Tudalen:Yn y Wlad.pdf/111

Gwirwyd y dudalen hon

agosach, ac nid yw Aberhonddu'n bell. Y lle cyntaf y deuir iddo dros fynyddoedd meithion y gorllewin ydyw Tregaron, ac y mae Llangeitho gerllaw hwnnw. Ond, er ymdrech y Bedyddiwr, yr Anibynnwr, a'r Methodist, ychydig wrandawodd sir Faesyfed; a'r hyn a glywodd, hi a'i hanghofiodd bron yn llwyr.

Nid oes ond un esboniad. Collodd sir Faesyfed y grym cymeriad a'r argyhoeddiadau dyfnion ddaeth o ddiwygiadau Cymru wrth golli ei Chymraeg.

Yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg ystyrrid esgobaeth Henffordd yn un Gymreig, ac yr oedd yr esgob yn un o'r pump oedd i ofalu am droi'r Beibl i'r iaith Gymraeg. Yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd milwyr Cromwell yn clywed Cymraeg yn Heolydd Henffordd. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif yr oedd Cymraeg a Saesneg yn gymysg yng nghymoedd Henffordd a Maesyfed. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Cymraeg wedi distewi yn y mynyddoedd prydferth hyn, hyd yn oed yn Rhaiadr Gwy.[1]

Yn 1746 yr oedd Joshua Thomas, hanesydd difyr y Bedyddwyr, yn crwydro o'r Gelli i Olchon fynyddig yn sir Henffordd ac i gymoedd Maesyfed i bregethu. Olchon oedd yr hen eglwys, yr eglwys ymneilltuol ystyria ef yn hynaf yng Nghymru. Eglwys Gymraeg oedd. Dechreuwyd pregethu yn sir Faesyfed yn 1630, a chlywyd Walter Cradoc a Vavasour Powell ac eraill ymhob rhan o'r sir.

  1. Fel iaith addoli cyhoeddus. Yn ol Census 1911 siaradai 1139 Gymraeg (213 yn Llandrindod, 522 yn Rhaeadr Gwy), lleihad o 221 er 1901.