Tudalen:Yn y Wlad.pdf/119

Gwirwyd y dudalen hon

caledu ydyw. Wedi hynny bu mewn afon o rew, yn symud yn yr afon araf, a cherrig eraill yn gwmni iddi. Yr adeg honno y llyfnhawyd hi, ac y tynnwyd pob crychni o'i hwyneb. Hwyrach iddi gael ei henw oddiwrth ei chysylltiad a'r afon ia, o ryw atgofion pell. Y "Fach Rewlyd," hwyrach, oedd cornel oer lle'r oedd y rhew heb gwbl doddi. Ceir y gair mewn enwau lleoedd eraill heb fod ymhell, megis Ty'n y Fach a'r Fach Ddeiliog. Darn ydyw'r garreg o'r mynyddoedd y canodd Huw Derfel am eu ffurfiad a'u diwedd, wrth groesi'r Berwyn draw,—

"Chwi heriwch alluoedd elfennol
Feraon tragwyddol o'r bron,
Taranau, mellt saethawl, corwyntoedd,
A chenllif dyfnderoedd y don;
Ond gwelaf ryw ddiwrnod yn nesu,
A ellwch chwi sefyll bryd hyn?
Y ddaear a ymchwydd fel meddwyn,
A nerthoedd y nefoedd a gryn."

Nid oedd Huw Derfel ond un o feirdd y fro hon. Hwyrach y dywedir eu hanes yn ystod yr Eisteddfod.

Y mae carreg hynod arall ym muriau eglwys Corwen. Yng nghefn yr eglwys, yn lintel i ddrws yr offeiriad, ar ochr ddeheuol y gangell, ceir carreg hir ar ei hochr a llun croes arni. Tybiodd gwerin gwlad mai llun dagr Owen Glyndwr oedd y groes. Taflodd yr arwr ei ddagr, fel y gwnaethai hen gawr neu hen dduw yn yr oesoedd gynt, a gadawodd y dagr ei lun ar y garreg hyd heddyw. Y mae'n ddigon tebig mai carreg fyddai unwaith ar ei phen ger llys Owen Glyndwr oedd y garreg hon. Byddai carreg felly yn aml mewn bwlch a chroesffordd,