Tudalen:Yn y Wlad.pdf/106

Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yn rhaid i mi fynd o Aberhonddu i Landrindod eleni ar hwyr brynhawn hirddydd haf. Yn lle aros yn y gyffordd, penderfynais fynd ymlaen hyd y Cambrian i'r orsaf sydd ger y bont newydd ar Wy, a cherdded oddiyno ryw bum milltir neu chwech i fyny ac i lawr bryniau Maesyfed i Landrindod. Ac y mae hyn oll i esbonio paham y gwn ymhle mae'r Disserth.

Gadewais y pentref bychan bywiog ar yr Wy, a cherddais, trwy arogl per pinwydd a lartswydd wedi eu torri, i fyny i'r ffordd sy'n cysylltu Rhaeadr Gwy a Llanfair ym Muallt, ond yn ebrwydd troais oddiar hon ar y dde, a chymerais ffordd gulach oedd yn dirwyn i fyny ac i lawr bryniau a chymoedd yr hen Elfael. Y mae pyst wedi eu rhoddi ar y croesffyrdd, ac enwau y lleoedd yr arweinir iddynt a'r pellter oddiwrthynt; ac am y gymwynas honno canmoler sir Faesyfed, canmoler hi lle y gellir. A pharod iawn yw'r bobl i aros i siarad, a hyfforddi dyn dieithr yn bwyllog a manwl. Ond ni ddeallant yr un o enwau eu sir. Y mae'r sir yn siarad Cymraeg, a hwythau'n siarad Saesneg. Arosodd tri gŵr, oedd yn canlyn ceffyl a throl, i ymgomio â mi. Os nad wyf yn cam gofio, yr enw ar y drol oedd Blaenglynolwen, yn un gair hir. Ni wyddent ar wyneb daear beth oedd blaen na glyn," a phan awgrymais y gallai mai ffrydlif oedd Olwen, fel Claerwen, cofiasant fod rhyw nant fechan yn rhedeg heibio'r lle. Pan ddywedais fod Olwen yn enw prydyddol, fel enw'r dduwies gynt a adawai feillion gwynion yn ol ei throed, edrychasant yn syn arnaf ac amheus, fel yr edrychodd eu tadau gynt ar Vavasour Powell neu Howel Harris, a synnent, mae'n ddiameu, beth oeddwn