Tudalen:Yn y Wlad.pdf/125

Gwirwyd y dudalen hon

campus. Cawn gip ar flaen cymoedd Trawsfynydd,—ac yna dim ond mynydd, a defaid, a brwyn. Cyll y byd terfysglyd ei holl ddwndwr yma, yn uchel gysegr natur; daw grym i'r meddwl a chwardd wrth gofio ei ofnau, daw ffydd yn ddigon cref i daflu mynyddoedd i'r môr. Yma anedlir anfarwoldeb, a bydd atgof am y lle yn gordial ar lawer awr o iselder ac amheuaeth wedi hyn. Mynydd y gweddnewidiad fydd Migneint i lawer enaid gwyw.

Wedi dechre disgyn, y lle byw cyntaf y down ato yw Pont yr Afon Gam, ac ar y dde gadawn y ffordd fynyddig sy'n croesi'r mynydd i Benmachno. Toc, wedi dringo bryncyn gwelwn Raeadr y Cwm odditanom. Disgyn yn esmwyth a distaw fel breuddwyd o lyn i lyn. Ni flinir wrth edrych arno. Ni synnwn na chysget yn y grug, a byddai dy freuddwyd fel un Jacob gynt, am ysgol yn cyrraedd i'r nefoedd, ac engyl yn disgyn ar hyd—ddi. Y mae'r grug ar y llethr gyferbyn, gwelir yr hebog megis yn sefyll yn llonydd ar ei aden, ac ymhell bell islaw gwelir dolydd gwyrddion Cwm Cynfal.

Yr ydym newydd adael cysegr unigedd y mynydd a'r enaid, y mae ein traed yn awr yng nghysegr rhamant a llenyddiaeth ein gwlad. Ar y dde, ar odrau'r mynyddoedd, y mae Llyn y Morwynion a Beddau Gwyr Ardudwy; i lawr yng nghwm coediog rhaeadrog Cynfal, ar y chwith, y mae pulpud carreg Huw Llwyd, a gwlad Edmwnd Prys a Morgan Llwyd o Wynedd. A chroesir ein ffordd yn y man gan Sarn Helen, lle gwel llygad dychymyg y bugail, lengoedd Helen yn ymdeithio ambell nos loergan lleuad.