Tudalen:Yn y Wlad.pdf/105

Gwirwyd y dudalen hon

XI
DISSERTH

Y MAE ambell le yng Nghymru y gŵyr pawb ormod am dano, ac ambell le na ŵyr neb odid ddim am ei safle na'i lun. Un enghraifft o'r cyntaf yw lle enwodd pobl y ffordd haearn yn Builth Road, sef y gyffordd ryw filltir a hanner neu ddwy filltir o Lanfair ym Muallt; enghraifft o'r ail yw y lle alwodd eglwyswyr y canol oesoedd yn Ddisserth.

Dau gyrchle haf enwog yw Llanwrtyd ym Mrycheiniog a Llandrindod ym Maesyfed. Y mae'r ddau ar linell y London and North Western sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig. Ond am leoedd eraill, dyweder Caerdydd a Merthyr Tydfil o un cyfeiriad ac Aberystwyth a Llanidloes o gyfeiriad arall, daw eu pobl hyd linell y Cambrian; ac y mae honno'n croesi dan y llinell arall yn Builth Road. Wedi blynyddoedd o brofiad y mae gwŷr y ffyrdd haearn wedi trefnu fod i'r teithwyr fydd yn croesi o'r Cambrian, pa un bynnag ai i Lanwrtyd ai i Landrindod yr ant, aros oriau meithion yn Builth Road. Nid oes yno fawr i'w weled, y mae'r teithiwr profedig yn gwybod am bob coeden os nad am bob blodeuyn sydd yno erbyn hyn; ac nid oes yno ddim i'w wneud os na cherddwch i fyny ac i lawr o'r naill orsaf i'r llall. Y mae yno le aniddorol hyd yn oed yn yr haf, pan fo gold y gors yn goreuo'r ffosydd a'r blodau ar y drain; ond beth am yr adeg y bydd y gaeaf wedi gwywo'r fro, a'i wynt yn treiddio trwy eich esgyrn rhynllyd.