Tudalen:Yn y Wlad.pdf/123

Gwirwyd y dudalen hon

wynebu. Awn dros fryn y coleg, ac yn y man deuwn at lan Tryweryn, a murmura gwmni diddan inni, fel y gwnai i Dr. Edwards pan yn myfyrio am athrawiaeth yr iawn a chysondeb y ffydd ar ei hoff rodfa. Croeswn yr afon cyn hir, gadawn ar y dde y ffordd sy'n troi tua Cherrig y Drudion. Beth yw'r dyrfa fawr hon? Carcharorion Almaenaidd wedi cartrefu o'u hanfodd mewn hen waith whisci oedd wedi mynd yn hesb. Gadawn hwy ac atgofion am y rhyfel, y mae mynyddoedd cribog yn ymagor o'n blaen, a'r Arennig yn bennaf ohonynt. Down uwchben dolydd a gweirgloddiau dan ganu at Gapel Celyn, a gadawn ar y dde y llwybr sy'n arwain dros y mynyddoedd unig i Ysbyty Ifan, lle y bu gynt urdd filwrol Ioan Fedyddiwr, a'r lladron llofruddiog ymdyrrent yno i fod dan eu nawdd. Os gaeaf yw hi, y mae rhaeadrau'r afon, wrth ddisgyn dros eu grisiau cerrig a than y coedydd, yn dawnsio ac yn chware ar y creigiau, ac yn wynnach na'r dim gwynnaf. Os hydref yw hi. ceir y griafolen, ym mherffeithrwydd tlysni cochter ei haeron, yn plygu uwch ben llynnoedd cornentydd y creigiau. Ac ar bob tywydd, boed fwynder Mehefin neu des Awst, gorchudd o wlaw neu ruthr o eira, ceir golygfeydd bythgofiadwy ar ardderchogrwydd natur.

Yn Rhyd y Fen, tua hanner y ffordd, gallwn gael y lluniaeth sy'n angenrheidiol, ac yna dyna'r Migneint o'n blaenau. Wedi gadael Rhyd yr Helfa a'r Tai Hirion byddwn am filltiroedd heb ddod at dŷ na thwle. Ond gwelwn Lyn Tryweryn odditanom, a'r Amnoddau pell, lle y bu Ap Vychan yn hogyn twyso, ac i'r rhai y canodd ei englynion