Tudalen:Yn y Wlad.pdf/112

Gwirwyd y dudalen hon

Tua 1750 yr oedd Llanddewi Ystradeni, tua chanol sir Faesyfed, yn Gymreig; yr oedd y Dolau yn Gymreig a'r Rock yn hytrach yn Seisnig. Nid llawer o ymdrech wnawd i gadw'r Gymraeg, un gweinidog Saesneg yn unig ddysgodd Gymraeg i Joshua Thomas wybod am dano, sef Roger Walker y Rock. "Sais naturiol" fu farw yn 1748. Ond buan y lliosogodd y Saeson anaturiol, Saesneg oedd iaith porthmon a marchnad; ciliodd y Gymraeg hyd yn oed yn sŵn y diwygiadau, fel y collwyd hi megis yn islais leddf afon Gwy. Ciliodd mor sydyn o Faelenydd ac Elfael fel na chafwyd amser i gyfieithu enwau lleoedd Cymraeg i'r Saesneg, oddigerth ambell un, fel Croesffordd yn Crossway. Collodd yr ll oddiar dafodau'r Cymry Seisnigwyd; ac o raid cyfieithasant Pwll yn Pool, ond yn bur anghelfydd, Mawn Pools yw Pyllau Mawn, a Pool Reddings yw Pwll Rhedyn. Ond erys bron yr oll o'r hen enwau prydferth prydyddol yn eu ffurf gywir.

Diflannodd eglwysi bychain y Bedyddwyr wedi ymdrechion arwyr Joshua Thomas. Yr un yw adroddiad prudd hanesydd y Methodistiaid; diflannodd yr eglwysi er fod "Trefeca ddim ymhell, na Phant y Celyn," er fod Thomas Jones danbaid, Robert Newell dduwiol, a William Evans hawddgar yn byw o fewn y cylch." Ni roddwyd bywyd newydd i Eglwys Loegr, fel y gwnawd mewn ambell sir. Symir yr hanes digalon gan hanesydd manwl yr Anibynnwyr, fod yn amheus a wnelai yr holl Ymneilltuwyr drwy y sir bum mil allan o'r pum mil ar hugain trigolion, a bod yr eglwysi plwyfol hefyd, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn weigion a hollol ddilewyrch. Y mae'n amlwg