Tudalen:Yn y Wlad.pdf/113

Gwirwyd y dudalen hon

fod bywyd ysbrydol sir Faesyfed yn curo'n wannach na bywyd siroedd eraill Cymru. Methodd y Saesneg groesi afon Wy, ac ychydig bontydd oedd dros yr afon yr adeg honno. Meddylier am ardaloedd meddylgar Llanwrtyd, ac am oedfaon Troedrhiwdalar ar yr ochr arall i'r afon. Paham y mae ochr sir Faesyfed i'r afon mor anhebig iddynt hwy! Wrth rifo llu llenorion Buallt, pang rydd cofio nad oes fardd na llenor wedi codi yn Elfael a Maelenydd.

Bu ymdrech rhwng ysbryd crefydd ac ysbryd y byd yn Nisserth, a rhwng Saesneg a Chymraeg. Ond anhebig yw y ceir enwau'r hen arwyr yn y fynwent hon. Erlidiwyd y Bedyddwyr, ebe Joshua Thomas, trigent ymysg eirth a llwynogod, ac ni chaent feddau yn nhawelwch y llannau. Ond, wedi'r ymgom hir a phrudd hon, trown at y beddau. Y mae ambell i adnod ac ambell i bennill arnynt. Wrth gofio yr oedd amryw o'r hen Fedyddwyr yn feirdd, ond er pregethu gydag eneiniad yn Gymraeg, canent heb eneiniad yn Saesneg. Dyma bennill sydd ar fedd merch Glan Gwy, fu farw'n eneth bedair ar bymtheg oed,—

"The King of Terrors spareth none,
Neither rich nor poor, nor old nor young;
Reader, before thy minutes fly,
Redeem thy time and learn to die;
Now make thy peace with God alone,
Slight not the counsel of a stone."


Y mae yma benhillion Saesneg eraill, ac wrth eu darllen hiraethwn am emynnau melodaidd Cymraeg ysgrifennwyd yn sir Faesyfed,—

"Duw, atal di rwysg fy meddyliau ffol,
A dena'm serch a'm calon ar dy ol:
Yn holltau'r graig dod i'm ymgeledd glyd,
Mewn tawel hedd, nes mynd o'r anial fyd."