Tudalen:Yn y Wlad.pdf/114

Gwirwyd y dudalen hon

Yr enwau cartrefi sydd fwyaf diddorol. Y mae rhai yn Gymraeg syml glân,—Brynn, Pentre, Nant yr Haidd, Tan y Graig, Ty Gwyn, Maes Gwyn, Cefn Mawr, Berth Lwyd, Pendre, Nant yr Hwch, Cefnllys, Gilfach, Tŷ Moses,—heb ofyn am esboniad ond i'r bobl sy'n byw ynddynt. Ceir arlliw tafodiaith mewn eraill,—Girn Fawr, Goyfron neu Goy Fron, Coedca, Carn, Gyrn, Carneddau, —dyna'r ffurf unigol, ddeuol, a lliosog. Lle iach yw'r Geufron; yr oedd Thomas Jones, fu farw yno Tachwedd 5, 1784, yn 99 oed. Buasai rhai o'r enwau yn deffro dychymyg hynafiaethwyr siroedd eraill, Bryn Sadwrn, Tylellow, Garddu. Sillebir rhai enwau heb ddeall eu hystyr,—Pothley Mawr, Tyr Meirig, Penmincae, Abercamloo, Howey. Cyfieithir ambell un,—Castle Farm, Cross Way. Gwelir dirywiad ambell air,—ceir Bryn y Groes ar hen fedd, a Bryn Groce ar un diweddar; Bryngwanff ar fedd newydd, a'r esboniad cywir ar hen fedd, sef Bryn Gwanaf.

Y mae'n dechre nosi, a rhaid cychwyn. Gwrandawaf ennyd ar frefiadau defaid pell, a murmur distaw Ithon. Dringaf fryniau eraill yn hoyw, croesaf afon Hywi, prysuraf i dŷ Cymro yn Llandrindod cyn iddo gloi ei ddor. Cyn cysgu'r noson honno effro freuddwydiwn am y bryniau a'r dolydd gollasant eu hiaith, am gymoedd didalent allasent fod yn gartrefi meddylgarwch. A chofiwn fod plant sir Faesyfed yn blant bach anwyl, a'u bod wedi dechre dysgu digon o Gymraeg yn eu hysgolion i ddeall enwau eu hen gartrefi.