Tudalen:Yn y Wlad.pdf/107

Gwirwyd y dudalen hon

yn geisio yn sir Faesyfed. Yr oeddynt yn bobl fwyn ac nid yn aneallgar, a phe soniaswn am arwyddion glaw neu bris y defaid y mae'n sicr y siaradasent yn hyawdl gyda doethineb hen draddodiadau a newyddion diweddaraf y farchnad. Ond, er hynny, y mae'n rhaid mai tuedd i suo eu meddwl i gysgu wna byw'n blant, codi'n bobl ieuainc, a thyfu'n henafgwyr heb wybod ystyron y cartrefi y maent yn byw ynddynt.

Cerddais yn hapus a llawen i fyny ac i lawr hyd y ffordd droellog, ac awel dyner y bryniau fel y gwin, a blodau gold y gors fel fflamau tân hyd y gweirgloddiau. Yn sydyn cefais fy hun yn croesi'r afon Ithon, dros bont haearn newydd wen. Llifai'r afon o gwm mynyddig, cymerai redfa hanner cylch o amgylch dol, ac yna troai'n ddiwyd ddistaw gyda godrau trum serth goediog. Yn y gwastad, yn nhroad yr afon, safai eglwys, a mynwent y tu hwnt iddi. Dyma eglwys unig a neilltuedig Disserth.

Cyfyd tŵr ysgwar yr eglwys i uchter o ryw ddeg troedfedd a thrigain, ac y mae hyd yr eglwys dros drigain troedfedd. Ac yno y gorwedd, fel rhywbeth dieithr iawn, a tharawiadol iawn, a'r bryniau oll wedi troi eu cefnau ar y ddol isel sydd, fel pe'n eiddo iddi. Beth yw ystyr yr enw? Lle du serth, ebe rhai, oddiwrth y bryniau sy'n edrych i lawr yn wgus ar gyfer yr eglwys unig. Lle nad yw'n serth, lle di-serth, ebe eraill, oherwydd fod yr eglwys yn gorwedd ar ddôl, sy'n wastad ac isel o'i chymharu a'r Carneddau o gwmpas. Ond y mae'n sicr mai o'r gair Lladin desertum, yn ei ystyr eglwysig, sef lle wedi ei adael, lle neilltuedig ac unig, y daw'r