilyn camrau eu Gwaredwr yn y dyddiau ofnadwy hyn, a llawer wedi gwneud yr aberth mawr. Bechgyn yr Ysgol Sul a'r Cyfarfodydd Llenyddol ydynt. Pa fodd y cofiwn am danynt? Blodau gwylltion fyn bardd Ffestiniog roddi ar feddau y gŵyr am danynt, rhedyn o Gwm Bowydd, grug o Fwlch y Gwynt. Ond beth fydd eu cofgolofn yn eu gwlad eu hunain, y wlad oeddynt i arwain i fywyd uwch? Onid bywyd newydd yn y sefydliadau ffurfiodd eu cymeriadau, ac a'u cododd megis ohonynt eu hunain yn yr ymdrech fawr dros ryddid y byd? Cânt, yn gof am eu gwrhydri a'u haberth flodau gwylltion tecaf bywyd Cymru,—y Cyfarfod Llenyddol a'r Ysgol Sul.