Tudalen:Yn y Wlad.pdf/110

Gwirwyd y dudalen hon

heisiau mwyach, torrodd y llif y pontydd, ac ysgubodd y melinau o'i flaen. A allai rhywbeth gwaeth ddod? Gallai, wele senesgal y brenin yn dod, ac yn dweyd wrth y werin ddig drallodus eu bod wedi arfer trespasu ar borfeydd Elfael ar eu cyfer. Ac fel y sychter a'r glaw dygodd yntau anrhaith arnynt.

Ar y porfeydd a'r tywydd yr oedd meddwl gwŷr Elfael, a gwyddai seintiau'r Disserth pa fodd i ennill eu sylw. Felly cysegrasant eu heglwys i Gewydd Sant, "yr hen Gewydd y glaw." Efe yw Swithin Cymru, neu efe ddylai fod, ond fod y Sais wedi graddol ymwthio i'w le. Ac os sant, sant fedrai ddwyn sychter a glaw yn eu hamser i wŷr Elfael! Y mae'n ddiameu fod yn y gilfach dawel a neilltuedig hon, ganrifoedd cyn i'r efengyl ddod i'r wlad, addoli prysur rhyw hen dduw paganaidd ystyrrid gan y werin yn un fedrai reoli gwynt a glaw. a chadwasant ei wyl dan enw Gwylmabsant Cewydd bob Sul cyntaf yng Ngorffennaf hyd yn ddiweddar.[1]

Deuwn i oesoedd diweddar, pan oedd pethau rhyfedd yn cynhyrfu ein gwlad. Un o Faesyfed oedd Vavasour Powel. Yr oedd Howel Harris yn byw ar ei chyffiniau, ac iddi hi y mentrodd gyntaf i bregethu'r efengyl losgai yn ei enaid a'r farn fflamiai yn ei gydwybod. Mewn cymoedd mynyddig o amgylch y sir cododd dynion rhyfedd. Rhyw bum milltir ar hugain i'r dwyrain dros Fwlch yr Efengyl, a dyna chwi yn Olchon, hen grud y

Bedyddwyr yng Nghymru. Y mae Trefeca'n

  1. Ceir enwau Cewydd mewn lleoedd eraill. Y mae Cwm Cewydd ym Mawddwy. "Cewydd's hope," hafn Cewydd rhwng mynyddoedd, yw Cusop ym Maesyfed.