Tudalen:Yn y Wlad.pdf/108

Gwirwyd y dudalen hon

enw Disserth. Esbonia'r Dr. John Davies y gair desertum fel hyn,—" diffaith, diffeithwch, diffeithle, anialwch, dyrysni, lle anial, disserth. Ac atgofia D. Silvan Evans ni o gyfieithiad Edmwnd Prys o'r bedwaredd salm ar ddeg a thrigain,—

Drylliaist ti ben, nid gorchwyl gwan,
Y Lefiathan anferth;
I'th bobl yn fwyd dodaist efo,
Wrth dreiglo yn dy ddyserth."

Ond gadewch i ni roi tro i'r fynwent. Y mae hesben y glwyd yn codi'n rhwydd, a neb yn gwarafun i ni fynd i mewn. O'r fynedfa i'r eglwys, nid oes ond gwair. Y mae'r muriau'n hynafol, a pheth gwyrni yma ac acw. Y mae gwydr y ffenestri yn loyw, a gwelwch ddigon i ddeall mai adeilad hen, syml, a glân ydyw. Y mae ychydig o hanes lleol diweddar rhanbarth gwledig Colwyn ar furiau llaith y porth, ond nid yw drws yr eglwys yn agored.

Y tu cefn i'r eglwys y gorwedd hen breswylwyr y fro. A thawel yw eu hûn. Y mae'r Ithon fel pe'n cilio oddiwrth y beddau, a daw ei murmur mwyn yn dyner dros ddol sydd rhyngddi a'r fangre gysegredig. Cartref dedwydd adar a blodau gwylltion yw'r llecyn tawel hwn yn nhroad dyfroedd Ithon.

Nid oes yma ŵr enwog inni fynd i chwilio am ei fedd. Mor ychydig o hen hanes sydd i sir Faesyfed; ond er mor ychydig, y mae hanes diweddar y sir, sef hen Elfael a Maelenydd, yn brinnach o lawer. Yr oedd cestyll lawer ynddi, Rhaeadr Gwy a Cholwyn a Chastell Paen a llu eraill, ac yr oedd cestyll pwysig Llanfair ym Muallt ac Aberhonddu ar ei chyrrau. Brithir hi gan enwau sy'n atgofio'r